Copilot Chat

Diweddarwyd y dudalen: 23/10/2025

O 27 Hydref ymlaen, bydd gan holl staff y Cyngor fynediad at Copilot Chat, sef cynorthwyydd Deallusrwydd Artiffisial o fewn Teams a Microsoft Edge.

P'un a ydych chi'n drafftio dogfennau, yn crynhoi cynnwys neu'n taflu syniadau, bydd Copilot Chat yn gallu eich helpu i weithio'n ddoethach ac yn gyflymach.

Mae'r cynorthwyydd Deallusrwydd Artiffisial hwn, sef Copilot Chat, yn rhan o'n pecyn o gymwysiadau Microsoft 365 sydd ar gael i'r holl staff. Mae wedi'i gynllunio i gynorthwyo â'ch tasgau o ddydd i ddydd gan gadw eich data'n ddiogel a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â safonau GDPR a Ffiniau Data yr UE

Copilot Chat neu Microsoft 365 Copilot

Copilot Chat

  • Integreiddio: Mae ar gael yn Microsoft Teams a Microsoft Edge, ac mae modd i'r holl staff ei gyrchu fel rhan o becyn safonol Microsoft 365.
  • Mynediad at Ddata: Nid yw'n cyrchu data sefydliadol mewnol yn awtomatig (negeseuon e-bost, cyfarfodydd, ffeiliau, ac ati.). Yn lle hynny, mae'n creu ymatebion yn seiliedig ar gynnwys gwe ac unrhyw ffeiliau rydych chi'n eu llwytho yn ystod y sgwrs.
  • Nodweddion: Mae'n darparu cymorth ar ffurf sgwrs ar gyfer drafftio dogfennau, crynhoi cynnwys, taflu syniadau, ac ateb cwestiynau. Mae'n wych ar gyfer ymholiadau cyffredinol a chael cymorth yn gyflym.
  • Cymhwysedd: Mae wedi'i gynnwys ar gyfer yr holl staff heb fod angen unrhyw drwyddedu ychwanegol.
  • Diogelwch: Mae wedi'i ddatblygu gan ddefnyddio diogelwch gradd menter ac mae'n cydymffurfio â GDPR.
  • Achos Defnydd: Mae'n addas ar gyfer staff sydd angen cael cymorth yn gyflym, ar ffurf sgwrs, ac nid oes angen integreiddio â data sefydliadol neu awtomeiddio uwch

Copilot Microsoft 365:

  • Integreiddio: Mae wedi'i ymgorffori'n ddwfn yng nghymwysiadau Microsoft 365 fel Word, Excel, PowerPoint, Outlook, a Teams.
  • Mynediad at Ddata: Mae'n gallu cyrchu eich negeseuon e-bost gwaith, cyfarfodydd, sgyrsiau, dogfennau, SharePoint, a ffeiliau OneDrive yn ddiogel, darparu ymatebion cyd-destunol perthnasol ac awtomeiddio tasgau o fewn yr apiau hynny.
  • Nodweddion: Mae'n cefnogi nodweddion cynhyrchiant uwch fel rhoi crynodeb o gyfarfodydd, llunio dogfennau, dadansoddi data, creu cyflwyniadau, ac awtomeiddio tasgau ailadroddus.
  • Cymhwysedd: Mae angen cael trwydded Microsoft 365 Copilot bwrpasol sy’n cael ei neilltuo gan yr adran TG. Mae'r drwydded fel arfer ar gael i staff y mae eu rolau yn cael budd o integreiddio dyfnach a nodweddion uwch.
  • Diogelwch: Mae'n cydymffurfio'n llawn â safonau diogelu data mentrau, gan barchu caniatâd defnyddwyr a pholisïau sefydliadol.
  • Achos Defnydd: Mae'n ddelfrydol ar gyfer staff sydd angen cael cymorth Deallusrwydd Artiffisial yn uniongyrchol o fewn eu hoffer gwaith o ddydd i ddydd a mynediad at ddata sefydliadol

Yn Microsoft Teams:

  • Agorwch Microsoft Teams ar eich gliniadur.
  • Chwiliwch am yr eicon Copilot Chat yn y bar ar yr ochr (fel arfer ar ochr chwith ffenestr Teams).
  • Cliciwch ar yr eicon Copilot Chat i lansio'r cynorthwyydd.
  • Dechreuwch deipio eich cwestiwn neu eich tasg. Mae Copilot Chat yn barod i'ch helpu i ddrafftio dogfennau, crynhoi cynnwys, taflu syniadau, a mwy.

Yn Microsoft Edge:

  • Agorwch Microsoft Edge ar eich gliniadur.
  • Gwnewch yn siŵr bod y fersiwn ddiweddaraf o Edge wedi'i gosod.
  • Chwiliwch am yr eicon Copilot ar ochr dde uchaf y porwr a chliciwch arno i lansio Copilot Chat.

Mae Copilot Chat yn gynorthwyydd wedi'i bweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial sydd ar gael yn Microsoft Teams ac Edge ac sydd wedi'i ddatblygu i helpu staff i weithio'n ddoethach ac yn gyflymach. Mae ei brif fanteision yn cynnwys:

  • Hwb i Gynhyrchiant: Mae Copilot Chat yn eich helpu i ddrafftio dogfennau, crynhoi cynnwys, taflu syniadau, ac ateb cwestiynau'n gyflym, gan leihau'r amser rydych chi'n ei dreulio ar dasgau ailadroddus a'ch galluogi i ganolbwyntio ar waith gwerth uwch.
  • Mynediad Hawdd a Chymorth ar ffurf Sgwrs: Gallwch gyrchu Copilot Chat yn uniongyrchol yn Teams neu Edge, gan ei gwneud hi'n hawdd cael help ar unwaith gyda thasgau o ddydd i ddydd trwy ryngwyneb sydd ar ffurf sgwrs.
  • Adalw a Chrynhoi Gwybodaeth: Gall Copilot Chat ddod o hyd i wybodaeth am bynciau penodol, crynhoi dogfennau cymhleth, a chrynhoi pwyntiau allweddol o erthyglau neu dudalennau gwe, gan gefnogi gwaith ymchwil a phenderfyniadau.
  • Creu a Thaflu Syniadau: Mae'n offeryn gwerthfawr ar gyfer creu syniadau, creu amlinelliadau, a datrys problemau ar y cyd.
  • Diogelwch a Chydymffurfiaeth: Mae Copilot Chat wedi'i ddatblygu drwy ddefnyddio diogeledd a diogelu data gradd menter, gan sicrhau bod eich rhyngweithiadau'n cael eu diogelu a'u bod yn cydymffurfio â GDPR a safonau eraill.

Er mwyn cefnogi'r holl staff, rydyn ni wedi lansio modiwl e-ddysgu Deallusrwydd Artiffisial newydd, sydd wedi'i ddatblygu i'ch helpu i ddeall a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn eich tasgau dyddiol. Mae'r modiwl hwn yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys hanfodion Deallusrwydd Artiffisial, ei gymwysiadau mewn gwahanol feysydd, a sut i ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial yn effeithiol ac yn foesegol.

Cliciwch yma i gymryd rhan