Y 10 awgrym gorau i roi cynnig arnynt yn gyntaf

Diweddarwyd y dudalen: 09/07/2024

  1. Crynhoi cyfarfod - gadewch i Copilot gadw golwg ar y pynciau allweddol a'r eitemau ar gyfer gweithredu fel y gallwch chi ganolbwyntio yn ystod y cyfarfod ac osgoi gwrando ar y recordiad wedi hynny. ‘Drafftiwch e-bost yn cynnwys nodiadau ac eitemau ar gyfer gweithredu o'r cyfarfod.’
  2. Crynhoi edefyn negeseuon e-bost – gallwch ddal i fyny'n gyflym ag edefyn negeseuon e-bost hir a chymhleth. ‘Cliciwch ar yr eicon Crynhoi’.
  3. Drafftio e-bost – gallwch bersonoli'r naws a'r hyd. ‘Drafftiwch e-bost at [enw] sy'n rhoi gwybod iddo fod Prosiect X wedi'i ohirio am bythefnos. Gwnewch yr e-bost yn fyr ac yn hamddenol ei naws.’
  4. Crynhoi dogfen – ewch at wraidd y mater drwy grynhoi dogfennau hir a chanolbwyntio ar y rhannau perthnasol. ‘Rhowch restr fwled i mi o bwyntiau allweddol y ffeil.’
  5. Dywedwch wrthyf am bwnc/prosiect – gallwch gael dealltwriaeth a dadansoddiad o sawl ffynhonnell i ddeall mater yn gyflym. ‘Dywedwch wrthyf beth sy'n newydd am bwnc wedi'i drefnu yn ôl negeseuon e-bost, sgyrsiau a ffeiliau.’
  6. Rhowch imi syniadau am... – rhowch hwb i'ch creadigrwydd gyda syniadau ar gyfer eich gwaith fel agendâu, enwau cynnyrch, postiadau cyfryngau cymdeithasol, ac ati. ‘Awgrymwch 10 slogan cymhellol yn seiliedig ar y ffeil.’
  7. Helpwch fi i ysgrifennu ... – byddwch yn fwy creadigol ac ysgrifennu a golygu yn broffesiynol drwy gael drafft cyntaf mewn eiliadau. ‘Cynhyrchwch dair ffordd o ddweud [x].’
  8. Beth ddwedon nhw... – pan fydd gennych frith gof bod rhywun wedi sôn am bwnc, gadewch i Copilot wneud yr ymchwil. ‘Beth ddywedodd rhywun am y pwnc.’
  9. Adolygu’r cynnwys – pan fydd gennych ddrafft bras o syniad, trowch ef yn destun y gellir ei ddefnyddio ac amrywio'r hyd a'r naws. ‘Ailysgrifennwch gyda Copilot.’
  10. Cyfieithu neges - gan fod busnes yn mynd yn fwyfwy rhyngwladol, mae'n bwysig gallu darllen neu ysgrifennu negeseuon mewn ieithoedd eraill. ‘Cyfieithwch y testun canlynol i'r Ffrangeg.’

 

Am fwy o awgrymiadau, ewch i Copilot Lab: https://copilot.cloud.microsoft/en-US/prompts