Hidlo negeseuon e-bost sbam
Diweddarwyd y dudalen: 16/05/2023
Rydym bellach yn defnyddio Microsoft Exchange Online Protection (EOP) i hidlo'r negeseuon e-bost sy'n cael eu danfon i'ch mewnflwch. Bydd system hidlo e-byst Microsoft yn asesu'r tebygolrwydd fod e-bost sy'n cael ei anfon atoch yn sbam, drwy roi sgôr iddo (mae'r sgôr yn seiliedig ar nifer o feini prawf). Po uchaf y sgôr, po fwyaf tebygol bod yr e-bost yn sbam. Yn dibynnu ar y sgôr, gall nifer o bethau ddigwydd:
- Bydd negeseuon e-bost a ystyrir yn ddiogel yn dod i'ch mewnflwch.
- Bydd negeseuon e-bost sydd â sgôr sbam isel yn cael eu hanfon i'ch ffolder 'E-bost Sothach'.
- Bydd negeseuon e-bost sydd â sgôr sbam uchel yn cael eu rhoi mewn cwarantin.
Byddwch yn derbyn e-bost gan Microsoft (quarantine@messaging.microsoft.com) bob dydd os oes gennych e-byst sydd mewn cwarantin.
Negeseuon E-bost mewn Cwarantin
Os oes gennych unrhyw negeseuon e-bost mewn cwarantin byddwch yn derbyn e-bost bob dydd (o'r cyfeiriad hwn:quarantine@messaging.microsoft.com) yn debyg i'r un isod, i roi gwybod i chi am hyn.
Drwy'r e-bost hwn gallwch gyflawni nifer o gamau o ran y neges(euon) e-bost mewn cwarantin drwy glicio ar yr opsiynau hyperddolen (yn y sgwâr coch yn y ddelwedd uchod) wrth ei ymyl.
Camau gweithredu
- Rhagweld y neges os hoffech gael cipolwg ar y cynnwys neu'r pennyn cyn symud ymlaen.
- Lawrlwytho'r neges os hoffech adolygu'r neges a'r atodiadau (os oes rhai) ar eich dyfais cyn symud ymlaen.
- Rhyddhau i flwch post os nad yw'r neges yn sbam ac rydych am i Office 365 anfon y neges i'ch blwch post.
- Rhyddhau i flwch post a chaniatáu'r anfonwr os nad yw'r neges yn sbam ac rydych am i Office 365 ychwanegu'r anfonwr at eich rhestr o anfonwyr a derbynwyr diogel ar gyfer e-byst yn y dyfodol. Cofiwch efallai fod gan eich gweinyddwr gyfluniadau eraill o ran caniatáu/blocio ar waith yn yr awdurdod sy'n gwrth-wneud eich rhestr o anfonwyr diogel.
- Rhyddhau i flwch post a hysbysu Microsoft os nad yw'r neges yn sbam ac rydych eisiau anfon y neges at eich blwch post a hysbysu Microsoft ynghylch y neges er mwyn ei dadansoddi.
- Blocio'r anfonwr os ydych am i Office 365 ychwanegu'r anfonwr at eich rhestr o anfonwyr sydd wedi'u blocio.
Porth e-bost mewn cwarantin
Os oes angen i chi ryddhau neges e-bost ar unwaith am unrhyw reswm, ac nid ydych eisiau aros i dderbyn yr e-bost cwarantin dyddiol, gallwch fynd i'r Porth E-bost mewn Cwarantin yma. Yn y Porth E-bost mewn Cwarantin, gallwch chwilio am eich negeseuon e-bost yn ôl pwnc, cyfeiriad e-bost yr anfonwr neu eich cyfeiriad e-bost eich hun, yn y blwch chwilio (yn y sgwâr coch yn y ddelwedd isod) ar frig y dudalen.
Ar ôl i chi ddod o hyd i'r e-bost yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch y blwch ar ochr chwith yr e-bost, a dewiswch un o'r opsiynau yn y ffenest (yn y sgwâr glas yn y ddelwedd uchod) sy'n ymddangos.
Camau gweithredu
- Rhyddhau neges os nad yw'r neges yn sbam ac rydych am i Office 365 anfon y neges i'ch blwch post.
- Gweld pennyn y neges i ragweld pennyn y neges cyn symud ymlaen.
- Rhagweld y neges er mwyn cael cipolwg ar gynnwys yr e-bost cyn symud ymlaen.
- Lawrlwytho'r neges os hoffech adolygu'r neges a'r atodiadau (os oes rhai) ar eich dyfais cyn symud ymlaen.
- Dileu'r e-bost o'r cwarantin er mwyn dileu'r neges yn llwyr.
Defnyddio'r ychwanegyn 'Report Message'
Gan Microsoft: Adran cymorth ar gyfer Rhoi Gwybod am Neges
'Mae'r ychwanegyn 'Report Message' yn gweithio gydag Outlook er mwyn eich galluogi i roi gwybod i Microsoft am unrhyw negeseuon amheus ynghyd a rheoli sut y mae eich cyfrif e-bost Office 365 yn trin y negeseuon hyn.
Caiff negeseuon y mae eich cyfrif e-bost Office 365 yn eu nodi'n sothach eu symud yn awtomatig i'ch ffolder 'E-bost Sothach'. Fodd bynnag, mae ymdrechion sbamio a gwe-rwydo yn newid yn barhaus. Os ydych yn derbyn e-bost sothach yn eich mewnflwch, gallwch ddefnyddio'r ychwanegyn 'Report Message' i anfon y neges at Microsoft i'w helpu i wella ei hidlyddion sbam. Os ydych chi'n dod o hyd i e-bost yn eich ffolder 'E-bost Sothach' nad yw'n sbam, gallwch ddefnyddio'r ychwanegyn 'Report Message' i nodi ei fod yn e-bost dilys, symud y neges i'ch mewnflwch, a rhoi gwybod am y camsyniad er mwyn helpu Microsoft i wella ei hidlyddion sbam.
Os ydych yn dewis 'Junk', 'Phishing’, neu ‘Not Junk', gallwch ddewis anfon copi o'r neges at Microsoft, ynghyd â'ch categoreiddiad chi o'r neges. Mae hyn yn ddewisol. I rhwystro'r opsiwn i anfon copi o'r neges at Microsoft, ewch i 'Options' a dilynwch y camau a restrwyd o dan Opsiynau yr ychwanegyn Rhoi Gwybod am Neges isod.
Fel arfer, cyfeirir at negeseuon e-bost sothach fel sbam. Mae'r rhain yn negeseuon nad ydych am eu derbyn a allai fod yn hysbysebu cynhyrchion nad ydych yn eu defnyddio neu'n sarhaus. Os ydych chi yn dewis yr opsiwn 'Junk', mae'n bosibl y bydd copi o'r neges yn cael ei anfon at Microsoft i helpu i ddiweddaru ein hidlyddion sbam, a bydd y neges yn cael ei symud o'ch mewnflwch i'ch ffolder 'E-bost Sothach'.
Gwe-rwydo yw'r arfer o'ch annog i ddatgelu gwybodaeth bersonol, megis rhif eich cyfrif banc a chyfrineiriau. Yn aml mae negeseuon gwe-rwydro yn edrych yn ddilys, ond mae ganddynt gysylltiadau twyllodrus sy'n agor gwefannau ffug. Os ydych yn dewis 'Phishing', mae'n bosibl y bydd copi o'ch neges yn cael ei anfon at Microsoft er mwyn helpu i ddiweddaru ein hidlyddion, a bydd y neges yn cael ei symud o'ch mewnflwch i'ch ffolder E-bost Sothach.
Os ydych yn adnabod yr anfonwr ac yn disgwyl y neges, neu os ydych yn derbyn neges sy'n cael ei nodi'n sothach drwy gamgymeriad, gallwch ddefnyddio'r ychwanegyn 'Report Message' i farcio'r neges fel 'Not Junk'. Bydd hyn yn symud y neges o'r ffolder 'E-bost Sothach' yn ôl i'ch mewnflwch.’
Cymorth TG
Cais am Fynegiant o Ddiddordeb
Gweithio o bell
Polisïau TG
Strategaeth TG
Diogelwch TG
- Hidlo negeseuon e-bost sbam
- Diweddariadau Windows
- E-bost Amgryptio
- Rheoli eich cyfrinair
- Dilysu Aml-ffactor (MFA)
Argraffu a Sganio
Gosodiadau ffôn Mitel IP a Gosodiadau
Optimeiddio Band Eang Yn Y Cartref
Dyfeisiau Symudol
- Ffonau Symudol
- Dewch â'ch Dyfais eich hun (BYOD)
- Canllawiau WhatsApp
- Tethering/Mobile Hot Spot
- Lluniau Dyfais Symudol – Canllaw Ms One Drive
Gosodwch meddalwedd eich hun
Dewis Porwr Diofyn
Microsoft Teams
- Awgrymiadau Defnyddiol ar gyfer Teams!
- Canllawiau Ymddygiad mewn Cyfarfodydd
- Cyfarfodydd Teams Preifat / Gadael sgwrs grŵp neu dynnu rhywun oddi wrthi
- Cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams (1)
- Gosod neu newid eich llun proffil ar Microsoft Teams
Caledwedd Corfforaethol Y Feithiau
Ffôn Meddal
Sharepoint
Office 365
Mwy ynghylch Cymorth TG