Sut i atal eich gliniadur rhag gor-gynhesu

Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2024

Gall gliniaduron orboethi, mae yna ychydig o bethau y gallwch eu wneud fel defnyddiwr i atal hyn rhag digwydd:

 

  • Os yw'ch gliniadur yn rhedeg diweddariadau, gwnewch yn siwr bod y gliniadur yn cael ei gadw ymlaen a'r caead ar agor nes bod y diweddariadau wedi'u gosod, dylid gwneud hyn ar wyneb gwastad (ar bwrdd / desg).
  • Peidiwch byth â rhoi eich gliniadur yn ôl yn eich bag wrth redeg diweddariadau gan y bydd hyn yn gorboethi eich gliniadur.
  • Gwnewch yn siŵr bod yr awyrell yn glir wrth weithio ar eich cyfrifiadur.
  • Defnyddiwch eich gliniadur bob amser ar arwyneb gwastad (desg neu fwrdd). Peidiwch â defnyddio'ch gliniadur ar ddodrefn, dillad neu ffabrigau meddal.
  • Diffoddwch eich gliniadur bob amser wrth ei osod yn ôl yn eich bag, neu i 'Gysgu' os ydych chi'n mynd i ddefnyddio eto yn fuan.
  • Peidiwch â defnyddio neu adael eich cyfrifiadur mewn golau haul uniongyrchol neu mewn gwres uniongyrchol.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich gliniadur yn cael ei gadw'n lân o unrhyw lwch, gwallt, gronynnau bwyd.

 

Os ydych chi'n poeni bod eich gliniadur yn gorboethi yn gyson ac yn effeithio ar berfformiad eich gliniadur, cofnodwch alwad ar ein Desg Gymorth TG Hunanwasanaeth: https://ictselfservice.carmarthenshire.gov.wales/