Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023
Rydym ni i gyd yn gyfrifol am wneud defnydd effeithlon o adnoddau'r Cyngor gan gynnwys adnoddau ariannol, cyfarpar a thrin gwybodaeth.
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am wneud defnydd effeithlon o'r adnoddau cyhoeddus y mae'n eu rheoli gan gynnwys adnoddau ariannol, cyfarpar a'i staff.
Rhaid i chi:
- Weithredu o fewn y safonau cyfrifyddu gofynnol
- Cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn ôl y gofyn
- Gofalu am eiddo neu gyfarpar y Cyngor, ei gadw'n ddiogel a rhoi gwybod am unrhyw achosion o dorri eiddo neu dorri amodau diogelwch
- Defnyddio cyfarpar a chyfleusterau at ddibenion awdurdodedig yn unig
- Sicrhau bod archwilydd ac archwilwyr allanol y Cyngor yn cael mynediad ar bob adeg resymol i safleoedd, personél, dogfennau ac asedau y mae'r archwilwyr o'r farn eu bod yn angenrheidiol at ddibenion eu gwaith
- Rhoi i'r archwilwyr unrhyw wybodaeth ac esboniadau y maent yn eu ceisio yn ystod eu gwaith
Ni ddylech:
- Ddefnyddio safleoedd, eiddo, cerbydau neu gyfleusterau eraill y Cyngor oni bai eich bod wedi eich awdurdodi i wneud hynny
- Gwneud gwaith nad yw'n waith y Cyngor ar safleoedd y Cyngor neu drwy ddefnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau'r Cyngor, neu yn ystod amser y Cyngor
Mae'r Cyngor yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac felly rhaid i chi fod yn gyfarwydd â Rheoliadau Ariannol y Cyngor.
Rhaid i chi:
- Ddefnyddio arian y Cyngor mewn ffordd gyfrifol, atebol a chyfreithlon
- Cydymffurfio â rheoliadau ariannol y Cyngor a chymryd cyngor cyfreithiol ac ariannol lle bo hynny'n briodol
- Ceisio gwerth am arian. Gall ein tîm Caffael Corfforaethol gynnig cyngor pellach
- Cydymffurfio â'r polisi a gyhoeddwyd gan eich Adran os yw eich rôl yn cynnwys ymdrin ag arian cwsmeriaid
- Gwneud yn siŵr bod unrhyw nawdd a dderbynnir yn gysylltiedig â busnes y Cyngor
- Os ydych yn amau unrhyw anghysondeb ariannol, llygredd neu dwyll, cysylltwch â'r Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol
- Gwneud yn siŵr nad ydych yn elwa o unrhyw gontract neu nawdd y gall y Cyngor ei dderbyn, neu ddangos unrhyw ffafriaeth i bartner, priod, perthynas, ffrind neu gydymaith
Mae cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol yn hanfodol.
Rhaid i chi:
- Gydymffurfio â'n polisïau mewn perthynas â llywodraethu gwybodaeth gan sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddiogelu
- Rhoi gwybod am unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch gwybodaeth
- Labelu a storio dogfennau gwybodaeth i ganiatáu mynediad i ddefnyddwyr awdurdodedig a rhwystro defnyddwyr anawdurdodedig
- Cyfeirio unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau neu'r wasg at y Tîm Marchnata a'r Cyfryngau ar unwaith
- Cadw rheolaeth dda ar gyfrineiriau a bod yn ymwybodol o negeseuon e-bost gwe-rwydo
Ni ddylech:
- Beryglu diogelwch gwybodaeth y Cyngor drwy anfon gwybodaeth bersonol, sensitif neu gyfrinachol yn allanol drwy e-bost safonol
- Datgelu eich cyfrinair (neu'ch cyfrineiriau) i neb
- Gadael eich dyfeisiau heb gadw llygad arnynt
- Defnyddio gwybodaeth neu gyfleusterau a ddarperir gan y Cyngor at ddefnydd personol anawdurdodedig, enillion amhriodol neu fasnachol, neu ar gyfer gweithgareddau twyllodrus neu faleisus
Gelwir y gwaith a wnewch ar ran y Cyngor yn eiddo deallusol.
- Rhaid i chi ofyn am ganiatâd eich rheolwr llinell neu Bennaeth y Gwasanaeth cyn i chi ddatgelu unrhyw ddyluniad neu ddyfais a grëwyd yn ystod eich gwaith
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni