Natur wleidyddol ddiduedd
Diweddarwyd y dudalen: 29/06/2021
Wrth weithio ar ran y Cyngor:
- Rhaid i chi aros yn wleidyddol niwtral ac yn wrthrychol yn eich rôl waith
- Ni ddylech ganiatáu i'ch barn bersonol neu'ch barn wleidyddol eich hun ymyrryd â'ch gwaith
Gweithio gydag Aelodau Etholedig
Mae parch rhwng y rheiny sy'n gweithio ar ran y Cyngor ac Aelodau Etholedig yn hanfodol i lywodraeth leol dda.
Rhaid i chi:
- Weithio i'r holl Aelodau gan ddarparu cyngor priodol a diduedd bob amser
- Sicrhau bod perthynas waith yn cael ei chadw'n broffesiynol
Swyddi dan gyfyngiad gwleidyddol
Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi rhai swyddi awdurdod lleol sydd dan gyfyngiad gwleidyddol. Os oes gennych swydd o'r fath:
- Rhaid i chi aros yn wleidyddol niwtral ac yn eich rôl waith
Ni ddylech:
- Sefyll fel ymgeisydd am swydd swyddog etholedig cyhoeddus (ac eithrio i Gyngor Tref a Chymuned)
- Dal swydd mewn plaid wleidyddol
- Canfasio mewn etholiadau
- Siarad neu ysgrifennu'n gyhoeddus, gan ddangos cefnogaeth i blaid wleidyddol
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni