Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
Diweddarwyd y dudalen: 24/02/2023
Fel rheolwr, mae eich sgiliau arwain yn elfennau allweddol o'ch rôl.
Rhaid i chi:
- Gynnal amgylchedd o barch, cydnabyddiaeth a chefnogaeth, a sefydlu pob gweithiwr newydd i'w rôl
- Gwneud penodiadau ar sail teilyngdod a gallu i gyflawni'r rôl yn unig
- Sicrhau bod cyfiawnhad gwrthrychol dros benderfyniadau sy'n ymwneud â disgyblu, dyrchafiad a thâl
- Nodi ac asesu pob risg a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n briodol
- Sicrhau bod trefniadau parhad busnes ar waith i alluogi gwasanaethau i barhau i gael eu darparu
- Arfer dyletswydd gofal i weithwyr a chwsmeriaid, gan sicrhau bod gofynion iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni
Ni ddylech:
- Fod yn rhan o broses ddethol neu gyfweld os ydych yn perthyn i ymgeisydd neu mewn perthynas bersonol ag ef/hi neu aelod o deulu agos yr ymgeisydd
Cyflogaeth eilaidd
Mae cyflogaeth eilaidd yn golygu unrhyw waith â thâl neu waith di-dâl, gan gynnwys gwaith gwirfoddol, a wneir yn ychwanegol at eich gwaith yn y Cyngor.
Rhaid i chi:
- Drafod unrhyw waith â thâl neu waith di-dâl arfaethedig gyda'ch rheolwr llinell cyn ei dderbyn a chofnodi gwaith o'r fath gan ddefnyddio ein ffurflen Datgan Buddiant ar-lein
- Sicrhau nad yw'r gwaith yn gwrthdaro â'ch rôl chi a buddiannau'r Cyngor
- Cydymffurfio â Rheoliadau Amser Gweithio, sy'n rheoli cyfanswm nifer yr oriau y gallwch eu gweithio'n ddiogel
Ni ddylech:
- Gynnal eich cyflogaeth eilaidd yn ystod amser y Cyngor
- Defnyddio adnoddau neu wybodaeth y Cyngor i ymgymryd â'ch cyflogaeth eilaidd
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni