Gohebu
Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023
Defnyddio’r Gymraeg – Gohebu (ar bapur ac yn electroneg)
Pryd mae angen gohebu yn ddwyieithog?
- Os ydych yn anfon unrhyw gylchlythyr neu lythyr safonol at y cyhoedd
- Os ydych yn anfon llythyr neu e-bost torfol at gynghorwyr
- Os ydych yn anfon llythyr neu e-bost torfol at staff mewnol
- Os nad ydy dewis iaith yr unigolyn wedi’i sefydlu (drwy sgwrs neu ohebiaeth flaenorol)
Pryd mae angen gohebu yn Gymraeg?
- Mae angen ateb unrhyw ohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg
- Mae angen anfon llythyron neu e-byst yn Gymraeg os ydy dewis iaith unigolyn o’r cyhoedd neu gynghorwr wedi sefydlu (drwy sgwrs neu ohebiaeth flaenorol).
Cofiwch fod angen i chi ymateb i ohebiaeth Gymraeg yr un mor gyflym ag y byddwch yn ateb gohebiaeth Saesneg.
Pethau i’w cofio wrth ohebu yn ddwyieithog
- Mae angen i unrhyw fersiwn Gymraeg o ohebiaeth gael ei anfon yr un pryd â’r fersiwn Saesneg, felly os nad ydych yn gallu ysgrifennu’r fersiwn Gymraeg eich hun, mae angen ei anfon i’r Uned Gyfieithu mewn da bryd.
- Mae angen i unrhyw fersiwn Gymraeg o ohebiaeth fod o’r un diwyg a safon â’r fersiwn Saesneg.
- Os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd
Beth sydd angen i chi gael mewn lle yn barhaol
Rhestr Wirio:
- Ydych chi yn datgan ar bob llythyr Cymraeg a Saesneg, ‘Mae croeso i chi gysylltu gyda’r cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. You are welcome to contact the council through the medium of Welsh or English’.
- Os yn berthnasol, oes gennych chi fanylion cyswllt dwyieithog ar lythyrau ac e-byst? Oes gennych chi ddatganiad ar waelod eich e-bost sy’n dweud eich bod yn medru neu’n dysgu’r Gymraeg?
- Oes gennych chi neges ddwyieithog sy’n hysbysu pobl nad ydych ar gael i ateb negeseuon e-bost? Ydy eich cyfeiriad e-bost yn ymddangos yn y ddwy iaith bob amser?
Pa gymorth sydd ar gael wrth ohebu’n Gymraeg?
- Gallwch gael rhyngwyneb Cymraeg ar eich cyfrifiadur sy’n darparu gwirydd sillafu Cymraeg a gwirydd gramadeg pellach. Bydd gwybodaeth ar y fewnrwyd cyn hir.
- Mae yna gymorth pellach ar y fewnrwyd gan gynnwys templedi, teitlau swyddi ac adrannau, ymadroddion defnyddiol ayb.
- Mae’r Uned Gwasanaethau Cyfieithu yn cynnig gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen.
Rydym wedi datblygu gyfres o glipiau sain a fydd yn eich cynorthwyo i ynganu geiriau, termau a brawddegau nad ydych chi’n siŵr ohonynt. Mae rhain yn cynnwys:
Gwybodaeth bellach
- Enghraifft: Templed e-bost ateb ymholiad (.pdf)
- Lawrlwytho Dyddiadau (.pdf)
- Lawrlwytho "Defnyddio’r Gymraeg – Gohebu (ar bapur ac yn electroneg)" (.pdf)
- Am gyngor bellach e-bostiwch: iaithgymraeg@sirgar.gov.uk.
- I ddarllen y Safonau (Safonau 1-7, 14, 120,134-5), ewch at: www.comisiynyddygymraeg.cymru.
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni