Rheoliadau
Diweddarwyd y dudalen: 07/12/2023
Safon 47: Llunio dogfen ar gyfer y cyhoedd
Os ydych yn paratoi dogfennau ar gyfer y cyhoedd, ac os nad oes safon arall eisoes yn gosod dyletswydd i gorff lunio’r ddogfen yn Gymraeg (e.e. os nad oes rhaid i gorff lunio dogfen yn Gymraeg yn unol â safonau 40–46), rhaid i ni asesu:
- a yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu
- a yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’i disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.
Yn dilyn hynny, rhaid i’r corff lunio’r ddogfen yn Gymraeg (neu beidio) yn unol â chanlyniad yr asesiad hwnnw.
Gall yr asesiad hwnnw gynnwys ystyried y materion canlynol:
- A yw pwnc y ddogfen yn ymwneud â mater sy’n berthnasol i nifer fawr o bersonau?
- A yw pwnc y ddogfen yn ymwneud â mater sy’n effeithio ar, neu o bwys i, nifer fawr o bersonau?
- A yw pwnc y ddogfen yn ymdrin â materion ynghylch yr iaith Gymraeg (e.e. addysg cyfrwng Cymraeg)?
- A yw pwnc y ddogfen yn ymwneud â maes sydd o ddiddordeb arbennig o ran y Gymraeg (e.e. addysg / tai / gofal iechyd / celfyddydau / economi)?
- A yw’r ddogfen yn un fydd yn cael ei harddangos yn gyhoeddus?
- A yw pwnc y ddogfen yn debygol o fod o ddiddordeb cyffredinol i bersonau sy’n siarad Cymraeg?
- A ydych yn gwybod bod canran neu nifer fawr o’r gynulleidfa a ragwelir yn siaradwyr Cymraeg?
- A oes mwy nag un person wedi gofyn bod y ddogfen ar gael yn Gymraeg?
- A yw’r ddogfen yn un sy’n debygol o ennyn ymateb a sylw cyhoeddus (e.e. ar y cyfryngau cymdeithasol)? A yw’r ddogfen yn un y mae gofyn i bersonau ymateb iddi?
- A yw’r gynulleidfa darged yn cynnwys personau (fel grwpiau a sefydliadau) y mae’r Gymraeg yn ystyriaeth bwysig iddynt neu sy’n gweithredu yn Gymraeg?
- A yw’r gynulleidfa darged o fewn ardal sydd â chanran neu nifer fawr o siaradwyr Cymraeg?
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni