Cwestiynau cyffredin
Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023
Os na allwch ddod o hyd i'r atebion yr ydych yn chwilio amdanynt, rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin i chi gyfeirio atynt.
Ni ddylech ddefnyddio adnoddau'r Cyngor at eich diben eich hun. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:
- Defnyddio papurau pennawd neu bost y Cyngor ar gyfer llythyrau personol
- Defnyddio cyfarpar TG y Cyngor i ymgymryd â gwaith nad yw'n gysylltiedig â'r Cyngor
- Defnyddio cerbydau'r Cyngor ar gyfer teithiau personol
- Defnyddio system deleffoni'r Cyngor i wneud galwadau nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith heb ganiatâd
- Gweithredu busnes yn ystod amser y Cyngor
- Hyrwyddo cynhyrchion neu gyfleusterau yn ystod amser y Cyngor er mwyn gwneud budd personol
Byddai trosedd yn cael ei chyflawni pe bai, er enghraifft:
- Swyddog yn gofyn am, yn cytuno i dderbyn, neu'n derbyn mantais yn gyfnewid am wasanaethau
- Mantais yn cael ei sicrhau gyda "chydsyniad neu oddefiad" y rheolwr
- Swyddogion yn cytuno i "drefnu" proses gaffael neu werthusiad o blaid y sawl sy'n cynnig y briff
Gall "mantais ariannol" neu "fantais arall" gynnwys arian, asedau, rhoddion, lletygarwch neu wasanaethau.
Ni ddylech eu derbyn; dylid gwrthod yn barchus unrhyw gynigion i fynd i ddigwyddiadau cymdeithasol, diwylliannol neu chwaraeon oni bai eich bod yn mynd fel cynrychiolydd y Cyngor.
Rhaid i chi hefyd ddatgan y cynnig gan ddefnyddio ein proses Datgan Rhoddion a Lletygarwch ar-lein er ei fod wedi'i wrthod.
Os oes unrhyw awgrym o ddylanwad neu wobr ni ddylid ei dderbyn o dan unrhyw amgylchiadau, waeth beth fo'r gwerth.
Bob tro y bydd un o swyddogion y Cyngor yn derbyn rhodd neu letygarwch gan rywun sy'n gwneud busnes gyda'r Cyngor, gall problem foesegol ddigwydd a hyd yn oed trosedd o bosibl.
Does dim gwahaniaeth p'un a yw'r rhodd ar ffurf arian, disgownt nas cynigir i bob swyddog arall, alcohol, cinio mewn bwyty lleol, taith, neu unrhyw beth arall.
Deallwn y byddwch, o bryd i'w gilydd, yn cael cynnig deunyddiau hyrwyddo isel eu gwerth am ddim wrth gyflawni eich dyletswyddau.
Mewn achosion fel y rhain caniateir i chi dderbyn eitemau isel eu gwerth o'r fath ar yr amod bod y rhodd i'w defnyddio at ddibenion gwaith ac yn ddelfrydol bydd wedi ei marcio â brand neu enw cwmni'r noddwr.
Gall enghreifftiau gynnwys eitemau megis pennau, dyddiaduron, calendrau, matiau llygoden neu unrhyw eitem arall o offer swyddfa gwerth isel. Nid oes angen datgan y mathau hyn o eitemau.
Wrth ystyried a ddylid datgan cysylltiad personol agos, dylech ystyried a allai fod yna unrhyw ddylanwad neu ragfarn canfyddedig. Yn y canllaw hwn, diffinnir cysylltiadau/perthnasoedd personol agos fel gweithwyr sy'n:
- Briod a'i gilydd, mewn Partneriaeth Sifil, mewn Partneriaeth neu'n cyd-fyw
- Aelodau agos o deulu'r ymgeisydd neu'r gweithiwr e.e. rhieni, mab/merch, brawd/chwaer, tad-cu/mam-gu, ŵyr/wyres
- Perthnasau eraill i'r ymgeisydd neu'r gweithiwr e.e. teulu estynedig megis Modrybedd / Ewythrod / Cefndryd / Nithod / Neiod neu unrhyw unigolion eraill y mae gennych gysylltiad personol agos â nhw e.e. drwy gysylltiadau a pherthnasoedd agos, neu drwy fusnes (y tu allan i'r awdurdod)
- Mae hefyd yn cynnwys perthynas flaenorol e.e. cyn ŵr/wraig, lle gallai fod rhywfaint o ragfarn
- Plentyn / person ifanc neu oedolyn / cleient sy'n agored i niwed y mae gweithiwr yn cwrdd ag ef yn rhinwedd ei gyflogaeth
- Person yr ydych mewn anghydfod ag ef/wedi bod mewn anghydfod ag ef
Os ydych yn ansicr a ddylid datgan cysylltiad ai peidio, gwell yw bod yn ofalus a gwneud hynny. Yr hyn sy'n allweddol yw a ellid ystyried bod cysylltiad agos o'r fath yn effeithio ar y modd y daw unigolyn i benderfyniadau personol.
Rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell ar unwaith oherwydd efallai y bydd gennych wrthdaro buddiannau. Mae angen datgan y wybodaeth hon gan ddefnyddio ein ffurflen Datgan Buddiannau ar-lein.
Os ydych yn cael eich cyflogi i gaffael y gwasanaethau hynny, yna ni allwch fod yn rhan o'r broses gontractio mewn perthynas â'r contract hwnnw.
Ni ddylech ddefnyddio unrhyw wybodaeth sydd gennych i lywio cyflwyniad tendr eich gŵr.
Rhaid i'r Cyngor weithredu a chael ei weld yn gweithredu heb ragfarn. Mewn rhai achosion, yn dibynnu ar eich swydd a'r amgylchiadau, byddai angen i'r Cyngor adolygu a allech barhau i gael eich cyflogi gan y Cyngor.
Rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell a datgan y wybodaeth hon gan ddefnyddio ein proses Datgan Buddiannau ar-lein. Bydd ein canllawiau Cysylltiadau Personol Agos a Pherthnasoedd yn darparu rhagor o wybodaeth.
Nid fel mater o drefn; fodd bynnag, wrth i amgylchiadau godi dylech ystyried a yw eich aelodaeth yn arwain at wrthdaro buddiannau ac a ddylech ei datgan bryd hynny.
Rhaid i chi ddatgan a chofrestru unrhyw gyfranddaliadau ym mhob cwmni. Os ydych yn cael eich cyflogi gan unrhyw un o'r cwmnïau (gyda thâl neu'n ddi-dâl) yna bydd angen i chi ymgynghori â'ch rheolwr llinell mewn perthynas â chyflogaeth eilaidd. Os oes gennych gysylltiad â'r cwmni, rhaid i chi ei ddatgan gan ddefnyddio ein proses Datgan Buddiannau ar-lein.
Ni ddylech ddefnyddio unrhyw wybodaeth neu adnoddau sydd gennych drwy eich rôl yn y Cyngor i fod o fantais i'r cwmnïau.
- Aelodaeth o Gorff Llywodraethu Ysgol yn Sir Gaerfyrddin
- Eich aelodaeth, neu sefyllfa o reolaeth, mewn cyrff sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus (hynny yw, yn cyflawni gwasanaeth cyhoeddus, yn cymryd lle corff llywodraethol lleol neu ganolog wrth ddarparu gwasanaeth, yn arfer swyddogaeth a ddirprwyir gan awdurdod lleol neu'n arfer swyddogaeth o dan ddeddfwriaeth neu bŵer statudol).
- Unrhyw gontractau rhwng yr awdurdod ac unrhyw gwmni/corff y mae gennych fuddiant ynddo
- Unrhyw benodiad gwleidyddol
- Cyflogi teulu agos y gweithiwr (gwraig, gŵr, partner, mab, merch, brawd, chwaer, mam neu dad) gan y Cyngor
- Busnesau sy'n cyflogi teulu agos y gweithiwr (gwraig, gŵr, partner, mab, merch, brawd, chwaer, mam neu dad) lle mae gan y gweithiwr unrhyw allu i effeithio ar benderfyniadau'r Cyngor i ddefnyddio gwasanaethau'r cwmni hwnnw, neu lle gallai effeithio arnynt o bosibl
- Ymwneud â sefydliad sy'n derbyn cymorth grant gan y Cyngor
- Unrhyw dir neu eiddo yn ardal yr awdurdod y mae gennych fuddiant ynddo
- Aelodaeth o unrhyw sefydliad nad yw’n agored i’r cyhoedd heb ymaelodi’n ffurfiol ag ef ac sydd â llw teyrngarwch ac sy’n gyfrinachol o ran rheolau ac aelodaeth neu ymddygiad.
Efallai y bydd yna sefyllfaoedd eraill a allai arwain at wrthdaro buddiannau y dylid eu datgan hefyd. Yr hyn sy'n allweddol yw y dylid arfer barn dda ac os oes amheuaeth gofyn am gyngor.
Ac eithrio Prif Swyddogion yn benodol, mae gwybodaeth a gesglir drwy'r broses hon i'w defnyddio gan y Cyngor yn unig ac felly ni chaiff ei chyhoeddi, oni bai bod yna ofyniad cyfreithiol hanfodol i'w datgelu.
Er enghraifft, fel datgeliad statudol yn y Datganiad Cyfrifon blynyddol neu pan wneir cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac nad oes eithriad yn gymwys.
Bydd gwybodaeth a ddatgelir o ganlyniad yn cael ei chadw'n ddienw a bydd y staff dan sylw yn cael gwybod.
Bydd datganiadau staff yn cael eu cadw'n ddiogel i'w gweld gan y Cyfarwyddwr a'i swyddog dirprwyedig yn unig. Fodd bynnag, wrth gasglu gwybodaeth, neu wrth ddilyn gweithdrefnau rheoli a sicrwydd rhesymol, efallai y bydd y wybodaeth ar gael i reolwr llinell y gweithiwr, at ddibenion archwilio ac i'r adran Adnoddau Dynol.
Caiff pob gweithiwr ei annog i drafod gwrthdaro buddiannau gyda'i reolwr llinell ac i nodi ar y cyd y buddiannau y dylid eu datgan.
Os oes angen cyngor arnoch ynghylch a ddylid datgan rhywbeth, yna siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf. Os nad ydych yn glir o hyd, siaradwch â chydweithwyr yn yr adrannau Rheoli Pobl neu Weinyddiaeth a'r Gyfraith.
Mae'r Cyngor yn cefnogi hawliau pob dinesydd i siarad yn rhydd bob amser ond ni ddylech ymddwyn mewn ffordd a allai ddwyn anfri ar y Cyngor na niweidio ei enw da. Er enghraifft, ni ddylech gario hysbyslen sarhaus na rhoi araith ymfflamychol yn mynegi barn sy'n gwrthdaro ag enw da'r Cyngor neu'n ei niweidio.
Bydd angen i chi roi gwybod am eich pryderon. Gweler ein polisïau Datgelu Camarfer ac Achwyniad, sy'n nodi'r weithdrefn y dylid ei dilyn. Efallai yr hoffech godi eich pryderon gyda'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf.
Dylech siarad â'r Swyddog Diogelu Gwybodaeth a Data cyn rhyddhau unrhyw wybodaeth.
Mae hyn yn dibynnu ar natur eich rôl o fewn y Cyngor cyn i chi adael. Gall darpariaethau'r Côd Ymddygiad barhau i fod yn gymwys ar ôl i'ch cyflogaeth gyda'r Cyngor ddod i ben. Ar gyfer Prif Swyddogion mae yna gyfyngiadau penodol sy'n berthnasol a chânt eu diffinio gan y telerau a'r amodau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer gweithwyr y JNC. Gweler eich Telerau ac Amodau Cyflogaeth neu gofynnwch am gyngor gan yr Is-adran Rheoli Pobl.
Bydd angen i chi roi gwybod amdano. Gweler ein polisïau Datgelu Camarfer ac Achwyniad, sy'n nodi'r weithdrefn y dylid ei dilyn. Efallai y byddwch am godi eich pryderon gyda'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf.
Cymerir camau i ymchwilio i achosion o dorri'r côd hwn (y tu mewn neu'r tu allan i'r gwaith) a gallant arwain at gamau disgyblu. Gellir ystyried achosion difrifol o dorri'r Côd yn gamymddwyn difrifol a gallant arwain at ddiswyddo heb rybudd.
Dylech wrthod y cynnig yn gwrtais gan esbonio sefyllfa'r cyngor a datgan y cynnig drwy ddefnyddio ein proses datgan rhoddion ar-lein. Os yw gwrthod y cynnig yn debygol o achosi tramgwydd oherwydd rhesymau crefyddol er enghraifft, gallech ystyried rhoi'r rhodd i elusen leol.
Rydym wedi dileu'r terfyn £25 i sicrhau nad oes amwysedd ynglŷn â'r hyn y gall ein staff ei dderbyn gan ddefnyddwyr gwasanaethau neu gyflenwyr. Rydym yn gwerthfawrogi bod cwpanaid o goffi yn eitem gwerth cymharol isel, ond byddem yn ei hystyried yn lletygarwch ac felly byddem yn annog ein holl staff i ystyried y canfyddiad o dderbyn lletygarwch o'r fath. Bob tro y bydd un o swyddogion y Cyngor yn derbyn rhodd neu letygarwch gan rywun sy'n gwneud busnes gyda'r Cyngor, mae problem foesegol yn digwydd.
Nid yw'r Côd Ymddygiad ar gyfer Swyddogion yn berthnasol i staff a gyflogir gan ysgolion er y bydd gan ysgolion eu polisïau/canllawiau eu hunain.
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni