Dyfarnu a Rheoli Contractau
Diweddarwyd y dudalen: 29/06/2021
Lle mae eich rôl yn cynnwys caffael, rheoli neu ddefnyddio contractau'r Cyngor:
- Rhaid i chi gydymffurfio â'r rheolau caffael a'r rheoliadau ariannol ar ddyfarnu gorchmynion a chontractau
- Ni ddylech wahaniaethu yn erbyn unrhyw ran o'r gymuned leol yn y broses dendro a chontractio.
Arferion llwgr
Ni ddylech:
- Dderbyn neu roi, mewn modd llwgr, unrhyw rodd, benthyciad, ffi, gwobr neu fantais am wneud neu beidio â gwneud rhywbeth, neu ddangos ffafriaeth neu anffafriaeth i unrhyw berson yn rhinwedd eich swydd. Mae hyn yn drosedd ddifrifol.
Yn ogystal, mae Adran 2 o Ddeddf Atal Llygredigaeth 1916 yn nodi, pan brofir bod unrhyw un sy'n dal neu'n ceisio contract gyda chorff cyhoeddus wedi gwneud taliad i weithiwr i'r corff hwnnw, y bernir bod y taliad yn llwgr oni phrofir i'r gwrthwyneb.
Cymerir camau yn unol â gweithdrefn ddisgyblu'r Cyngor i ddelio â honiadau o'r math hwn neu i ymchwilio iddynt.
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni