Ymddygiad personol
Diweddarwyd y dudalen: 07/03/2022
Fel cynrychiolydd y Cyngor, disgwylir i chi ymddwyn yn unol â'r safonau uchaf. Mae ein Canllawiau ar Safonau Ymddygiad yn y Gweithle yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan weithwyr o ran ymddygiad derbyniol.
Rhaid i chi:
- Gyflawni gofynion llawn eich rôl sy'n cyd-fynd â'ch contract cyflogaeth a pholisïau'r Cyngor
- Ymddwyn yn gwrtais ac yn rhesymol
- Cynnal safonau derbyniol o ran ymddangosiad a hylendid personol
- Dangos eich ymrwymiad i werthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb
- Mynychu'r gwaith yn unol â thelerau eich contract cyflogaeth a chydymffurfio â pholisïau salwch ac absenoldeb arall
- Gwisgo eich cerdyn adnabod wrth gynrychioli'r Cyngor
- Rhoi gwybod i'ch rheolwr llinell am unrhyw ddiffyg yn narpariaeth gwasanaethau'r Cyngor
- Cadw perthynas broffesiynol ag Aelodau Etholedig, swyddogion, contractwyr neu bartneriaid, darpar gontractwyr, neu ddefnyddwyr gwasanaeth. Os oes gennych berthynas bersonol ag unrhyw un o'r grwpiau hyn o unigolion, rhaid i chi ddatgan hyn gan ddefnyddio ein ffurflen Datgan Buddiant ar-lein, sydd i'w gweld ar eich Cyfrif MyView
- Osgoi niwed i enw da neu wasanaethau'r Cyngor
- Cofrestru unrhyw fuddiannau ariannol a buddiannau eraill gyda'ch rheolwr llinell gan ddefnyddio ein ffurflen Datgan Buddiant ar-lein, sydd i'w gweld ar eich Cyfrif MyView
Ni ddylech:
- Gymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad sy'n niweidiol i'r Cyngor neu ei fuddiannau, neu sy'n dod â chamau cyfreithiol yn erbyn y Cyngor
- Bod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau nad ydynt ar bresgripsiwn. Mae ein Polisi Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau yn darparu rhagor o wybodaeth
- Camddefnyddio eich swydd neu wybodaeth a gafwyd yn ystod eich gwaith, er budd personol neu er budd pobl eraill
Gadael y Cyngor
Ar ôl gadael y Cyngor:
- Rhaid i chi ddychwelyd yr holl eiddo, gwybodaeth a deunyddiau a gaffaelwyd yn ystod eich cyflogaeth gan gynnwys eich cerdyn adnabod a'r holl gyfarpar TG.
- Ni ddylech ddatgelu unrhyw ddata personol sy'n ymwneud ag eraill na gwybodaeth eithriedig / gyfrinachol yr ydych wedi'i chaffael yn ystod ein gwaith yn y Cyngor
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni