Cwynion a Chanmoliaeth
Diweddarwyd y dudalen: 19/04/2023
Mae cwynion a chanmoliaeth gan aelodau o'r cyhoedd yn ffynhonnell werthfawr o adborth am y gwasanaethau a ddarparwn. Maent yn fodd cadarnhaol o hybu bodlonrwydd cwsmeriaid ac yn ffordd o nodi cyfleoedd i wella darpariaeth gwasanaeth. Maent yn ein helpu i ddysgu am anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid.
Cwyn yw:
- mynegiant o anfodlonrwydd neu bryder
- am gamau neu ddiffyg gweithredu darparwr gwasanaeth cyhoeddus
- neu am safon y gwasanaeth a ddarperir
- sy'n gofyn am ymateb
- boed am y darparwr cyhoeddus gwasanaeth ei hun, person sy'n gweithredu ar ei ran, neu bartneriaeth gwasanaethau cyhoeddus
Nid yw cwyn yn:
- gais cychwynnol am wasanaeth, megis rhoi gwybod am olau stryd ddiffygiol
- apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed yn briodol gan gorff cyhoeddus
- yn fodd i geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi a wnaed yn gywir
- yn fodd i lobïo grwpiau / sefydliadau i geisio hyrwyddo achos
Canmoliaeth yw mynegiant o foddhad, lle'r ydym wedi rhagori ar ddisgwyliadau.
Gall cwynion gael eu derbyn mewn unrhyw ran o'r Cyngor a gall ein cwsmeriaid godi materion heb ddefnyddio'r gair 'cwyn'.
Rhaid i gwynion gael eu hanfon ymlaen at y Tîm Cwynion cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu derbyn a heb oedi gormodol.
Os ydych yn derbyn cwyn, neu ganmoliaeth, neu os oes angen unrhyw gyngor, cysylltwch â’r Tîm Cwynion a Chanmoliaeth ar 01267 224630/224631 neu e-bostiwch:
- Complaints: cwynion@sirgar.gov.uk
- Compliments: canmoliaeth@sirgar.gov.uk
Gweithio i ni
Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor
- Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus
- Ymddygiad personol
- Natur wleidyddol ddiduedd
- Buddiannau personol
- Rhoddion a lletygarwch
- Dyfarnu a Rheoli Contractau
- Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor
- Torri'r côd
- Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd
- Gweithdrefnau Cuddwylio
- Cwestiynau cyffredin
Cynghorwyr, ACau ac ASau
Behaviours FAQs
Mwy ynghylch Gweithio i ni