Gweithio'n ddwyieithog
Diweddarwyd y dudalen: 07/12/2023
Mae 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2011. Yn Sir Gaerfyrddin y mae’r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg o holl awdurdodau unedol Cymru.
Mae 43.9% o drigolion Sir Gâr yn gallu siarad Cymraeg. Mae 56% o blant Sir Gaerfyrddin yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae gan Sir Gâr ased unigryw yn ei phoblogaeth ddwyieithog a chyfraniad sylweddol i’w wneud wrth greu Cymru gwirioneddol ddwyieithog.
Ein rôl yn darparu gwasanaeth dwyieithog
Mae’r iaith Gymraeg yn allwedd i hunaniaeth a diwylliant nifer o’n poblogaeth, gall llawer o bobl fynegi eu barn a'u hanghenion yn well yn eu hiaith gyntaf. Mae yna garfanau o siaradwyr Cymraeg sydd wirioneddol angen cael gwasanaeth yn eu hiaith gyntaf er mwyn cael eu trin yn effeithiol. Mae’n ddyletswydd arnon ni i hwyluso dewis iaith i’n defnyddwyr.
Yn ôl arolwg, mae 66% yn meddwl y dylid gwneud mwy i hyrwyddo’r Gymraeg – nid dim ond siaradwyr Cymraeg sy’n meddwl hynny.
Rydyn wedi creu canllawiau i’ch cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yn y gweithle beth bynnag fo lefel eich sgiliau iaith chi.
- Defnyddio’r Gymraeg – Ar y ffôn
- Defnyddio’r Gymraeg – Gohebu (ar bapur ac yn electroneg)
- Trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd
- Trefnu a Chynnal Cyfarfodydd (sy’n cynnwys aelod(au) o’r cyhoedd drwy wahoddiad)
- Ysgrifennu’n Gymraeg a’ch Cyfrifiadur
- Arwyddion, taflenni, ffurflenni ayb.
- Beth y mae angen imi ei wneud os wyf yn recriwtio staff?
- Rheoliadau
Safonau’r Iaith Gymraeg
Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn gofyn i ni ‘sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg’, ac yn nodi’n benodol y ‘Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny’.
Yr Uned Gyfieithu
Mae gennym dîm o gyfieithwyr proffesiynol sydd yma i'ch helpu chi i ddarparu gwybodaeth ddwyieithog (Cymraeg - Saesneg / Saesneg - Cymraeg). Gall ein Tîm Cyfieithu un ai prawf-ddarllen eich gwaith neu ddarparu gwasanaeth cyfieithu llawn. Peidiwch â defnyddio offer ar-lein megis Google Translate oherwydd yn aml, maent yn gallu darparu cyfieithiadau anghywir. Pan fyddwch yn cyflwyno gwaith i'w gyfieithu, cofiwch nodi nifer cywir y geiriau (am waith sydd dros 100 o eiriau) a chofiwch gynnwys unrhyw wybodaeth ategol all fod o gymorth i'n tîm. Cyflwyno eich gwaith i'w gyfieithu neu ddilyn hynt cais presennol.