Ailgylchu yn y swyddfa

Diweddarwyd y dudalen: 14/04/2025

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi ailgylchu deunyddiau yn y swyddfa fel rydych chi'n ei wneud gartref? Does dim angen ichi wahanu'r deunyddiau i mewn i gynwysyddion gwahanol liw.  Fodd bynnag, mae'r holl finiau swyddfa newydd yn wyrdd.

Gall glanhawyr archebu bagiau glas drwy'r Gwasanaethau Cwsmeriaid (Ffôn: 3340). Yna, mae staff glanhau'r Cyngor yn gwagio'r biniau i whilfin allanol ar gyfer ailgylchu. Os ydych yn rhannu swyddfa gyda sefydliad arall, gallwch dal fod yn gymwys i gael casgliad am ddim.

Os oes arnoch angen biniau ailgylchu yn y swyddfa, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y gwasanaeth, anfonwch e-bost i'r blwch post AMG Gwastraff Masnach.

Ie, i mewn â nhw

  • Papurau newydd/cylchgronau 
  • Catalogau
  • Llyfrau ffôn
  • Post di-ofyn
  • Papur ysgrifennu
  • Papur wedi'i ddarnio*
  • Amlenni
  • Cynwysyddion bwyd a diod
  • Blychau grawnfwyd
  • Llewys prydau parod
  • Blychau cardbord bach
  • Tiwbiau papur cegin/papur tŷ bach
  • Blychau wyau
  • Caniau bwyd a diod
  • Erosolau
  • Poteli plastig
  • Potiau iogwrt
  • Tybiau margarîn
  • Basgedi plastig/hambyrddau prydau parod
  • Tywelion papur
  • Caeadau potiau jam
  • Ffoil
  • Haenen lynu

Na, peidiwch â'u cynnwys

  • Hancesi papur
  • Cardbord wedi'i drochi â bwyd
  • Bagiau plastig
  • Polystyren
  • Gwydr*
  • Eitemau trydan
  • Casetiau fideo
  • Cryno ddisgiau/DVDs

*Papur wedi'i ddarnio - rhowch hwn mewn bag ar wahân.
*Gwydr – Mae gan rai swyddfeydd eu bin ailgylchu gwydr eu hunain. Os nad oes bin o'r fath yn eich swyddfa chi, gallwch chi fynd â gwydr i'ch canolfan ailgylchu/safle casglu lleol.

Mae Casgliadau Bwyd Wythnosol ar gael yn y rhan fwyaf o'r swyddfeydd. Darperir cadis a bagiau leinio yn ogystal â bin allanol penodedig er mwyn storio'r gwastraff. Yna caiff y bwyd ei gompostio yn ganolog. Peidiwch â rhoi deunydd pecynnu yn y cadi gwastraff bwyd. Dylid rhoi tywelion papur yn y bin ailgylchu yn lle hynny.

I gael rhagor o fanylion neu i gael rhagor o fagiau leinio ar gyfer cadis, anfonwch e-bost i'r blwch post Canolfan Gyswllt.

Cesglir batris mewn cynwysyddion arbenigol ar gyfer batris sydd i'w cael mewn nifer o swyddfeydd ledled y sir:

  • Rhydaman: Depo Glanaman, Parc Amanwy, Neuadd y Dref
  • Caerfyrddin: 3 Heol Spilman, 5 ac 8 Heol Spilman, Depo Cillefwr, Neuadd y Sir, Parc Myrddin, Pibwr-lwyd, Parc Dewi Sant, Nant-y-ci
  • Llanelli: Neuadd y Dref, Depo Trostre, Tŷ Elwyn, Tŷ'r Nant, Yr Hwb

I drefnu gwagio bin batris, ffoniwch ein partneriaid, ERP:  08456 852424, gallwch hefyd ofyn am hyn ar eu gwefan.

Wrth nodi'r math o gynhwysydd, dylid cadw'r dewis diofyn h.y. cardboard box/up to 25kg. Sylwch fod angen rhoi rhybudd o 20 niwrnod gwaith, felly rhowch wybod iddynt pan fydd y cynhwysydd yn ¾ llawn.

Ailgylchu cetris inc gwag / Biniau Gwastraff Konica

Pan fydd cetris inc gwag gennych neu finiau gwastraff, gallwch gysylltu â Sue Clarke, EOS Solutions South Ltd ar 01306 631 070 neu e-bostiwch info@eossolutionsltd.com.

Byddan nhw'n danfon bocs wedi'i bacio'n fflat atoch; llenwch y bocs â'r cetris inc gwag a chysylltwch â nhw pan fyddwch angen i'r bocs gael ei gasglu gan gwmni cludo (rhoddir y manylion llawn ar y bocs).

Eich dewis chi fydd naill ai cadw bocs yn barhaol yn eich adran ac yna ffonio pan fydd hwnnw'n llawn, neu gadw cetris inc gwag a ffonio pan fydd angen bocs arnoch – croeso i chi a'ch swyddfa benderfynu.

Os oes gennych offer TG, e.e. cyfrifiaduron, cyfrifiaduron côl, bysellfyrddau neu galedwedd arall sy'n hen neu'n segur, gallwch wneud hyn ar-lein drwy'r Ddesg Gymorth TG a rhestr o'r eitemau sydd i'w casglu o'ch swyddfa i'w hailddefnyddio neu eu hailgylchu.

O ran unrhyw gasgliadau y codir tâl amdanynt, mae'n rhaid ichi wirio hynny'n gyntaf â'r adain Eiddo (Rheoli Asedau) cyn sefydlu'r contract - drwy anfon neges e-bost at Amgylchedd UCB neu drwy ffonio 01267 248124.

Cardbord

Mae'r gwasanaeth casglu cardbord yn gontract ar wahân y codir tâl amdano rhwng pob adeilad a darparwr gwasanaethau gwastraff.  Os oes gan eich swyddfa focsys cardbord i'w gwaredu yn gyson, dylech gael whilfin pwrpasol ar gyfer ailgylchu cardbord.

Os ydych am sefydlu contract ar gyfer cardbord, gallwch gysylltu â CWM Environmental yn uniongyrchol drwy ffonio 01267 225520 neu gallwch ddefnyddio unrhyw gontractwr gwastraff preifat trwyddedig arall.

Darnio papurau cyfrinachol

Mae darnio papur gwastraff cyfrinachol yn gontract y codir tâl amdano rhwng pob adeilad a darparwr gwasanaethau gwastraff.

Os ydych am sefydlu contract ar gyfer darnio papur gwastraff cyfrinachol, gallwch gysylltu â CWM Environmental yn uniongyrchol drwy ffonio 01267 225520 neu gallwch ddefnyddio unrhyw gontractwr gwastraff preifat trwyddedig arall.

Casgliadau celfi swyddfa swmpus

Gall celfi diangen ac eitemau trydan gael eu casglu gan wasanaeth gwastraff swmpus y Cyngor am dâl, sef £226 am hyd at 10 eitem. Cysylltwch â AMGGwastraffMasnach@sirgar.gov.uk

Gwaredu gwastraff cyffredinol

Os oes arnoch angen casgliad gwastraff gweddilliol (gwastraff masnach) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch gwastraff masnach, anfonwch neges e-bost at AMGGwastraffMasnach@sirgar.gov.uk, gan fod y taliadau am y gwasanaeth hwn yn amrywio.

Am fwy o wybodaeth ar ailgylchu, ewch i'n gwefan.

Mae gan y swyddfeydd canlynol fanciau ailgylchu gwydr:

  • Neuadd y Sir, Caerfyrddin - Maes Parcio
  • Parc Myrddin, Caerfyrddin – Y tu allan i Floc 7 ger y fynedfa gefn
  • Parc Dewi Sant, Caerfyrddin – Yn y clos gwastraff ger Bloc 2
  • Pibwrlwyd, Caerfyrddin – Yn y clos gwastraff yn y maes parcio
  • 1,2,3, 5-8 Heol Spilman, Caerfyrddin – Maes Parcio
  • Ty Elwyn, Llanelli – Maes Parcio
  • Y Ffwrnes, Llanelli – Maes Parcio

Os nad oes gan eich swyddfa fanc ailgylchu gwydr, gallwch fynd â gwydr i’ch canolfan ailgylchu / safle casglu lleol.

“Diolch ichi am ailgylchu a gwneud eich rhan er mwyn yr amgylchedd”