Symud swyddfeydd

Diweddarwyd y dudalen: 14/04/2025

Rydym yn y broses o gyflwyno mentrau gweithio ystwyth ar draws y sefydliad ac yn edrych ar amrywiol ffyrdd o sicrhau bod yr egwyddorion a'r meddylfryd sy'n rhan o weithio ystwyth yn cael eu sefydlu mewn arferion a gweithdrefnau gweithio perthnasol.

Cytunwyd y dylai symud swyddfeydd fod yn destun cwblhau a chymeradwyo achos busnes. Nod hyn fydd penderfynu a yw'r symud arfaethedig yn unol â'n hegwyddorion allweddol o ran gweithio ystwyth.

Yn ogystal bydd hyn yn sicrhau bod y manteision a ragwelir ar gyfer y gwasanaeth yn sgil gwneud y newidiadau arfaethedig yn cael eu hystyried ochr yn ochr â'r costau symud ac unrhyw addasiadau cysylltiedig sydd angen eu gwneud i'r swyddfa a bod y rolau cymorth allweddol megis eiddo a Thechnoleg Gwybodaeth yn cael digon o rybudd ymlaen llaw i gefnogi'r newid arfaethedig.

Bydd yr angen am gyflwyno achos busnes yn berthnasol i unrhyw achos o symud swyddfa neu newidiadau sy'n cynnwys 5 neu fwy o aelodau o staff. Sylwch na ddylid symud na gwneud unrhyw newidiadau nes bod caniatâd wedi cael ei roi.

Bydd angen ichi ddarparu'r wybodaeth ganlynol wrth gwblhau'r e-ffurflen:

  • Diben a chyd-destun eich bwriad i symud ac unrhyw ddogfennau ategol.
  • Dangos sut y byddai symud swyddfa yn bodloni amcanion gweithio ystwyth y Cyngor.
  • Nodau ac ysgogwyr y symudiad ac unrhyw arbedion posibl
  • Dyddiad y symud
  • Faint o staff fydd yn symud ac a ydynt yn swyddi sefydlog/hyblyg?
  • Eich lleoliad presennol a chynllun eich lleoliad (os nad oes gennych gynllun, gallwch ofyn i Paul Gregory am hyn).
  • Eich lleoliad arfaethedig ac unrhyw gyfleusterau, llefydd parcio sydd eu hangen.
  • Manylion unrhyw gostau cysylltiedig
  • A yw eich bwriad i symud swyddfa yn cynnwys unrhyw bartner/sefydliadau trydydd sector?

Cyflwyno cais i symud swyddfa

Yn ogystal, sylwch fod yn dal angen rhoi gwybod i Paul Gregory, Rheolwr Ystadau am bob cais i symud swyddfa sy'n effeithio ar hyd at 5 aelod o staff. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Stephen Morgan - Rheolwr Asedau Strategol.