Hyfforddiant Craidd
Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024
Mae'r adran hon yn cynnig amrywiaeth o raglenni a fydd yn diwallu anghenion dysgu staff gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol cymwys. Bwriedir i'r hyfforddiant gynorthwyo staff i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau craidd sydd eu hangen i gyflawni eu rolau'n effeithiol. Gofynnir i chi ddarllen y taflenni'n drylwyr i sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir yn briodol i'ch rôl. Mae'n rhaid i'r holl geisiadau gael eu cymeradwyo gan eich rheolwr cyn eu cyflwyno.
Alcohol a Sgrinio
Staff yr Awdurdod Lleol a staff y sector annibynnol sy'n cynnig cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd â phroblemau alcohol.
Datblygiad yr Ymennydd a Chamddefnyddio Sylweddau
Pob aelod o staff a allai ddod i gysylltiad â phobl ifanc sy'n defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Canabis a Sgrinio
Staff yr Awdurdod Lleol a staff y sector annibynnol y mae eu rolau'n cynnwys cefnogi unigolion sy'n defnyddio canabis.
Hyfforddiant Seddi Ceir
Gweithwyr Teulu, Gweithwyr Cymdeithasol a Chynnal Plant staff a gyflogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin sydd â chyfrifoldeb o gludo plant o fewn y Sir.
Cynllunio Gofal
Oll staff a rheolwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys, Preswyl a Domestig, a allai fod â chyfrifoldeb am / mewnbwn i gynllunio gofal a chymorth.
Cyfathrebu Effeithiol ar Gyfer Cefnogi Person ag Anawsterau Dysgu
Oll staff sy'n gyfrifol am ofalu am unigolion ag anawsterau dysgu
Epilepsi a Meddyginiaeth Achub
Staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda a chefnogi'r rhai sydd ag epilepsi
Rheoli Heintiau
Holl staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn unrhyw leoliad gofal gan gynnwys y sector annibynnol. Unrhyw staff sy'n helpu pobl hŷn yn eu bywyd pob dydd yn y gymuned.
Cyflwyniad i Gyfweliad Ysgogol
Yr holl staff sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Plant, gan gynnwys Maethu a Mabwysiadu, a'r timau Cam Nesaf.
Cyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd (IPED)
Yr holl staff sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion sy'n defnyddio neu sy’n ystyried defnyddio Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd. Gall hyn gynnwys yr holl ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a darparwyr gwasanaethau tai, cam-drin domestig, yr heddlu, cyflogaeth, hyfforddiant, addysg a chyfleusterau hamdden, a hoffai gael rhagor o wybodaeth ynghylch diwylliant ac arferion y grŵp hwn o ddefnyddwyr.
Rheoli Risg a Disgwyliadau
Holl staff Gwasanaethau Plant, Maethu a Mabwysiadu, y Tîm o Amgylch y Teulu, gwasanaeth dan 25 oed, y trydydd sector a'r sector annibynnol
Canolbwyntio ar y Person
Staff gofal cymdeithasol newydd a/neu brofiadol mewn gwasanaethau gofal preswyl, nyrsio a chartref lle mae angen dealltwriaeth o waith sy'n canolbwyntio ar y person.
Egwyddorion Adrodd a Chofnodi
Holl staff Gwasanaethau Plant, Maethu a Mabwysiadu, y Tîm o Amgylch y Teulu, Gwasanaeth dan 25 oed, y trydydd sector a'r sector annibynnol, yn ogystal â Gwasanaethau Gofal Cartref i Oedolion a staff preswyl.
Llunio Adroddiadau a Chofnodi Achosion
Bydd staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Adnoddau Cymunedol yn cael blaenoriaeth ond bydd ceisiadau hefyd yn cael eu derbyn gan staff gwaith cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion.
Troseddu Rhywiol gan Bobl ag Anableddau Dysgu
Staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu ac yn y Tîm Pontio
Dulliau sy'n Canolbwyntio ar Atebion
Holl staff y Gwasanaethau Plant, prosiectau Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) a Teuluoedd yn Gyntaf, gwasanaethau Gofal Plant Preswyl, Maethu a Mabwysiadu, y 3ydd Sector.
Sylweddau 101
Mae'r holl staff yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant, Ieuenctid, Oedolion a gweithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o gael niwed drwy gamddefnyddio sylweddau.
Hyfywedd Meinwe (Gofal Pwysau)
Yr holl staff gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau gofal preswyl, nyrsio a chartref.
Deall Awtistiaeth - Hyfforddiant Ynghlych Awtistiaeth ar gyfer Ymarferwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
YMARFERWYR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL - Datblygwyd y cwrs hwn i gefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n gweithio gydag unigolion sydd ag awtistiaeth (plant ac oedolion).
Mae'r cwrs hwn yn berthnasol i chi os:-
- rydych yn gweithio mewn gwasanaeth lle gallwch gefnogi pobl awtistig a'u teuluoedd.
- mae angen i chi fod yn ymwybodol o sut i addasu eich ymarfer/cyfathrebu i gefnogi unigolion sydd ag awtistiaeth (oedolion neu blant)
Ymwybyddiaeth o Ddiabetes
Anelir y cwrs hwn at weithwyr maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o sut i gefnogi unigolion â diabetes a chydnabod symptomau cyffredin a allai ddangos bod gan berson ddiabetes.
Ymwybyddiaeth o Strôc
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer holl staff maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o strôc. Darperir gwybodaeth hanfodol am sut i adnabod strôc, â'u rheoli ac atal er mwyn sicrhau gofal a chymorth o ansawdd uchel.
Dysgu a Datblygu
Digwyddiad Dathlu Dysgwyr 2024
Delweddau'r Digwyddiad
Fentor Arweinyddiaeth
Thinqi
Cwestiynau Cyffredin Thinqi
Niwroamrywiaeth
Datblygu eich sgiliau digidol
- Cyrsiau Coleg Sir Gâr
- Cymhwyster Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes gyda Coleg Gŵyr Abertawe
- Fframwaith Lefelu Sgiliau Digidol
Iaith Cymraeg
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Adnoddau Gweithio Hybrid
Cyfleoedd Dysgu Corfforaethol
- Hyfforddi a Mentora
- Cyfathrebu Effeithiol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyllid
- Iechyd, Diogelwch a Llesiant
- Technoleg. Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Effeithiolrwydd Personol
- Gweithdrefnau a Pholisiau
Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru [RhDGGCC]
- Cynnig Rhagweithol
- Cynllunio Asesu a Gofal
- Rhaglen Sefydlu Cymunedol
- Hyfforddiant Craidd
- Dementia
- Unigolion sy'n Defnyddio Gwasanaethau a Gofalwyr
- Arweinyddiaeth A Rheolaeth
- Iechyd Meddwl
- Arfer Gorau Gwaith Cymdeithasol
- Cymwysterau
Cwestiynau Cyffredin
Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)
Mwy ynghylch Dysgu a Datblygu