Bwriad y fframwaith hwn yw helpu i nodi'ch sgiliau digidol presennol a'ch camau datblygu nesaf. Mae'r sgiliau digidol hanfodol hyn yn mesur pa mor dda y gallwch gyfathrebu, trin gwybodaeth a chynnwys, trafod, datrys problemau a bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein. Mae'r elfennau hyn wedi'u rhannu'n 4 lefel i'ch helpu chi i nodi'ch camau nesaf: Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Mae'r fframwaith wedi defnyddio llawer o'r elfennau o'r Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol gan Lywodraeth y DU yn 2019, ac mae wedi'i addasu a'i rannu'n lefelau at ddefnydd staff Cyngor Sir Caerfyrddin.
Sut i ddefnyddio'r fframwaith hwn:
Bwriwch olwg ar yr elfennau isod a nodwch ble rydych chi'n teimlo eich bod chi arni. Gallwch wedyn ddefnyddio'r adnoddau ar ein tudalennau digidol i ddatblygu'ch sgiliau ymhellach.
- troi dyfais ymlaen gan nodi unrhyw wybodaeth gyfrif yn ôl yr angen
- defnyddio'r rheolyddion sydd ar gael ar fy nyfais (llygoden a bysellfwrdd ar gyfrifiadur neu sgrin gyffwrdd ar ddyfais glyfar)
- rhyngweithio â'r sgrin gartref ar fy nyfais
- defnyddio offer hygyrchedd ar fy nyfais i'w gwneud hi'n haws ei defnyddio (gwneud testun yn fwy)
- cysylltu fy nyfais â rhwydwaith Wi-Fi diogel
- deall bod y rhyngrwyd yn caniatáu imi gyrchu gwybodaeth a chynnwys ac y gallaf gysylltu ag ef trwy Wi-Fi
- cysylltu â'r rhyngrwyd ac agor porwr i ddod o hyd i wefannau a'u defnyddio
- deall bod angen cadw fy nghyfrineiriau a gwybodaeth bersonol yn ddiogel gan eu bod o werth i eraill
- diweddaru a newid fy nghyfrinair pan ofynnir i mi
- deall sut i wefru fy nyfais/ei gysylltu â soced bŵer
- gwybod ble mae offer rheoli sain a sut i'w ddefnyddio
- tynnu ciplun
- caniatáu diweddariadau'r system (yn dilyn awgrymiadau)
- gwybod sut i arbed batri
- deall pwysigrwydd cyfathrebu'n ddiogel.
|
Gwneud a derbyn galwad / negeseuon testun a chael mynediad at alwadau neu negeseuon llais diweddar.
- cadw rhifau ffôn yn y llyfr ffôn a gwybod sut i rwystro rhif (galwad sgam ac ati)
Gwirio bod signal a data ar gael e.e. 4G- Adnabod yr eicon
- troi data symudol ymlaen a'i ddiffodd
- gwybod ble mae data symudol - fel nad ydych yn defnyddio mwy nag sy'n dderbyniol
Gosodiadau pwysig
- newid cyfrineiriau/mynediad ag olion bysedd/apiau Office365 ar y ffôn – gwybod bod modd gwneud hyn heb gymorth TG.
- deall amser sgrin e.e. sgriniau'n cloi ar ôl cyfnod penodol o amser
- atebion cyflym fel diffodd y ffôn a'i droi ymlaen/tynnu'r sim ar gyfer cysylltiadau rhwydwaith
- dod o hyd i wybodaeth allweddol am y ddyfais e.e. rhifau IMEI y ffonau neu enwau gliniaduron.
- deall eiconau a gosodiadau e.e. do not disturbs, tortsh ac ati a gwybod sut i droi'r rhain ymlaen neu i ffwrdd.
- Cloi'r cyfrifiadur cyn ei adael
|
Mae'n bwysig nodi bod angen i'r holl staff fod yn Ddiogel ac yn Gyfreithlon ar-lein, felly mae'r adran yn berthnasol i BAWB sy'n mynd ar-lein.
Gallaf:
- ddilyn canllawiau a pholisïau'r sefydliad wrth ddewis gwybodaeth mewngofnodi a newid cyfrineiriau yn ôl yr angen.
- adnabod dolenni amheus mewn e-byst, gwefannau, negeseuon cyfryngau cymdeithasol a ffenestri naid a gwybod y gallai clicio ar y dolenni hyn neu atodiadau anghyfarwydd fy rhoi i a fy nghyfrifiadur mewn perygl
- deall a defnyddio gweithdrefnau penodol i roi gwybod am e-byst/dolenni amheus i staff cymorth TG yn eich sefydliad
- dilyn canllawiau penodol y sefydliad fel bod y meddalwedd yn cael ei ddiweddaru
- cadw'r wybodaeth rwy'n ei defnyddio i gyrchu fy nghyfrifon ar-lein yn ddiogel, gan ddefnyddio cyfrineiriau gwahanol a diogel ar gyfer gwefannau a chyfrifon
- gosod gosodiadau preifatrwydd ar fy nghyfryngau cymdeithasol a chyfrifon eraill
- ymateb i geisiadau am ddilysu fy nghyfrifon ar-lein ac e-bost
- adnabod gwefannau diogel trwy edrych ar y clo a'r https yn y bar cyfeiriad
- gwneud yn siŵr bod unrhyw wybodaeth neu gynnwys ar gael wrth gefn trwy wneud copi a'i storio ar wahân naill ai ar y cwmwl neu ar ddyfais storio allanol
Gallaf:
- ddeall a chydymffurfio â pholisïau TG a chyfryngau cymdeithasol fy sefydliad
- cydymffurfio â phrotocolau diogelwch fy sefydliad wrth gyrchu fy e-bost neu weithio o bell
- cyfathrebu mewn ffordd briodol i'm sefydliad trwy ddefnyddio e-bost neu apiau negeseuon eraill (e.e. Teams)
- defnyddio rhaglenni prosesu geiriau i greu dogfennau sylfaenol
- rhannu dogfennau ag eraill trwy eu hatodi i e-bost
- cyfathrebu â ffrindiau a theulu gan ddefnyddio fideo
- defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â ffrindiau a theulu
|
Gallaf:
- ddefnyddio offer cydweithio digidol i gwrdd â chydweithwyr, rhannu gwybodaeth ac i gydweithio (Defnyddio Teams i weithio ar ddogfen ar yr un pryd)
- defnyddio rhwydweithiau a chymunedau ar-lein proffesiynol (e.e. Linkedin)
- rhoi negeseuon, ffotograffau, fideos neu flogiau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
- cyfathrebu ag eraill yn ddigidol gan ddefnyddio amrywiaeth o apiau/llwyfannau negeseuon fel e-bost, Teams, WhatsApp, Facebook
- defnyddio cymwysiadau prosesu geiriau yn hyderus i greu gwahanol fathau o ddogfennau (fel CV, llythyr, taflen)
|
Gallaf:
- gyfathrebu'n hyderus ag eraill yn ddigidol gan ddefnyddio amrywiaeth o apiau/llwyfannau negeseuon.
- deall y manteision a'r cyfyngiadau sy’n perthyn i wahanol lwyfannau/apiau cyfathrebu a phryd y mae'n briodol defnyddio/creu cyfrif ar gyfer gwahanol rai. (e.e. defnyddio WhatsApp ar gyfer sgwrs grŵp ond Zoom ar gyfer gweminar).
- deall y gallai cyfathrebu o wahanol ddyfeisiau fod â gwahanol opsiynau a swyddogaethau (e.e. Byddai cyfarfod Teams ar liniadur ac iPad yn edrych yn wahanol
|
Gallaf:
- ddeall a chydymffurfio â pholisi fy sefydliad o ran defnyddio TG
- deall nad yw'r holl wybodaeth a chynnwys ar-lein a welaf yn ddibynadwy
- defnyddio peiriannau chwilio i ddod o hyd i wybodaeth a defnyddio termau chwilio i gael canlyniadau gwell
- defnyddio'r rhyngrwyd i gael mynediad cyfreithlon at gynnwys ar gyfer adloniant gan gynnwys ffilmiau, cerddoriaeth, gemau a llyfrau
- gwybod ble i gadw ffeiliau a dod o hyd iddynt yn fy ffolderau.
|
Gallaf:
- werthuso pa wybodaeth neu gynnwys a all fod yn ddibynadwy
- cyrchu, cysoni a rhannu gwybodaeth ar wahanol ddyfeisiau gan gynnwys cyfrifiaduron, tabledi a ffonau symudol
- defnyddio nodau tudalen i gadw ac adfer gwybodaeth ar fy mhorwr gwe
- deall bod y cwmwl yn ffordd y gallaf storio gwybodaeth a chynnwys mewn lleoliad anghysbell
- trefnu fy ngwybodaeth a'm cynnwys gan ddefnyddio ffeiliau a ffolderau ar fy nyfais neu ar y cwmwl
|
Gallaf:
- gydamseru ffeiliau ar draws ystod o ddyfeisiadau, a chydamseru ffeiliau o'r cwmwl ar fy nyfais.
- gweithio'n hyderus ar draws sawl dyfais a phenderfynu pryd mae'n addas i ddefnyddio rhai gwahanol.
- deall sut mae gofod storio cwmwl yn gweithio, sut i wneud y defnydd gorau o'r gofod yn ofalus, a sut i gael mwy os oes angen.
- creu dogfennau o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod eang o swyddogaethau a chynlluniau.
|
Gallaf:
- gwblhau cofnodion digidol ar gyfer absenoldeb, gwyliau neu dreuliau ar-lein
- cyrchu gwybodaeth am gyflogau a threuliau yn ddigidol gan gynnwys slipiau cyflog a ddiogelir gan gyfrinair
- creu cyfrif ar-lein, gan ddefnyddio gwefannau neu apiau priodol, sy'n caniatáu imi brynu nwyddau neu wasanaethau.
- cyrchu a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, gan gynnwys llenwi ffurflenni (e.e. ffurflen gais)
- llenwi ffurflenni ar-lein yn ôl yr angen i gwblhau trafodyn ar-lein
|
Gallaf:
- ddefnyddio gwahanol systemau talu, megis cerdyn credyd/debyd, trosglwyddiad banc uniongyrchol, a chyfrifon ffôn, i wneud taliadau am nwyddau neu wasanaethau ar-lein
- uwchlwytho dogfennau a ffotograffau pan fydd eu hangen i gwblhau trafodyn ar-lein
- rheoli fy arian a thrafodion ar-lein ac yn ddiogel, fel fy manc, gan ddefnyddio gwefannau neu apiau
|
I Gallaf:
- gwblhau trafodion ar-lein am sawl rheswm/gwefan/cwmni. (e.e. ffurflenni ad-dalu treth, bancio ar-lein, siopa ar-lein)
- deall gwahanol fathau o daliadau ar-lein heblaw defnyddio cerdyn banc yn unig, megis defnyddio PayPal, Apple Pay (neu ddull arall a ffefrir).
|
Gallaf i:
- defnyddio'r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth sy'n fy helpu i ddatrys problemau
- defnyddio'r rhyngrwyd i ddod o hyd i ffynonellau cymorth ar gyfer ystod o weithgareddau
|
Gallaf i:
- defnyddio meddalwedd briodol i gyflwyno gwybodaeth i eraill
- defnyddio meddalwedd briodol, gan gynnwys taenlen, i drin a dadansoddi data er mwyn helpu i ddatrys problemau yn y gwaith
- deall y gall gwahanol offer digidol wella fy nghynhyrchiant personol a chynhyrchiant y sefydliad
- defnyddio cyfleusterau sgwrsio (lle mae ar gael) ar wefannau i fy helpu i ddatrys problemau
- defnyddio tiwtorialau ar-lein, cwestiynau cyffredin a fforymau cyngor i ddatrys problemau a gwella fy sgiliau wrth ddefnyddio dyfeisiau a meddalwedd
|
Gallaf i:
- deall yn llawn swyddogaeth fy nyfeisiau a'u defnyddio i'w llawn potensial at ddibenion y cartref a’r gwaith.
- defnyddio ystod o adnoddau digidol i ddod o hyd i atebion a datrysiadau, ar-lein ac all-lein.
- cymryd cyfrifoldeb dros ddatblygiad digidol eich hun drwy chwilio am gyfleoedd dysgu'n annibynnol.
- datrys problemau gyda sawl ateb. (e.e. Gallu anfon ffeil drwy e-bost, Bluetooth, rhannu cwmwl, airdrop ac ati..)
- dangos sut mae caledwedd a meddalwedd penodol yn gweithio i unigolion eraill. (mentor)
- addasu fy sgiliau i ddefnyddio dyfeisiau neu apiau newydd.
|
Mwy ynghylch Dysgu a Datblygu