Fy Nghyfrif E-Ddysgu

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2023

Ni fyddwch yn gallu creu cyfrif ar eich cyfer chi eich hun.

 

  • OS YDYCH YN WEITHIWR NEWYDD GYDA'R AWDURDOD
    Anfonwch neges e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk gan nodi eich cyfeiriad e-bost, rhif gweithiwr a bod angen creu cyfrif ar eich cyfer.
    Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost gyda'r Awdurdod a'ch bod yn fodlon defnyddio eich cyfeiriad e-bost personol ar gyfer y cyfrif, nodwch yn y neges e-bost eich bod yn rhoi caniatâd i hyn ddigwydd.
    Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost gyda'r Awdurdod ac nad ydych yn fodlon defnyddio eich cyfeiriad e-bost personol ar gyfer y cyfrif, nodwch hynny yn y neges e-bost a byddwn yn cysylltu â chi.

 

  • OS YDYCH WEDI ANGHOFIO EICH CYFRINAIR
    Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gellir newid eich cyfrinair ar y dudalen fewngofnodi Learning@Wales. Defnyddiwch eich enw defnyddiwr i chwilio oherwydd efallai y gwahaniaethir rhwng priflythrennau a llythrennau bach yn eich cyfeiriad e-bost.

 

  • OS OES EISOES GENNYCH GYFRIF YN Dysgu@Cymru
    Eich enw defnyddiwr yw eich rhif gweithiwr 7 digid ac yna "carm" (er enghraifft 0012345carm).
    Pan fyddwch wedi mewngofnodi, gwnewch yn siŵr fod eich enw yn ymddangos yn y gornel dde uchaf ar y wefan. Dewiswch y tab "Local Authorities" o'r tabiau ar y top ac yna dewiswch "Carmarthenshire" o'r rhestr.

 

  • OS NAD YDYCH YN UN O WEITHWYR YR AWDURDOD
    Anfonwch neges e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk yn nodi nad ydych yn gyflogai a bod angen cyfrif arnoch.  Bydd angen arnom eich cyfeiriad e-bost, eich Disgrifiad Swydd a'r man lle rydych yn gweithio.
    Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost gyda'r Awdurdod a'ch bod yn fodlon defnyddio eich cyfeiriad e-bost personol ar gyfer y cyfrif, nodwch yn y neges e-bost eich bod yn rhoi caniatâd i hyn ddigwydd.
    Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost gyda'r Awdurdod ac nad ydych yn fodlon defnyddio eich cyfeiriad e-bost personol ar gyfer y cyfrif, nodwch hynny yn y neges e-bost a byddwn yn cysylltu â chi.

 

  • SUT YDW I'N GWYBOD OS YW'R MODIWL HWN WEDI'I GWBLHAU?
    Ar ôl i chi orffen y modiwl, ewch yn ôl i dudalen y cwrs a dylai fod "tic" yn y bocs ar yr ochr dde i'r ddolen. Os nad oes "tic" gwasgwch F5 i ailosod eich porwr.
    Weithiau bydd newidiadau bach yn cael eu gwneud i'r modiwl ac o ganlyniad nid yw'r "tic" yn ymddangos ar y dudalen mwyach. Fodd bynnag, mae'r canlyniadau dal i'w gweld yn yr adroddiadau safle sydd ar gael i'n gweinyddwyr a byddant yn cael eu dangos ar eich cofnod hyfforddiant ResourceLink MyView.