VAWDASV: Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Rydym eisiau bod unrhyw un sydd dal mewn sefyllfa i helpu, boed yn un o'r miloedd o wirfoddolwyr sy'n helpu'r rheini sy'n fwyaf agored i niwed, yn gontractiwr brys, yn aelod o weithlu'r gwasanaeth post, neu'n weithiwr mewn siop leol neu archfarchnad, yn gallu adnabod arwyddion camdriniaeth ac yn gwybod sut i helpu'n ddiogel. Dyna pam ein bod wedi trefnu bod ein modiwl dysgu ar-lein yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gael i bawb (mesur dros dro yn ystod argyfwng y coronafeirws).

Ni fydd Cymru'n cadw'n dawel ynghylch trais neu gamdriniaeth.