Codi a Chario

Diweddarwyd y dudalen: 21/12/2021

Bydd y fideos hyfforddiant Codi a Chario a'r deunydd i'w lawrlwytho yn ymdrin â'r holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch er mwyn gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen

Pan fyddwch yn cyflawni gweithgareddau codi a chario, mae'n rhaid i chi ddilyn cyfarwyddyd y gofalwr profiadol bob amser a gofyn am gyngor os ydych yn ansicr ar unrhyw adeg ynghylch beth ddylech chi ei wneud nesaf.

Gwyliwch y fideos hyfforddi Codi a Chario a'r fideos ar gyfer Gwrthrychau Difywyd.

Gwyliwch y fideos hyfforddiant hwn yn ei gyfanrwydd a darllenwch y dogfennau isod am y gweithdrefnau cam wrth gam ar gyfer y Systemau Gweithio Diogel ar gyfer y technegau codi a chario canlynol.

Isod, ceir cyngor ychwanegol i reolwyr sy’n cynorthwyo hyfforddiant codi a chario yn y gwaith yn y Gofalwyr Cymorth Gofal Cartref a Gofal Preswyl - Canllaw i Reolwyr (Codi a Chario)