Gwella'ch Cymraeg

Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2023

Edrychwch ar y gwahanol raglenni sydd ar gael i'ch cefnogi. Cofiwch hefyd edrych ar ein sesiynau byr. 

Cwblhewch y ffurflen gais yma gan nodi manylion y cwrs a'i dychwelyd at:

dysguadatblygu@sirgar.gov.uk

Mae'r cwrs Codi Hyder hwn wedi'i anelu at y rhai sy'n deall Cymraeg, ond diffyg hyder i gynnal sgwrs ac ateb yn Gymraeg. Yn ystod y rhaglen 10 wythnos hon, byddwch yn mynychu sesiynau 2awr anffurfiol yn wythnosol.

Mae'r cwrs dwys wythnos hwn ar gael ar lefel Canolradd, Uwch a Hyfedredd (Lefel 3 - 5). Fe'i cyflwynir yn rhithiol dros 5 diwrnod gan diwtoriaid profiadol o Nant Gwrtheyrn rhwng 10am a 4pm. Yn ogystal â'r sesiynau â’r sesiynau dan arweiniad tiwtor, mae'r cyrsiau'n cynnwys elfennau hunan-astudio rhwng y sesiynau byw.

Prif nod y cwrs yw rhoi cyfle i bawb sydd am wella eu sgiliau iaith Gymraeg fagu hyder wrth eu defnyddio. Mae staff blaenorol wedi mwynhau ac elwa'n fawr iawn o'r cwrs hwn, ac o ganlyniad yn defnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.

Dyddiadau ac amseri

Cyhoeddir y dyddiadau diweddaraf ar wefan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Cyfle i wella eich sgiliau Ysgrifenedig Cymraeg. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr rhugl.

DYDDIADAU AC AMSERI:

Gan fod y cwrs hwn yn hunan-astudio, mae'n rhoi'r hyblygrwydd i chi ddechrau a dysgu ar adeg sydd fwyaf cyfleus i chi.

GWELLA CYMRAEG: Rhan 1 | Dysgu Cymraeg

GWELLA CYMRAEG: Rhan 2 | Dysgu Cymraeg