Arfer Gorau Gwaith Cymdeithasol
Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024
Mae'r adran hon yn darparu amrywiaeth o hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cymwys. Dim ond pobl sy'n meddu ar gymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol sy'n cael ymarfer yng Nghymru a ledled y DU.
Mae gweithwyr cymdeithasol yn hyrwyddo llesiant ac yn gwella canlyniadau i bobl, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl sydd angen gofal a chymorth. Mae cyrsiau hyfforddiant ôl-gymhwyso hefyd ar gael ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cymwys o dan yr adran Cymwysterau ar y wefan hon.
Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldeb i ymgymryd â DPP fel rhan o gynnal eich cofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru (90 awr dros 3 blynedd).
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Eiriolaeth
Os ydych chi'n cefnogi pobl sy'n wynebu rhwystrau i siarad drostynt eu hunain ac sy'n mynd trwy asesiadau gofal cymdeithasol a chymorth, cynllunio, adolygu, prosesau diogelu (fel oedolion neu rieni) neu gŵyn ddiweddar am unrhyw un o'r rhain, mae angen i chi feddu ar ddealltwriaeth o Wasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol y 3 Sir.
Dadansoddi'r broses Asesu
Rhoddir blaenoriaeth i staff gwaith cymdeithasol yn y Tîm Adnoddau Cymunedol. Cynigir lleoedd dros ben i weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaeth i oedolion.
Dadansoddiad Asesu / Cadw Cofnodion
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant
Defnyddio Dadansoddi wrth Asesu i Lywio Ymyrraeth (Gweithdy Datblygu Blwyddyn Gyntaf yn Ymarfer)
Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn para diwrnod ac yn un o'r sesiynau hyfforddi gorfodol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, yn ystod eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer. Mae hefyd yn rhan bwysig o'r trefniadau paratoadol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a fydd yn cwblhau'r Rhaglen Atgyfnerthu yn ystod eu hail flwyddyn o ymarfer.
Arfer Gorau mewn Gwaith Taith Bywyd
Mae'r gweithdy hwn ar gyfer pawb sy'n ymwneud â Gwaith Taith Bywyd ac yn gyfrifol amdano gyda phlant sy'n derbyn gofal ac yn enwedig y rhai sydd â chynllun mabwysiadu e.e.
- Gweithwyr cymdeithasol o'r Gwasanaethau Plant
- Unrhyw un arall sy’n gweithio gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal sydd â diddordeb neu sy’n ymwneud â’r maes gwaith hwn.
Asesu Gofalwyr dan Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio mewn timau sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion.
Grwp Tystiolaeth Ymarfer Sir Gaerfyrddin
Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Gwaith Cymdeithasol â diddordeb mewn ymarfer wedi ei gyfoethogi gan dystiolaeth.
Gweithio Cydweithredol - Gweithdy Datblygu Blwyddyn Gyntaf yn Ymarfer
Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn ddigwyddiad undydd ac mae'n un o'r sesiynau hyfforddi gorfodol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer. Mae hefyd yn rhan bwysig o drefniadau paratoadol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a fydd yn cwblhau'r Rhaglen Gadarnhau yn ystod eu hail flwyddyn o ymarfer.
Hyfforddiant Diogelwch Personol a Rheoli Gwrthdaro
Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn para diwrnod ac yn un o'r sesiynau hyfforddi gorfodol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, yn ystod eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer.
Llys Gwarchod
Staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a Thimau Camddefnyddio Sylweddau. Bydd ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion hefyd yn cael eu derbyn a'u cadw ar restr wrth gefn tan ar ôl y dyddiad cau.
Sgiliau Llys ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Bydd staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu a Thimau Atgyfeirio Canolog yn cael blaenoriaeth. Bydd ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill yn cael eu derbyn a'u cadw ar restr wrth gefn tan ar ôl y dyddiad cau.
Proses Llys / Tystiolaeth Orau /Proses PLO
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.
Myfyrio Beirniadol Mewn Grym
Hwn yw'r cyntaf mewn Cyfres o 3 Gweithdy Datblygu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn eu Blwyddyn Gyntaf yn eu Swydd. Hefyd mae'n bwysig nodi fod y gweithdai hyn yn paratoi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ar gyfer y gwaith sydd i'w gwblhau yn y Rhaglen Atgyfnerthu yn eu hail flwyddyn yn eu swydd.
Gwaith Uniongyrchol - Plant gyda Pryder
Gweithwyr Cymdeithasol yn y Gwasanaeth Plant
Gwydnwch Emosiynol a Gwydnwch Proffesiynol
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant
Cyflwyniad i Awtistiaeth ac Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Bydd lleoedd dros ben yn cael eu cynnig i staff yn y Timau Cymunedol Anableddau Dysgu, y Gwasanaeth Anableddau 0-25 a'r Tîm Camddefnyddio Sylweddau.
Cyflwyniad i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (gan gynnwys Trefniadau Diogelu rhag colli Rhyddid)
Rheolwyr Timau, Gweithwyr Cymdeithasol a Chynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol. Rheolwyr a Dirprwy Reolwyr Cartrefi Gofal Cofrestredig o’r awdurdod lleol a’r sector annibynnol. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i staff nad ydynt wedi ymgymryd a’r hyfforddiant hwn yn y gorffennol.
Cyflwyniad i Ymarfer Systemig of fewn Gwasanaethau Oedolion ac Integredig (Rheolwyr Tȋm a Rheolwyr Tȋm Cynorthwyol)
Rheolwyr tȋm a rheolwyr tȋm cynorthwyol o fewn gwasanaethau oedolion ac integredig.
Dysgu o Adolygiadau Ymarfer Plant
Mabwysiadu, Maethu, Gweithwyr Cymdeithasol Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig a Gweithwyr Cymdeithasol Gofal Plant
LGBTQ+ / Hunaniaeth a Materion Rhywedd
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant
Llyfrau Hanes Gwaith Taith Bywyd
Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol Gofal Plant
Gwaith Stori Bywyd gydag Oedolion
Gweithwyr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Integredig
Gweithio Unigol - Diogelwch Personol
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.
Hyfforddiant Cryfder Meddyliol a Gwytnwch
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.
Mentora Gweithwyr Cymdeithasol yn eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwysedig sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, Uwch-ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol, Arweinwyr Proffesiynol a Rheolwyr Tîm (sy'n gymwysedig i weithio ym maes Gwaith Cymdeithasol) sy'n dymuno bod yn fentoriaid i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso sydd yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer.
Arferion sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau
Hyfforddiant Gorfodol i staff gwaith cymdeithasol yn y Tîm Anabledd (0-25).
Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol Ar-lein
Pob gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.
Chwilfrydedd Proffesiynol Gwasanaeth Plant
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant
Chwilfrydedd Proffesiynol o fewn Gwasanaethau Oedolion ac Integredig
Gweithwyr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Oedolion ac Integredig
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Bobl Drawsryweddol ac Anneuaidd
Staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu ac yn y Tîm Anabledd 0-25. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu derbyn gan staff gwaith cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion, a chynigir lleoedd, os byddant ar gael, ar ôl y dyddiad cau.
Dulliau systemig ymwybodol o drawma ar gyfer Pobl Ifanc sydd a phrofiad o ofal
Gweithwyr Cymdeithasol yn Gwasanaethau Plant
Dysgu a Datblygu
Digwyddiad Dathlu Dysgwyr 2024
Delweddau'r Digwyddiad
Fentor Arweinyddiaeth
Thinqi
Cwestiynau Cyffredin Thinqi
Niwroamrywiaeth
Datblygu eich sgiliau digidol
- Cyrsiau Coleg Sir Gâr
- Cymhwyster Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes gyda Coleg Gŵyr Abertawe
- Fframwaith Lefelu Sgiliau Digidol
Iaith Cymraeg
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Adnoddau Gweithio Hybrid
Cyfleoedd Dysgu Corfforaethol
- Hyfforddi a Mentora
- Cyfathrebu Effeithiol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyllid
- Iechyd, Diogelwch a Llesiant
- Technoleg. Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Effeithiolrwydd Personol
- Gweithdrefnau a Pholisiau
Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru [RhDGGCC]
- Cynnig Rhagweithol
- Cynllunio Asesu a Gofal
- Rhaglen Sefydlu Cymunedol
- Hyfforddiant Craidd
- Dementia
- Unigolion sy'n Defnyddio Gwasanaethau a Gofalwyr
- Arweinyddiaeth A Rheolaeth
- Iechyd Meddwl
- Arfer Gorau Gwaith Cymdeithasol
- Cymwysterau
Cwestiynau Cyffredin
Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)
Mwy ynghylch Dysgu a Datblygu