Cyd-ddealltwriaeth o Lesiant fel Sefydliad

Diweddarwyd y dudalen: 25/03/2026

O'r arolwg ymgysylltu â gweithwyr, mae'r datganiad isod yn ddyfyniad uniongyrchol gan weithiwr. Rydyn ni'n credu bod y datganiad hwn yn cyfleu'r ymatebion a gasglwyd ac yn adlewyrchu beth mae llesiant yn ei olygu i'r sefydliad: 

 

"I mi, mae llesiant yn y gweithle yn golygu teimlo eich bod chi wir yn cael eich gwerthfawrogi a'ch cefnogi i ffynnu'n bersonol ac yn broffesiynol. Mae'n ymwneud â chreu amgylchedd lle mae staff yn cael eu grymuso, eu trin â pharch, bod rhywun yn gwrando arnyn nhw a bod eu cyfraniadau'n cael eu cydnabod."

 

Ein hymrwymiad i lesiant:

Rydyn ni'n credu bod iechyd, diogelwch a llesiant ein pobl yn hanfodol i'n llwyddiant. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithle lle mae pob gweithiwr yn teimlo'i fod yn cael ei gefnogi, ei werthfawrogi a'i rymuso i ffynnu – yn broffesiynol ac yn bersonol, er mwyn cyflawni anghenion y busnes. 

Mae ein hymrwymiad yn cynnwys:

  • Cefnogi gweithle iach – darparu amgylchedd gwaith sy'n ffafriol i'n hiechyd a'n llesiant. 
  • Cefnogi Llesiant – meithrin diwylliant agored lle mae sgyrsiau am iechyd corfforol a meddyliol yn cael eu hannog, a lle mae adnoddau a chymorth ar gael yn rhwydd.
  • Annog Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith – hyrwyddo arferion gwaith cynaliadwy sy'n helpu ein pobl i gael cydbwysedd rhwng eu bywydau proffesiynol a phersonol, gan gydbwyso anghenion y busnes.
  • Hyrwyddo Cynhwysiant a Pharch – sicrhau bod pob gweithiwr yn teimlo'i fod yn cael ei dderbyn a'i barchu, waeth beth fo'i gefndir, ei hunaniaeth neu ei rôl.
  • Buddsoddi mewn Pobl – cynnig cyfleoedd ar gyfer twf, datblygu a chydnabyddiaeth fel y gall gweithwyr wireddu eu potensial. 

Trwy ymgorffori llesiant ym mhopeth a wnawn, ein nod yw creu gweithlu gwydn, gweithgar a ffyniannus. Rydyn ni am i bob gweithiwr gael ei ysgogi i gyfrannu a thyfu. 

Rydyn ni'n cydnabod bod gofalu am ein pobl nid yn unig y peth iawn i'w wneud, ond hefyd yn hanfodol i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i'n busnes ac i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. 

Iechyd a Llesiant