Gwybodaeth i Reolwyr

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Os yw gweithiwr wedi mynegi diddordeb mewn bod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, darllenwch drwy'r wybodaeth ganlynol yn ofalus cyn cymeradwyo'r cais. Er ei bod yn rôl wirfoddol, mae'n bwysig eich bod chi, fel rheolwr, yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau a'r ymrwymiad sy'n gysylltiedig â hyn. 

Rôl y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw adnabod arwyddion salwch meddwl, rhoi cymorth cychwynnol i unigolyn ac arwain yr unigolyn yn briodol i gymorth pellach. Y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unigolyn sy'n profi problem iechyd meddwl neu drallod emosiynol.  

Mae'n bwysig nodi nad yw Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi'u hyfforddi i fod yn seiciatryddion neu'n therapyddion ond y gallant gynnig cymorth cychwynnol drwy wrando ac arweiniad anfeirniadol.

I fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig, bydd yn ofynnol i'r gweithiwr gwblhau cwrs hyfforddi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion ardystiedig yn llwyddiannus. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu drwy'r darparwr a ddewiswyd gan yr Awdurdod, sef Ajuda. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar-lein a bydd yn gyfuniad o 5 modiwl ar-lein a dwy weminar fyw 3 awr gyda hyfforddwr cymwysedig. 

Efallai y bydd angen i'r Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gefnogi cydweithiwr sy'n profi argyfwng iechyd meddwl neu drallod emosiynol difrifol. Felly, rhaid i'r Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl fod wedi'i arfogi i ddelio'n briodol â sefyllfa o'r fath. Fel rheolwr, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'ch disgresiwn i asesu a yw'r gweithiwr yn addas i ymgymryd â'r rôl hon. 

Fel y nodir uchod, bydd y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn delio â phynciau emosiynol, sensitif a phersonol iawn. Er mwyn cefnogi cydweithiwr yn effeithiol mewn argyfwng, mae deallusrwydd emosiynol a gwydnwch yn hanfodol. Mae'n bwysig bod y rhai sy'n gwirfoddoli i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn teimlo'n hyderus o ran eu gallu i gyflawni cyfrifoldebau'r rôl.

Fel rheolwr, dylech wneud asesiad gonest o addasrwydd y gweithiwr ar gyfer y rôl cyn cymeradwyo ei gais. Mae hyn yn bwysig er llesiant y gweithiwr ei hun a llesiant pobl eraill. 

O ystyried natur rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, nid oes ymrwymiad amser penodol. Efallai na fydd y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn rhoi cymorth i gydweithiwr am ychydig fisoedd, neu efallai y bydd y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn cefnogi cydweithiwr bob ychydig wythnosau.

Fel rheolwr, dylech gydnabod y gall fod angen i'r Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, ar adegau, gamu i ffwrdd o'i ddyletswyddau dyddiol i gyflawni ei rôl fel Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Sylwer hefyd, fel rhan o'r rhwydwaith o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, y bydd y gweithiwr yn mynychu sesiwn cymorth grŵp o leiaf bob deufis. 

Mae'n bwysig bod y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ei hun yn cael mynediad at gymorth yn ôl yr angen. Fel rheolwr, dylech ddeall y gallai eich gweithiwr fod yn delio â sefyllfaoedd anodd neu ofidus. Y gobaith yw y bydd y rhwydwaith cymorth ar gyfer Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn caniatáu i'r unigolyn ôl-drafod a rhannu profiadau, ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol, fel atgyfeiriad at Iechyd Galwedigaethol neu ein Gwasanaeth Cymorth Llesiant, mewn rhai achosion. 

Ar ôl darllen y wybodaeth a roddir yma, ynghyd â'r disgrifiad llawn o'r rôl, fe'ch cynghorir i gael sgwrs gyda'r gweithiwr am y rôl. Os ydych yn cytuno, cymeradwywch y cais i'r gweithiwr fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Yna bydd Cydgysylltydd y Rhaglen yn cysylltu â'r gweithiwr i drefnu hyfforddiant ac i drafod y broses ymhellach. Os ydych yn ansicr ynghylch a yw'r gweithiwr yn addas ar gyfer y rôl, argymhellir bod y gweithiwr yn mynychu sesiwn briffio gyda Chydgysylltydd y Rhaglen, lle bydd yn cael cyfle i gael gwybod mwy am y rôl. 

Iechyd a Llesiant