Archwiliad Hunan-iechyd
Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn defnyddio ystod o fesuriadau, profion ac archwiliadau i asesu llawer o wahanol agweddau ar ein hiechyd a'n llesiant. Mae'n bosibl eich bod chi'n gyfarwydd â rhai ohonynt, ac efallai eich bod wedi cael yr archwiliadau hyn eich hun gan feddyg teulu, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.
Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i chi ynglŷn â rhai o'r archwiliadau iechyd allweddol y gallwch eu gwneud eich hun, gan gynnwys sut y mae cynnal y profion hyn, sut y mae dehongli'ch canlyniadau, a chymorth a gwybodaeth bellach os oes angen.
Gallai cadw llygad ar y mesurau hyn unwaith y flwyddyn (oni bai eich bod wedi cael eich cynghori fel arall gan weithiwr iechyd proffesiynol) eich helpu i nodi a chymryd camau cynnar er mwyn lleihau risgiau cyflyrau iechyd megis clefyd cardiofasgwlaidd y galon, diabetes, strôc a chanser.
Mesuriadau corfforol
Taldra - Sefwch â'ch cefn tuag at y wal gyda'ch sodlau yn erbyn y wal a'ch cefn yn syth. Gan ddefnyddio tâp mesur, dechreuwch o'r llawr a mesur i fyny'r wal hyd nes eich bod yn cyrraedd top eich pen, gan gadw'r tâp yn syth. Mae'n bosibl y byddwch am ofyn i rywun eich helpu i fesur i sicrhau bod y mesuriad yn fwy cywir.
Pwyso - Ceisiwch ddefnyddio clorian ddibynadwy, un a fyddai'n rhoi'r un wybodaeth pe byddech chi'n pwyso'ch hun ychydig o weithiau dros gyfnod byr. Ceisiwch bwyso eich hun ar yr un amser bob diwrnod. Nid yw pwyso ar ei ben ei hun yn ddangosydd defnyddiol o ran eich iechyd ac felly argymhellir eich bod yn ei ddefnyddio ochr yn ochr â mesuriadau eraill fel cylchedd y canol a chymhareb clun i'r canol.
Mynegai Màs y Corff - Yn y bôn, mae eich BMI yn mesur eich cymhareb uchder i bwysau. Caiff ei ddefnyddio yn rheolaidd er mwyn gweld a yw pwysau unigolyn yn iach. Pan fyddwch wedi mesur eich taldra a'ch pwysau, gallwch gyfrifo'ch BMI gan ddefnyddio offeryn ar-lein, megis cyfrifiannell BMI y GIG -https://www.nhs.uk/live-well/healthy-weight/bmi-calculator / . Bydd yr offeryn hwn hefyd yn darparu ystod pwysau iach i chi ar gyfer eich taldra. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r siart isod i wirio'ch BMI.
Er ei fod yn offeryn defnyddiol, ni all y BMI ddweud y gwahaniaeth rhwng gormod o fraster, cyhyrau neu asgwrn, ac nid yw'n rhoi ystyriaeth i oedran, rhywedd na màs cyhyrau ychwaith. Felly dylid ei ddefnyddio ynghyd â mesuriadau eraill fel cylchedd y canol a chymhareb clun i'r canol.
Cylchedd y Canol - Gan ddefnyddio tâp mesur, mesurwch o amgylch eich canol o'r botwm bol. Unwaith eto, gofynnwch i rywun am help os oes angen.
Cylchedd Clun- Dewch o hyd i ben asgwrn eich clun yn fras - mae'n debyg mai hwn fydd rhan letaf eich cluniau. Rhowch eich bodiau ar y rhan hon ac yna pwyntiwch eich bysedd i lawr. Gan ddefnyddio tâp mesur, mesurwch o flaen eich bysedd tanio o amgylch.
Cymhareb clun i'r canol - Dyma fesur arall y gellir ei ddefnyddio i wirio a ydych chi dros eich pwysau ac a yw'r pwysau ychwanegol hynny yn peryglu eich iechyd. Cyfrifir hyn trwy rannu mesuriad eich canol â mesuriad eich clun. Mae'r mesur hwn wedi'i gynllunio i bennu faint o fraster sydd ar eich canol, eich cluniau a'ch pen-ôl.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae cymhareb clun i'r canol iach yn 0.9 neu'n llai yn achos dynion a 0.85 neu'n llai yn achos menywod. Yn achos dynion a menywod, gall WHR o 1.0 neu uwch ddangos risg uwch ar gyfer rhai cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â phwysau, gan gynnwys clefyd y galon.
Mae'r siart cymhareb clun i'r canol iach isod yn rhoi syniad da o'r risg i'ch iechyd ar sail eich canlyniad.
Risg i Iechyd | Menywod | Dynion |
Isel | 0.80 neu'n is | 0.95 neu'n is |
Cymedrol | 0.81 - 0.85 | 0.96 - 1.0 |
Uchel | 0.86 neu'n uwch | 1.0 neu'n uwch |
Mesur Pwysedd Gwaed
Mae pwysedd gwaed yn cyfeirio at gryfder eich gwaed yn gwthio yn erbyn ochrau eich rhydwelïau wrth iddo bwmpio o amgylch y corff. Caiff pwysedd gwaed ei fesur gan ddyfais yn dwyn yr enw sffygmomanomedr. Mae'r ddyfais fel arfer yn cynnwys stethosgop, cyff braich, pwmp a deial, er bod dyfeisiau awtomatig sy'n defnyddio synwyryddion ac sydd â sgrin ddigidol hefyd bellach yn cael eu defnyddio'n aml.
Fel arfer, caiff eich pwysaedd gwaed ei fesur gan weithiwr iechyd proffesiynol, ond yn aml, mae gan unigolion y mae'n ofynnol iddynt fesur eu pwysedd gwaed yn rheolaidd eu monitor digidol eu hunain gartref. Mae gwefan y GIG yn darparu gwybodaeth bellach ynglŷn â monitro pwysedd gwaed gartref.
Deall eich Canlyniadau
Mae pwysedd gwaed yn cael ei fesur mewn milimetrau o fercwri (mmHg) ac fe'i rhoddir fel 2 ffigur:
- pwysedd systolig - y pwysedd pan fydd eich calon yn gollwng gwaed
- pwysau diastolig - y pwysedd pan fydd eich calon yn gorffwys rhwng curiadau
Gellir defnyddio'r tabl isod fel canllaw:
Pwysedd gwaed | Mesuriadau |
Pwysedd gwaed delfrydol | 90/60mmHg - 120/80mmHg |
Pwysedd gwaed uchel | 140/90mmHg neu'n uwch |
Pwysedd gwaed isel | 90/60mmHg neu'n is |
Mesur Curiad y Galon
Gall mesur curiad eich calon wrth orffwys - sawl gwaith mae'ch calon yn curo mewn un munud - roi cipolwg pwysig i chi ar iechyd cyffredinol eich calon. I fesur curiad eich calon, gwnewch yn siŵr eich bod yn gorffwys (am o leiaf 5-10 munud ymlaen llaw) a chyfrifwch faint o weithiau y mae eich calon yn curo mewn 60 eiliad. Mae'ch arddwrn fel arfer yn lle da i osod eich bys i ddod o hyd i guriad cryf.
Mae gan yr oedolyn cyffredin gyfradd curiad y galon rhwng 60 - 100bpm wrth orffwys. Po fwyaf heini ydych chi, y lleiaf bydd y gyfradd. Os yw cyfradd curiad eich calon yn uwch na 120bpm neu'n is na 40bpm wrth orffwys yn gyson, efallai dylech fynd i weld eich meddyg teulu, er ei bod yn bosibl mai dyma yw eich cyfradd arferol.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn darparu rhagor o wybodaeth am wirio'ch pwls.
Pa mor iach yw eich Calon?
Bydd gwiriad oedran calon y GIG yn nodi oedran eich calon o'i gymharu â'ch oedran go iawn. Rhowch gynnig ar yr offeryn hwn i weld beth yw oedran eich calon, a beth mae hyn yn ei olygu i iechyd eich calon. Bydd angen manylion eich lefelau colesterol diweddaraf arnoch (HDL a LDL).
Profion Sylfaenol ar gyfer Ffitrwydd, Cydbwysedd a Dygnwch
Mae cael cydbwysedd da yn bwysig ar gyfer eich iechyd, yn bennaf oherwydd ei fod yn golygu eich bod yn llai tebygol o gwympo, ond yn rhyfeddol, mae cael cydbwysedd da hefyd yn gallu arwain at broblemau iechyd fel dementia yn y dyfodol.
Prawf cydbwysedd
- Sefwch o flaen cadair neu fwrdd cadarn er diogelwch, ond peidiwch â dal gafael arni/arno.
- Croeswch eich breichiau ar draws eich brest
- Codwch un goes oddi ar y llawr a dechreuwch amseru.
- Gwnewch hyn am gyn hired â phosibl (hyd at 30 eiliad)
- Stopiwch amseru os ydych wedi rhoi eich troed i lawr, datgroesi eich breichiau, neu bwyso mwy na 30 gradd.
- Gwnewch y prawf eto ar y goes arall.
Yna gellir ailwneud y prawf hwn â'ch llygaid ar gau.
Gellir defnyddio'r tabl isod i weld sut y mae eich canlyniadau'n cymharu â'r cyfartaledd ar gyfer eich grŵp oedran.
Oedran (Blynyddoedd) | Llygaid ar agor | Llygaid ar gau |
20-29 | 29 eiliad | 21 eiliad |
30-39 | 29 eiliad | 14 eiliad |
40-49 | 29 eiliad | 10 eiliad |
50-59 | 28 eiliad | 8 eiliad |
60-69 | 26 eiliad | 5 eiliad |
70-79 | 14 eiliad | 4 eiliad |
Os na fydd eich canlyniad yn unol â'r canlyniadau cyfartalog ar gyfer eich grŵp oedran, gallech roi cynnig ar yr ymarferion cydbwysedd hyn i wella'ch cydbwysedd. Fel arall, gallech chi ymarfer gwneud tasgau syml yn ddyddiol ar un goes e.e. brwsio'ch dannedd. Gall anelu at gynnal pwysau iach hefyd helpu i wella cydbwysedd ac felly lleihau'r risg o gwympo.
Prawf eistedd - sefyll o gadair
- Eisteddwch ar ganol y gadair.
- Rhowch un llaw ar eich ysgwydd gyferbyn gan groesi eich arddyrnau.
- Rhowch eich traed yn fflat ar y llawr.
- Cadwch eich cefn yn syth a chadwch eich breichiau yn erbyn eich brest.
- Pan fo'r amser yn dechrau, codwch ar eich traed ac yna eisteddwch eto.
- Gwnewch hyn eto am 30 eiliad.
Cyfrifwch sawl gwaith yr ydych yn codi ar eich traed mewn 30 eiliad. Os ydych dros hanner ffordd i fod ar eich traed pan fo 30 eiliad wedi mynd heibio, mae hyn yn cyfrif.
Caiff y prawf hwn ei gynnal fel arfer i asesu cryfder coesau a dygnwch oedolion hŷn. Mae modd defnyddio'r tabl isod i weld sut mae eich canlyniadau'n cymharu â'r cyfartaledd. Os nad ydych yn rhan o'r categorïau oedran hyn, gallwch ei ddefnyddio fel canllaw o hyd.
Canlyniad Dynion | Canlyniad Menywod | |||||
Oedran | Is na'r cyfartaledd | Arferol | Uwch na'r cyfartaledd | Is na'r cyfartaledd | Arferol | Uwch na'r cyfartaledd |
60-64 | < 14 | 14 i 19 | > 19 | < 12 | 12 i 17 | > 17 |
65-69 | < 12 | 12 i 18 | > 18 | < 11 | 11 i 16 | > 16 |
70-74 | < 12 | 12 i 17 | > 17 |
< 10 |
10 i 15 | > 15 |
75-79 | < 11 | 11 i 17 | > 17 |
< 10 |
10 i 15 | > 15 |
80-84 | < 10 | 10 i 15 | > 15 | < 9 | 9 i 14 | > 14 |
85-89 | < 8 | 8 i 14 | >14 | < 8 | 8 i 13 | > 13 |
Mae fersiwn arall o'r prawf sefyll-eistedd yn cynnwys yr un symudiad, gan amseru pa mor hir y mae'n ei gymryd i sefyll 10 gwaith. Mae'r fideo hwn gan y BBC yn esbonio'r prawf ymhellach ac yn trafod y canlyniadau y dylech eu disgwyl ar sail eich oedran a'ch rhywedd.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth ar amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud ag Iechyd a Llesiant, ewch i'n tudalennau Cyngor ynghylch Ffordd Iach o Fyw a'n tudalen Cymorth a Chymorth.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2024
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2023
- Rhagfyr 2023
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant