Bod Yn Gorffornol Eginol
Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020
Beth yw gweithgarwch corfforol?
Gweithgarwch corfforol yw unrhyw symudiad corfforol sy'n gofyn am egni ac sy'n cael ei greu gan y cyhyrau sgerbydol. Gallai hyn fod yn unrhyw beth, gan gynnwys cerdded, garddio, gwthio coetsh babi yn gyflym, dringo'r grisiau, chwarae pêl-droed neu ddawnsio gyda'r nos hyd yn oed. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwneud gweithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd, yn aml heb feddwl amdano.
Pam y mae hyn yn bwysig?
Mae gweithgarwch corfforol yn cynnig llawer o fanteision i'n hiechyd corfforol a meddyliol. Gall cadw eich hun yn gorfforol egnïol leihau eich risg o ddal sawl salwch mawr, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, strôc, diabetes math 2 a rhai canserau, yn ogystal â gostwng eich risg o farwolaeth cyn pryd. Mae gweithgarwch corfforol hefyd yn bwysig i gryfhau eich esgyrn a'ch cyhyrau, gall arafu'r broses o golli cryfder yr esgyrn a helpu i gynnal màs a chryfder eich cyhyrau wrth ichi heneiddio.
Gall gweithgarwch corfforol hefyd helpu i wella eich iechyd meddwl a'ch hwyliau trwy ryddhau cemegion, gan wneud i chi ymlacio mwy, gwella hunan-barch, eich helpu i ymdopi â hwyliau isel, straen a lleihau symptomau pryder ac iselder. Mae wedi cael ei brofi bod gweithgarwch corfforol hefyd yn helpu i gadw eich sgiliau meddwl, dysgu a barnu yn finiog wrth i chi heneiddio gan fod y proteinau a'r cemegion sy'n cael eu rhyddhau trwy ysgogi'r corff yn helpu i wella strwythur a swyddogaeth eich ymennydd.
Faint o weithgarwch corfforol ddylwn i fod yn ei wneud?
Mae canllawiau gweithgarwch corfforol cyfredol y Prif Swyddogion Meddygol yn y DU yn nodi y dylai oedolion, rhwng 19 a 64 oed, fod yn egnïol bob dydd ac y dylent wneud naill ai:
- o leiaf 150 munud o weithgaredd aerobig cymedrol bob wythnos, megis beicio neu gerdded yn gyflym, ac
- ymarferion cryfder dau ddiwrnod neu ragor yr wythnos sy'n gweithio pob un o brif grwpiau'r cyhyrau (ysgwyddau, cefn, breichiau, brest, abdomen, cluniau, coesau)
NEU
- 75 munud o weithgaredd aerobig egnïol, megis rhedeg, nofio neu chwarae pêl-droed, ac
- ymarferion cryfder dau ddiwrnod neu ragor yr wythnos sy'n gweithio pob un o brif grwpiau'r cyhyrau (ysgwyddau, cefn, breichiau, brest, abdomen, cluniau, coesau)
Dylai oedolion hefyd leihau faint o amser y maent yn llonydd, megis eistedd, am gyfnodau estynedig. Mae'r canllawiau bellach yn tynnu sylw at y manteision ychwanegol o wneud gweithgarwch corfforol er mwyn gwella cydbwysedd a hyblygrwydd oedolion hŷn. Bydd ymarferion sy'n gwella cydbwysedd, cydsymud a chryfder y coesau yn helpu i gynnal a gwella cryfder y cyhyrau a lleihau'r risg o gwympo wrth i ni heneiddio. Gall gwella hyblygrwydd leihau doluriau a phoenau, gwella eich ystum a'ch helpu i barhau i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd.
Sut y gall yr Awdurdod fy helpu i gyflawni hyn?
Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, edrychwch ar y wybodaeth isod am sut y gall Cyngor Sir Caerfyrddin helpu i'ch cefnogi chi i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Defnyddiwch ein cyfleusterau hamdden gwych
Beth am roi cynnig ar fynd i'ch canolfan hamdden Actif Sir Gâr leol i helpu i gyflawni ychydig o'ch gweithgarwch corfforol argymelledig? Mae 7 canolfan hamdden i ddewis o'u plith yn Sir Gaerfyrddin ac mae ystod eang o weithgareddau ar gael, mae rhywbeth at ddant pawb! Mae ein cyfleusterau'n cynnwys campfeydd â chyfarpar llawn, dosbarthiadau ffitrwydd, pyllau nofio, dosbarthiadau dŵr a llogi cyrtiau badminton a sboncen. Fel aelod o staff, byddwch hefyd yn cael manteisio ar ostyngiad corfforaethol ar eich aelodaeth Actif.
Ymunwch â grwpiau iechyd a llesiant yn yr Awdurdod
Mae ein Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant wedi sefydlu sawl grŵp, gan gynnwys grwpiau cerdded a rhedeg ar gyfer staff. I gael rhagor o wybodaeth am ble mae'r rhain a phryd y cânt eu cynnal, gweler ein tudalennau Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant a Digwyddiadau a Gweithgareddau.
Gwnewch y gorau o Sir Gaerfyrddin
Rydym yn ffodus i fyw mewn sir sy'n llawn cefn gwlad ac arfordiroedd hardd. Beth am fynd allan i redeg, cerdded neu feicio a gwneud y gorau o'r hyn sydd gan y sir i'w gynnig? Dyma rai o'r lleoedd gwych i ymweld â nhw yn Sir Gaerfyrddin:
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Parc Gwledig Pen-bre
- Parc Arfordirol y Mileniwm
- Castell Carreg Cennen
- Cartref Dylan Thomas
- Castell Llansteffan
- Castell Cydweli
- Llyn y Fan Fach
- Parc Gwledig Llyn Llech Owain
Mae gan Darganfod Sir Gâr hefyd ganllawiau gwych ynghylch y lleoedd gorau i gerdded ac archwilio felly beth am roi cip arnynt!
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2024
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2023
- Rhagfyr 2023
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant