Bwyta'n Iach
Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020
Mae bwyta deiet da yn rhan bwysig o gadw'n iach, a gall eich helpu i deimlo ar eich gorau, yn feddyliol ac yn gorfforol. Yn y gweithle, mae maeth da yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng diwrnod da a diwrnod gwael – bydd bwyta prydau bwyd rheolaidd sy'n llawn maeth yn helpu i gynnal eich egni corfforol a meddyliol, cadw eich hwyliau'n sefydlog a rheoli eich straen. Gall deiet iach ac amrywiol hefyd eich diogelu rhag mân anhwylderau megis annwyd neu gyflyrau tymor hir mwy difrifol megis canser y coluddyn.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyngor ynghylch bwyta'n iach ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Dylai pobl sydd ag anghenion deietegol arbennig neu sydd â chyflwr meddygol ofyn i ddoctor neu ddeietegydd cofrestredig am gyngor.
Bwyta deiet iach chytbwys
Mae hyn yn golygu bwyta amrywiaeth eang o fwydydd, a bwyta'r gyfran a'r swm cywir o fwyd a diod er mwyn sicrhau a chynnal pwysau corff a meddwl iach. Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn dangos y dylai pobl geisio gwneud y canlynol er mwyn cael deiet cytbwys ac iach:
- bwyta o leiaf 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd (gweler 5 y Dydd)
- seilio eich prydau bwyd ar fwydydd llawn startsh a ffeibr megis tato, bara, reis neu basta
- cael ychydig o gynnyrch llaeth neu ddewisiadau llaeth eraill (megis diodydd soia)
- bwyta ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill
- dewis olewau a thaeniadau heb ddŵr, a bwyta dognau bach ohonynt
- yfed digon o ddiodydd (o leiaf 6 neu 8 gwydraid y dydd)
Os ydych yn cael bwydydd a diodydd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr, sicrhewch eich bod yn cael y rhain yn llai aml ac mewn dognau bach.
Bwyta'n dda yn y gwaith
Dyma rai cynghorion ynghylch ceisio cynnal deiet iach yn y gwaith:
1. Bwyta'n aml
Sicrhewch eich bod yn bwyta rhywbeth i frecwast, hyd yn oed os ydych yn gwneud hynny pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith, a pheidiwch â mynd heb ginio. Mae hyn yn bwysig i'ch helpu chi i stopio bwyta byrbrydau sy'n uchel mewn siwgr a braster, yn ogystal â chynnal eich lefelau egni a rheoli eich hwyliau. Er enghraifft, gall mynd heb frecwast godi lefel gefndir eich hormon straen cyn ichi hyd yn oed gyrraedd y gwaith a gall hefyd gael effaith ar ba mor gyflym y mae eich pwysedd gwaed yn dychwelyd i normal ar ôl digwyddiad heriol.
2. Cadwch at y bwyd cymhleth
Ceisiwch gynnwys amrywiaethau grawn cyflawn neu wenith cyflawn o fwydydd llawn startsh yn eich cinio, megis reis brown, pasta gwenith cyflawn, a bara brown, gwenith cyflawn neu fara gwyn sydd â lefel uwch o ffeibr. Hefyd ceisiwch gynnwys ffa, corbys, ffrwythau a llysiau.
Mae amrywiaethau grawn cyflawn neu wenith cyflawn yn cynnwys mwy o ffeibr ac fel arfer mwy o fitaminau a mwynau nag amrywiaethau gwyn. Mae tato yn eu crwyn yn rhoi llawer iawn o ffeibr a fitaminau. Er enghraifft, wrth gael tato wedi'u berwi neu dato pob, bwytewch y croen hefyd.
3. Meddyliwch am yr ymennydd
Ceisiwch gael pysgod olewog, wyau, cig a/neu ffa, corbys, cnau, hadau, llysiau gwyrdd deiliog a ffrwythau a llysiau porffor tywyll a choch. Mae pysgod olewog a bwydydd sy'n seiliedig ar blanhigion yn cynnwys olew had llin sy'n bwysig ar gyfer helpu'r ymennydd i weithio mewn ffordd iach, y galon, y cymalau a'n llesiant cyffredinol. Gall ffrwythau a llysiau coch tywyll a phorffor fod yn effeithiol o ran gwella neu ohirio colli cof yn y tymor byr. Mae bwydydd sy'n llawn fitamin B yn chwarae rhan bwysig o ran rheoleiddio'r ymennydd i weithio'n iawn.
4. Cyfyngwch ar fyrbrydau llawn siwgr neu fraster
Bydd bwyta byrbrydau megis ffrwythau, cnau, salad, iogwrt a chacennau reis rhwng prydau bwyd yn lleihau'r temtasiwn i fwyta byrbrydau heb lawer o faeth neu fwydydd sy'n uchel mewn siwgr neu fraster megis siocled, cacennau, bisgedi, pasteiod, bariau grawnfwyd a fflapjacs. Cefnogwch eich hun a'ch tîm drwy ddod â dewisiadau iach ar gyfer byrbrydau i gyfarfodydd neu ar gyfer penblwyddi. Ceisiwch gyfyngu ar y byrbrydau sy'n llawn siwgr neu fraster i unwaith neu ddwywaith yr wythnos.
5. Yfed digon o ddŵr
Mae'n hawdd anghofio am hyn, ond mae dewis diodydd iachach yn rhan allweddol o gael deiet cytbwys. Mae peidio ag yfed digon yn gallu cael effaith ar eich gallu i ganolbwyntio yn y gwaith, ac arwain at bennau tost, blinder, teimlo'r bendro neu deimlo'n benysgafn.
Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn dweud y dylwn yfed 6 i 8 gwydraid o hylif y dydd. Mae dŵr, llaeth sy'n cynnwys llai o fraster a diodydd heb ffrwyth, gan gynnwys te a choffi (yn enwedig amrywiaethau heb gaffein i gyd yn cyfri. Mae nifer o ddiodydd meddal yn llawn siwgr ac mae diodydd sy'n llawn siwgr yn aml yn cynnwys llawer o galorïau. Cyfyngwch ar y sudd ffrwythau, sudd llysiau neu smwddis rydych chi'n eu hyfed i ddim mwy na chyfanswm o 150ml y dydd (1 gwydryn bach). Mae rhai diodydd egni yn llawn siwgr a chaffein felly sicrhewch eich bod yn darllen y labeli.
6. Cymerwch seibiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta eich byrbrydau a'ch prydau i ffwrdd o'r man lle rydych yn gweithio gan y bydd hyn yn eich helpu i gael seibiant go iawn. Mae'n rhwydd iawn parhau i weithio os nad ydych yn gwneud hyn. Os ydych yn teithio neu'n crwydro, sicrhewch eich bod yn stopio'r car yn rhywle i fwyta a neilltuo amser i fwyta'n gywir. Mae astudiaethau'n dangos eich bod yn bwyta mwy o fyrbrydau yn y prynhawn pan rydych yn gweithio yn ystod eich amser cinio.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2025
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2024
- Rhagfyr 2024
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant