Lleihau Faint O Alcohol Rydych Yn Ei Yfed
Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020
Faint o alcohol sy'n ddiogel i'w yfed?
Mae canllawiau’r Prif Swyddog Meddygol yn argymell na ddylai oedolion, hynny yw dynion a menywod, yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 6 peint o gwrw cryfder canolig (4%), 6 gwydraid o win (13% 175ml) neu 14 mesur o wirod. Ceisiwch beidio â ‘chynilo’ eich unedau, mae'n well eu cael trwy gydol yr wythnos.
Er mwyn cadw'r risg tymor byr yn isel, dylech gyfyngu ar faint o alcohol rydych yn ei yfed mewn un sesiwn a cheisio yfed yn arafach, am yn ail gyda bwyd a/neu ddŵr. Ffordd dda o geisio lleihau faint o alcohol rydych yn ei yfed yw cael o leiaf ychydig o ddiwrnodau heb alcohol yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael drwy ddarllen Canllawiau Yfed Risg Isel Prif Swyddogion Meddygol y DU.
Sut gall gormod o alcohol effeithio arnaf?
Mae effeithiau tymor hir yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd yn cynnwys canser y geg, y gwddf a'r bronnau, strôc, clefyd y galon, clefyd yr afu, niwed i'r ymennydd a niwed i'r system nerfol. Dengys gwaith ymchwil y gall yfed risg uchel gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl, a cheir cysylltiadau cryf rhwng camddefnyddio alcohol, iselder a hunanladdiad.
O ystyried ei effaith gyflym ar yr ymennydd, mae effeithiau tymor byr yfed gormod o alcohol mewn un sesiwn yn cynnwys colli cof, colli cydsymudiad echddygol, siarad yn aneglur, risg uwch o ddamweiniau ac anafiadau, camfarnu sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus a cholli hunanreolaeth. Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol y gall yfed alcohol, hyd yn oed swm risg isel, effeithio arnoch y diwrnod canlynol, megis colli eich gallu i ganolbwyntio, achosi anghofrwydd, cydnabyddiaeth a galluoedd seicomotor gwael. Dylech fod yn ymwybodol o'r wybodaeth hon pan fyddwch yn yfed alcohol y noson cyn diwrnod gwaith.
Hunan-wiriwr ac adnoddau defnyddiol
Os ydych chi'n poeni am faint o alcohol rydych yn ei yfed neu'n gobeithio cadarnhau eich bod chi'n yfed swm diogel, beth am roi cynnig ar y gwiriwr uned rhyngweithiol hwn i gyfrifo faint o unedau o alcohol rydych chi'n eu hyfed fel arfer.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, gallwch ddefnyddio'r adnoddau canlynol:
- Gwybodaeth a pholisi Cyngor Sir Caerfyrddin o ran camddefnyddio alcohol a sylweddau
- Cymorth alcohol y GIG
- Cynghorion ar leihau
- Faint yw uned o alcohol?
- Beth yw goryfed mewn pyliau?
Gweler ein tudalen Adnoddau a Chymorth allanol ar gyfer sefydliadau cymorth pellach.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2025
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2024
- Rhagfyr 2024
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant