Rheoli'r menopos
Diweddarwyd y dudalen: 14/01/2025
Mae rhai menywod yn mynd drwy'r menopos heb fawr o effaith ar eu bywyd bob dydd. Fodd bynnag, am bob deg menyw sy'n profi symptomau'r menopos, mae chwech yn dweud bod hynny'n cael effaith negyddol ar eu perfformiad a'u presenoldeb yn y gwaith. Gall noson wael o gwsg effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio, er enghraifft, a gall mislif trwm neu byliau o wres beri gofid yn gorfforol ac embaras. Gall yr effeithiau seicolegol megis gorbryder hefyd effeithio ar berthnasoedd yn y gwaith.
Fodd bynnag, gyda'r cymorth cywir, nid oes angen i fenywod deimlo ei fod yn effeithio ar eu gwaith. Yn aml gall ychydig o newidiadau syml i amgylchedd gwaith rhywun wneud byd o wahaniaeth – gan alluogi pobl sy'n profi symptomau'r menopos i barhau i gyflawni a chyfrannu at eu potensial llawn. Gall hyd yn oed siarad yn agored amdano leihau effaith symptomau rhywun.
Hefyd, gall ffordd iach o fyw helpu i leihau symptomau'r menopos.
- Mae'r rhan fwyaf o fenywod yn profi'r menopos rhwng 45 a 55 oed – ond mae rhai'n dechrau cael symptomau yn llawer cynharach.
- Gall symptomau gynnwys nid yn unig yr un sy'n dod i'r meddwl yn syth, sef pyliau o wres, ond hefyd diffyg cwsg, crychguriadau, colli cof, pennau tost, iselder a gorbryder
- Mae tua hanner yn ei chael hi'n anodd ymdopi â gwaith yn ystod y menopos.
- Mae rhai menywod yn teimlo eu bod wedi colli eu hunaniaeth yn llwyr o ystyried pwy oeddent cyn ac yn ystod/ar ôl y menopos.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y menopos a beth sy'n ei achosi ar wefan y GIG a Dewisiadau'r GIG
Mae'r canllawiau canlynol wedi'u llunio ar gyfer gweithwyr sy'n mynd drwy'r menopos/ar fin mynd drwy'r menopos ar hyn o bryd a rheolwyr â staff sydd angen cymorth o bosib.
Canllaw i Weithwyr ar y Menopos
Canllaw i Reolwyr ar y Menopos
Gall ffordd iach o fyw helpu i reoli a lleihau rhai o symptomau'r menopos a lleihau'r risg o broblemau y gall y menopos gyfrannu atynt. Mae ffordd iach o fyw yn cynnwys:
- Bwyta deiet iach, cytbwys sy'n cynnwys lefelau digonol o galsiwm
- Ymarfer yn rheolaidd (gan gynnwys ymarferion dwyn pwysau ac ymwrthiant) i gynnal pwysau iach ac i gadw'n heini ac yn gryf
- Lleihau faint o alcohol rydych yn ei yfed
- Rhoi'r gorau i ysmygu
- Lleihau lefelau straen
Er enghraifft, gall dewis gwneud yr uchod o ran ffordd iach o fyw helpu i leihau'r risg o osteoporosis – ffactor risg mawr sy'n gysylltiedig â'r menopos. Hefyd, efallai y bydd cynnal pwysau iach ac ymarfer yn rheolaidd, yn ogystal â lleihau lefelau straen, yn helpu o ran pyliau o wres a chwysu yn y nos. Hefyd, gall sicrhau eich bod yn cael digon o orffwys a chwsg, gwneud ioga/tai chi a/neu gael therapi ymddygiad gwybyddol helpu i reoli newidiadau mewn hwyliau, gorbryder ac iselder.
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am liniaru a lleihau symptomau a sgil effeithiau'r menopos ar wefan y GIG.
Mae gan rai o'n Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant ddiddordeb mawr mewn rhoi cymorth i staff a gallant roi rhagor o wybodaeth am y menopos. Gallwch hidlo'r hyrwyddwyr yn ôl diddordeb a'r menopos i ddod o hyd i'r cysylltiadau perthnasol.
O bryd i'w gilydd, mae'r Tîm Iechyd a Llesiant neu rai o'r Hyrwyddwyr yn cynnal gweithdai, sgyrsiau a gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â'r menopos. Cadwch lygad ar ein tudalennau Digwyddiadau lle y bydd y rhain yn cael eu nodi.
Yn ddiweddar, gwnaeth Jayne Woodman o dîm Menopos gyflwyniad ar y Menopos a rhannodd rai adnoddau.
Menopause Resources (Men) 2022
27/10/2022 Presentation from the Menopause Team.
Cafodd y cyflwyniad hwn ei recordio hefyd ac os hoffai unrhyw un gael copi o'r recordiad yna e-bostiwch iechyd&lles@sirgar.gov.uk.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, dylech gael trafodaeth â'ch rheolwr yn gyntaf ynghylch sut y gall roi cymorth i chi yn y gweithle. I gael rhagor o gymorth ynghylch rheoli'r symptomau, cysylltwch â'n Canolfan Cyngor a Chymorth Llesiant Gweithwyr neu gofynnwch i'ch rheolwr eich atgyfeirio at Iechyd Galwedigaethol neu'r Gwasanaeth Cymorth Llesiant.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2025
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2024
- Rhagfyr 2024
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant