Rhoi'r Gorau I Ysmygu
Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020
Effeithiau ysmygu ar iechyd
Ysmygu yw un o'r prif achosion o ran marwolaethau y gellir eu hosgoi yn y DU a dyma'r prif achos o farwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae mwy na 5,000 o bobl, tua 1 o bob 6 o'r holl farwolaethau ymysg pobl dros 35 oed, yn marw o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag ysmygu bob blwyddyn yng Nghymru.
Mae ysmygu yn cael sawl effaith negyddol ddifrifol ar iechyd eich corff, ac yn aml mae'n effeithio ar gylchrediad y gwaed, calon, ymennydd, stumog, ysgyfaint, ceg a llwnc, croen, esgyrn, atgenhedliad a ffrwythlondeb. Bydd pob 15 sigarét rydych yn ei hysmygu yn achosi mwtaniad yn eich corff – mwtadiadau yw sut mae canserau'n dechrau.
Sut y galla i roi'r gorau i ysmygu?
Mae llawer o ddulliau y gallwch eu defnyddio os ydych yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu ac mae'n bwysig cofio bod y broses hon yn wahanol i bawb. Ceisiwch ddod o hyd i ddull neu ffynhonnell cymorth sy'n gweithio i chi.
10 awgrym hunangymorth i roi'r gorau i ysmygu:
- Gwnewch gynllun clir i roi'r gorau i ysmygu
- Credwch ynoch eich hun a meddyliwch yn gadarnhaol
- Nodwch yr hyn sy'n codi chwant arnoch i ysmygu
- Meddyliwch am eich deiet a sut mae hyn yn effeithio ar eich arferion ysmygu
- Gwnewch ffrindiau â phobl nad ydynt yn ysmygu
- Rhowch ystyriaeth i'r hyn rydych yn ei yfed a sut y gallai hyn effeithio ar eich chwant am sigarét
- Cynyddwch eich lefelau gweithgarwch corfforol
- Cadwch eich dwylo a'ch ceg yn brysur
- Gwnewch restr i chi'ch hun o'r rhesymau yr ydych am roi'r gorau iddi
- Ceisiwch gymorth ar roi'r gorau i ysmygu
Gwasanaethau Cymorth sydd ar gael
- Gwnewch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu
- Dewch o hyd i sesiwn rhoi'r gorau i smygu un-i-un neu grŵp lleol
- Cysylltwch ag ymgynghorydd rhoi'r gorau i ysmygu
- Cysylltwch â llinell gymorth Helpa fi i Stopio Cymru drwy ffonio 0800 085 2219
- Ffoniwch linell gymorth NHS Smokefree ar 0300 123 1044
- Gweler Gwefan Helpa fi i Stopio GIG Cymru
- Gweler cymorth Nicorette ynghylch Paratoi i roi'r gorau i ysmygu
- I gael rhagor o gymorth, gweler ein tudalen Adnoddau a Chymorth Allanol
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2024
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2023
- Rhagfyr 2023
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant