Awtistiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 16/05/2024

Beth yw Awtistiaeth?

Mae awtistiaeth yn effeithio ar y ffordd y mae person yn profi ei amgylchedd ac felly'r ffordd y mae'n cyfathrebu. Mae pobl awtistig yn aml yn profi eu synhwyrau'n fwy dwys nag eraill, sy'n golygu y gall y byd deimlo'n llethol ar adegau. Ceir llawer o sgiliau sy'n gysylltiedig ag Awtistiaeth fel gonestrwydd a diffuantrwydd, sylw i fanylion, y gallu i ddod o hyd i batrymau neu greu patrymau, prosesu gwybodaeth a chof.

A yw awtistiaeth yn wahanol mewn menywod a merched?

Mae'n bwysig bod menywod a merched awtistig yn cael diagnosis (neu'n cydnabod eu bod yn awtistig) fel y gallant ddeall eu hunain a chael gafael ar gymorth. Fodd bynnag, oherwydd syniadau ystrydebol am sut beth yw awtistiaeth a phwy all fod yn awtistig, mae llawer o fenywod a merched awtistig yn cael anhawster cael diagnosis, yn derbyn diagnosis yn hwyr mewn bywyd neu'n cael cam-ddiagnosis o gyflyrau heblaw awtistiaeth.

Gall nodweddion awtistiaeth mewn menywod a merched fod yn wahanol i’r rheiny sydd gan bobl awtistig eraill. Gallant ymddangos fel pe bai ganddynt lai o anawsterau cymdeithasol na dynion a bechgyn awtistig, ond gallai hyn fod oherwydd eu bod yn fwy tebygol o guddio eu nodweddion awtistig (er y gallai’r straen o wneud hynny achosi pryder mawr iddynt a’u llethu). Rhai o nodweddion canolog awtistiaeth yw ymddygiadau ailadroddus a diddordebau penodol iawn. Mae’r enghreifftiau ystrydebol o hyn yn cynnwys siglo yn ôl ac ymlaen, a diddordeb mawr mewn trenau. Fodd bynnag, mewn menywod a merched awtistig gall yr ymddygiadau a’r diddordebau hyn fod yn debyg i rai menywod a merched nad ydynt yn awtistig, fel troelli gwallt a darllen llyfrau. Mae’n bosibl felly na fyddai pobl yn sylwi ar yr ymddygiadau hyn er eu bod yn fwy dwys neu’n fwy penodol fel sy’n nodweddiadol ar gyfer pobl awtistig. 

Mae rhai o’r dulliau a ddefnyddir i ddiagnosio awtistiaeth wedi’u bwriadu i adnabod nodweddion awtistiaeth a allai fod yn fwy cyffredin mewn dynion a bechgyn awtistig. Mae hyn yn golygu efallai nad yw’r broses mor sensitif i nodweddion sydd i’w gweld yn fwy cyffredin ymhlith menywod a merched awtistig.

Pam cyflogi person awtistig?

Mae gan lawer o bobl awtistig amrywiaeth o sgiliau sydd weithiau’n eithriadol, sy’n galluogi i ffynnu mewn rolau sy’n amrywio o gynorthwyydd gwerthiannau i raglennydd cyfrifiadurol, ac o newyddiadurwr i ystadegydd, i enwi ond ychydig.

Fodd bynnag, mae pobl awtistig yn aml o dan anfantais pan ddaw’n fater o gael a chadw swydd oherwydd diffyg dealltwriaeth a chefnogaeth pobl eraill.  Gall fod angen rhywfaint o gymorth ar weithwyr awtistig yn y gweithle, ac yn aml cymorth syml sydd ei angen. Yn ogystal â’u cryfderau a’u doniau unigol, mae ymgeiswyr awtistig yn aml yn arddangos sgiliau uwch na’r cyffredin mewn rhai neu bob un o’r meysydd canlynol: 

  • gallu canolbwyntio’n dda
  • dibynadwyedd, natur gydwybodol a dyfalbarhad
  • cywirdeb, sylw craff i fanylder a’r gallu i adnabod camgymeriadau
  • gallu technegol, megis mewn TG
  • gwybodaeth ffeithiol fanwl a chof ardderchog

Mae hyn yn golygu y gall person awtistig yn hawdd iawn fod yn well am wneud swydd benodol na rhywun nad yw’n awtistig. Trwy gael gwell dealltwriaeth o awtistiaeth, gallwch agor posibiliadau newydd ar gyfer eich sefydliad.

Sut mae'n effeithio ar eich patrymau gwaith?

Clustffonau canslo sŵn. Mae’r rhain yn helpu i gau allan sŵn cefndirol mewn swyddfa neu warws brysur;

  • Ffilter sgrîn ar gyfer gliniadur neu fonitor cyfrifiadur pen desg. Mae hyn yn helpu i wneud i sgrîn ymddangos yn llai llachar, gan leihau’r perygl o orlethu’r synhwyrau
  • Defnyddio rhan dawel, neilltuedig o’r gweithle. Mae hyn yn ddefnyddiol er mwyn osgoi’r holl sŵn a symudiadau a all orlethu’r synhwyrau os ydyn yn mynd yn ormod.
  • Apiau rheoli amser a rheoli prosiect. Gall y rhain fod o gymorth i amserlennu tasgau a darganfod beth sy’n digwydd bob dydd
  • Negeseuon gwib ac apiau testun-i-leferydd. I'r rheiny nad ydynt yn eiriol neu nad ydynt yn hyderus wrth ddefnyddio’r ffôn neu wrth sgwrsio wyneb yn wyneb, gall yr apiau hyn helpu i chwalu rhwystrau cyfathrebu
  • Gall cyfarpar ergonomig megis bysellfyrddau, llygod, trackpads ac offer eraill fel hynny helpu i wneud i weithiwr awtistig deimlo’n fwy cysurus
  • Oriau hyblyg – patrwm gwaith i weddu i anghenion a chloc mewnol gweithiwr awtistig
  • Eithrio o gyfarfodydd tîm a chynulliadau cymdeithasol. Daw hyn ar ffurf caniatâd i beidio mynd i ymarferion adeiladu tîm, cyfarfodydd, sesiynau tanio syniadau a nosweithiau allan i’r tîm
  • Eithrio o gwrdd â chleientiaid – mae hyn oherwydd y materion cyfathrebu y mae rhai pobl awtistig yn eu hwynebu, yn hytrach nag unrhyw beth arall.

Dolenni Defnyddiol

Adults (autism.org.uk)

Autism at Work programme

Where to get autism support - NHS (www.nhs.uk)

Iechyd a Llesiant