Pecynnau Iechyd a Llesiant
Diweddarwyd y dudalen: 31/03/2025
Gall y Tîm Iechyd a Llesiant ddod i gyfarfodydd timau i drafod strategaethau ar gyfer cefnogi unigolion a thimau i gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Yn ystod y sesiynau hyn, gallant gynnig awgrymiadau ymarferol ynghylch hunanofal, rheoli straen a llesiant meddyliol, a'r rheiny wedi'u teilwra i anghenion penodol y grŵp. Drwy rannu adnoddau, hyrwyddo sgyrsiau agored am lesiant, ac annog unigolion i gynnal arferion hunanofal yn rheolaidd, mae'r tîm yn helpu i feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.
Mae ein tîm Iechyd a Llesiant yn cynnig hyfforddiant a gweithdai pwrpasol sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion unigryw eich tîm neu unigolion. Mae'r sesiynau hyn, sydd wedi'u teilwra yn seiliedig ar adborth manwl gan reolwyr, yn mynd i'r afael â heriau a nodau penodol i wella llesiant personol ac ar y cyd. P'un ai rheoli straen, meithrin gwytnwch, neu wella dynameg gyffredinol y tîm sydd o dan sylw, mae ein rhaglenni'n hyblyg ac yn berthnasol. Yn ogystal, mae cymorth parhaus ar gael trwy Becyn 3, gan sicrhau cynnydd parhaus a sicrhau bod y strategaethau a ddysgwyd yn cael eu hintegreiddio i fywyd gwaith bob dydd.
Mae ein Tîm Iechyd a Llesiant wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cefnogol a ffyniannus trwy gynnig atebion pwrpasol trwy ein gwasanaethau ym Mhecyn Un a Phecyn Dau. Rydym yn llunio arolygon llesiant, cynlluniau gweithredu a siarteri wedi'u teilwra sy'n darparu'n benodol ar gyfer unigolion, timau ac adrannau. Trwy gasglu mewnwelediadau o arolygon wedi'u haddasu, rydym yn nodi'r prif feysydd o ran angen ac yn datblygu cynlluniau y gellir eu gweithredu i wella iechyd a llesiant yn gyffredinol. Mae ein dull gweithredu yn sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu blaenoriaethu ar bob lefel, gan feithrin diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u grymuso i ffynnu yn bersonol ac yn broffesiynol.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant