Cadernid Personol

Diweddarwyd y dudalen: 25/05/2023

Heddiw yn y gweithle, mae disgwyl inni ymdopi â phwysau cynyddol, toriadau i gyllideb, targedau perfformiad, rolau'n newid ac ansicrwydd am y dyfodol.  

Gall Cadernid Personol fod yn rhan allweddol o'r modd rydym yn rheoli sefyllfaoedd anodd a llawn straen a bydd hefyd yn ein helpu i wella ein perfformiad yn y gweithle yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles. 

Wrth inni ystyried Cadernid Personol, mae nifer o bethau'n dod i'r meddwl ond yn y bôn, dyma'r gallu i symud ymlaen o sefyllfaoedd anodd. Cadernid Personol yw'r broses o addasu'n dda wrth wynebu adfyd, trawma, trychineb a hyd yn oed yn ystod cyfnodau o straen.  

Mae'n bwysig cofio, yn wahanol i'r gred, nad yw hwn yn rhywbeth sydd naill ai gennych neu beidio. Mae'n cynnwys meddyliau ac ymddygiad, a gellid dysgu a datblygu'r rhain i gyd.  

Dyma ein deg argymhelliad gorau ar gyfer meithrin cadernid:

 

Sicrhewch fod gennych rwydwaith cymorth yn y gwaith ac yn eich bywyd personol, megis teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Gwnewch y mwyaf o unrhyw gymorth sydd ar gael ar eich cyfer megis ein tudalennau mewnrwyd a gwefannau perthnasol, canolfan gymorth a chyngor ynghylch llesiant gweithwyr, ein fforwm staff, a sefydliadau.  

Ceisiwch dderbyn y pethau na allwch eu rheoli a chydnabod y pethau y gallwch eu rheoli. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth addasu i newid a bydd yn eich galluogi i weld y pethau sy'n digwydd gyda meddylfryd mwy cadarnhaol. Bydd hyn yn eich helpu i feddwl yn fwy rhesymegol, teimlo'n hapusach, symud ymlaen, teimlo'n fwy brwdfrydig a chael mwy o ffydd yn eich hun. 

Mae'n bwysig iawn i ofalu amdanoch eich hun, felly ceisiwch wneud dewisiadau cadarnhaol ac iach o ran eich ffordd o fyw. Mae'r rhain yn cynnwys bwyta'n dda, yfed digonedd o ddŵr a chael digon o gwsg. Dylech hefyd geisio cadw'n egnïol a datblygu neu gynnal hobïau a diddordebau. Bydd hyn yn eich helpu i gadw iechyd corfforol a meddyliol cryf yn ystod cyfnod pan fo hyn yn hanfodol. Cadwch mewn cysylltiad â'ch Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant i gael gwybod am y gweithgareddau diweddaraf y gallwch gymryd rhan ynddynt.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud amser i'ch hunan ac yn cymryd seibiant, yn gorfforol ac yn feddyliol. Gall cymryd seibiant rheolaidd i gael newidiaeth neu gael pum munud o dawelwch wneud gwahaniaeth mawr. Ceisiwch wahanu'n glir rhwng amser gweithio ac amser ymlacio a thynnwch eich iwnifform neu eich dillad gwaith yn syth ar ôl i chi orffen gweithio am y diwrnod. 

Daliwch ati i weithio tuag at eich nodau; gan geisio gosod nodau bach neu greu cynlluniau gweithredu i'ch helpu i gyrraedd eich nodau. Byddwch yn garedig i'ch hun, gan gydnabod eich cynnydd a gwobrwyo eich hun am gyflawniadau. Er nad oes ateb cyflym a hawdd i'r broblem, mae cymryd camau bach yn ffordd wych o ddechrau. 

Ceisiwch gadw pethau mewn persbectif a gweld heriau neu anawsterau fel cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad personol. Byddwch yn barod i groesawu newid, dysgwch o feirniadaeth, daliwch ati pan fydd pethau’n mynd o chwith, dysgwch o'r rhai sydd o'ch cwmpas a chofiwch na fydd yr amseroedd hyn yn para am byth. 

Mae aros yn ddigynnwrf ac yn ddigyffro mewn sefyllfaoedd anodd yn bwysig, felly rhowch amser i'ch hun i glirio'ch meddwl. Ceisiwch ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, ioga, tai chi neu ymarferion anadlu i ymlacio a gorffwyso. Ceisiwch fod yn ymwybodol o'r pethau bychain, a'u gwerthfawrogi. 

Ceisiwch ddeall eich meddyliau eich hun, gan gydnabod arferion meddwl nad ydynt yn eich helpu megis meddyliau pryderus neu negyddol a cheisio meddwl yn fwy cadarnhaol. Meddyliwch am y ffeithiau rydych chi'n eu gwybod ac ystyriwch pa gyngor y byddech chi'n ei roi i ffrind pe byddai'n cael y meddyliau hynny.  
 

Cymerwch amser i fyfyrio a dangos diolchgarwch – mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod adegau o newid. Cymerwch sylw a dewch yn fwy ymwybodol o'ch sefyllfa bresennol a'r hyn sy'n digwydd yn eich bywyd ar hyn o bryd. Beth am roi cynnig ar restru 3 pheth rydych yn ddiolchgar amdanynt ar ddiwedd pob diwrnod?

Wrth chwerthin, mae'r ymennydd yn rhyddhau endorffiniau, cemegion naturiol sy'n rhoi boddhad i chi. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, cofiwch ei bod yn iawn i chwerthin - efallai y bydd yn helpu!  

 

Meithrin eich cadernid eich hun  

I ddysgu mwy am lesiant a chadernid personol, rydym yn argymell eich bod yn cwblhau'r Modiwl E-ddysgu ynghylch Cadernid Personol. Lluniwyd y modiwl hwn i'ch helpu i feddwl am eich cadernid eich hun, yn enwedig yn y gweithle, a sut y gellid ei gryfhau.  

 

Iechyd a Llesiant