Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
Diweddarwyd y dudalen: 09/10/2023
Trawma
Mae trawma'n cyfeirio at brofiad ingol iawn, sy'n peri llawer o straen neu sy'n frawychus iawn. Gall trawma emosiynol neu seicolegol fod yn gysylltiedig â sefyllfaoedd sy'n drawmatig a sut y mae'r profiadau hynny'n effeithio arnom. Gall digwyddiadau neu brofiadau trawmatig ddigwydd i unigolion o unrhyw oed a bydd y modd y bydd pawb yn ymateb i'r profiadau hynny yn wahanol. Gall effaith trawma fod yn amlwg ar unwaith neu efallai na fydd yn cael effaith arnom hyd nes cyfnod hir ar ôl hynny.
Mae digwyddiadau y gellir eu hystyried yn drawmatig fod yn rhai eang, o bethau rydym o bosib yn eu hystyried fel digwyddiadau cyffredin ym mywyd bob dydd megis ysgariad, profedigaeth a damweiniau neu brofiadau eithafol megis rhyfel, trychinebau naturiol, pandemig, trais rhywiol ac ymosodiad.
Effaith Trawma
Gall trawma effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol, a gall yr effeithiau hyn barhau am gyfnod hir ar ôl y profiad trawmatig.
Mae effeithiau corfforol yn cynnwys ymateb nodweddiadol ein corff i fygythiad neu straen, gan gynnwys cortisol ac adrenalin yn cael eu rhyddhau i'n paratoi ar gyfer perygl. Mae astudiaethau wedi dangos bod arwyddion o straen yn gallu parhau am amser hir ar ôl i'r trawma ddod i ben a gall barhau i gael effaith ar y modd rydych yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.
Mae'r effeithiau iechyd meddwl sy'n gyffredin yn dilyn trawma yn cynnwys ôl-fflachiau, pyliau o banig, problemau cysgu, ymdeimlad o ddatgysylltiad, gorgynnwrf, galar, hunan-barch isel, hunan-niweidio, teimladau hunanladdol, a chamddefnyddio alcohol neu sylweddau.
The below information provides guidance on coping with symptoms of trauma in the short-term, however Mind also provide further support on helping yourself in the longer-term.
Ymdopi â Thrawma
- Dywedwch wrth eich hun eich bod yn ddiogel
- Dywedwch wrth eich hun eich bod yn cael ôl-fflach, gan gydnabod a derbyn yr ôl-fflach.
- Arhoswch yn y presennol; gan ddal neu gyffwrdd â gwrthrych sy'n eich atgoffa chi o'r presennol
- Atgoffwch eich hun fod y gwaethaf drosodd
- Canolbwyntiwch ar reoli eich anadlu
- Ewch ati i gydnabod eich bod yn cael pwl o banig
- Canolbwyntiwch ar eich synhwyrau: er enghraifft, ewch ati i flasu gwm cnoi blas mintys neu roi cwtsh i rywbeth meddal neu gyffwrdd ag ef.
- Rhowch gynnig ar ddychmygu; gan greu golygfeydd mewnol ac amgylcheddau sy'n eich helpu i deimlo'n ddiogel
- Rhowch gynnig ar ymarferion ymdawelu: gwrandewch ar y synau o'ch amgylch, ewch ati i arogli rhywbeth sydd ag arogl cryf, neu gerdded yn droednoeth
- Meddyliwch am strategaethau ymarferol megis gwisgo oriawr â'r dyddiad a'r amser, cadw dyddiadur neu ysgrifennu nodiadau i chi eich hun, a chysylltu ag eraill o'ch amgylch.
- Canolbwyntiwch ar anadlu'n ddwfn
- Ewch am dro a chael awyr iach
- Ewch i gael bath neu gawod gynnes i'ch helpu i bwyllo a rhoi teimlad corfforol ichi a fydd yn tynnu eich sylw
- Gwrandewch ar gân neu ddarn o gerddoriaeth sy'n gwneud ichi deimlo'n hapus
- Ysgrifennwch eich teimladau negyddol ar ddarn o bapur ac yna rhwygwch y papur
- Canolbwyntiwch ar rywbeth arall er mwyn osgoi gorfeddwl: ceisiwch wylio eich hoff raglen deledu, darllen llyfr, cwblhau pos neu dreulio amser gydag eraill
- Oedwch cyn hunan-niweidio; gan aros o leiaf 10 munud cyn gweithredu ar y teimladau hyn
- Dewch o hyd i strategaethau tynnu sylw sy'n gweithio ar eich cyfer chi, megis ymarfer corff, gweiddi neu ddawnsio, taro rhywbeth meddal, rhwygo rhywbeth yn ddarnau bach
- Ceisiwch siarad â rhywun rydych chi'n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo a dywedwch wrtho sut rydych yn teimlo
Profedigaeth
Profedigaeth yw'r profiad o golli rhywun sy'n agos atom, sy'n nodweddiadol o alar, ac sy'n cyfeirio at y broses a'r emosiynau rydym yn eu profi fel ffordd o ddelio â'r golled honno ac addasu iddi.
Mae colli rhywun sy'n bwysig inni yn brofiad ingol ac emosiynol, a gall profedigaeth, galar a cholled achosi nifer o symptomau gwahanol a chael effaith ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Nid oes dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo. Er bod galar fel arfer yn cael ei gysylltu â cholli rhywun agos atom, gellir teimlo galar hefyd o ganlyniad i fathau eraill o golled neu newidiadau, megis:
- Priodas neu berthynas yn dod i ben
- Iechyd corfforol neu feddyliol rhywun sy'n agos atom yn dirywio
- Colli swydd
- Colli cartref neu symud i leoliad newydd
Nid oes terfyn amser yn perthyn i alar, ac mae hyn yn amrywio'n helaeth yn dibynnu ar yr unigolyn a'r amgylchiadau. Mae'r amser a dreulir yn galaru yn debygol o gael ei effeithio gan ffactorau megis math a chryder y berthynas, y sefyllfa o ran y golled, a'r amser a dreuliwyd yn disgwyl y farwolaeth.
Symptomau
Rhai o symptomau mwyaf cyffredin profedigaeth, galar a cholled yw:
- Teimlo'n ddideimlad neu mewn sioc
- Tristwch llethol, teimlo'n emosiynol iawn a llefain llawer
- Blinder neu wedi blino'n llwyr
- Dicter
- Euogrwydd
Gall y teimladau hyn fynd a dod ac ymddangos yn annisgwyl, ac nid yw ceisio adnabod y rhesymau pam rydych yn ymddwyn neu'n teimlo'r ffordd hwn bob amser yn rhwydd.
Delio â Phrofedigaeth, Galar a Cholled
Mae nifer o ffyrdd o ddelio â phrofedigaeth, galar a cholled ac mae'r rhain yn debygol o fod yn wahanol i bobl gwahanol. Dyma rai o'r pethau a allai helpu:
- Ceisiwch siarad am y ffordd rydych yn teimlo â ffrind, aelod o'r teulu, cwnselydd, meddyg teulu neu sefydliad cymorth.
- Defnyddiwch eich amser a'ch egni i'ch helpu i deimlo'n well.
- Atgoffwch eich hun nad ydych ar eich ben eich hun a bod yr hyn rydych yn ei deimlo'n hollol normal
- Rhowch gynnig ar ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrio neu ymlacio
- Ceisiwch wneud newidiadau bach syml i'ch ffordd o fyw sy'n iach ac yn gadarnhaol ac a fydd o bosib yn eich helpu i deimlo mwy mewn rheolaeth ac yn gallu ymdopi
Gweler ein tudalen Adnoddau Allanol a Chymorth i weld ble y gallwch gael rhagor o gymorth i ddelio â thrawma neu brofedigaeth.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2025
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2024
- Rhagfyr 2024
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant