Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Diweddarwyd y dudalen: 11/06/2024
Nod Tîm Iechyd a Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin yw;
- Eich annog a'ch cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol i'ch ffordd o fyw a chymryd cyfrifoldeb dros eich iechyd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, digwyddiadau a gweithgareddau;
- Dylanwadu ar y gwaith o wella amgylchedd a diwylliant yr awdurdod er mwyn lleihau unrhyw rwystrau i alluogi'r gwelliant hwn; a
- Chyfrannu at bolisïau, prosesau a gweithgareddau ehangach sy'n cael dylanwad ar lesiant cyffredinol staff
Mae llesiant yn fwy na dim ond ffyrdd iach o fyw, mae eich perthnasoedd, eich gallu i ddatblygu a thyfu, pa mor gyfforddus ydych chi wrth fynegi eich diwylliant a'ch iaith, p'un a ydych yn cael eich trin yn deg, eich cydnerthedd, i ba raddau yr ydych yn teimlo'n rhan o rywbeth a'ch sefydlogrwydd ariannol yn effeithio ar eich llesiant.
Felly, cyfrifoldeb yr awdurdod cyfan yw cynnal, gwella, cefnogi ac ystyried iechyd a llesiant ein hunain, ein timau a hyd yn oed y gymuned ehangach ym mhopeth a wnawn.
Mae'r nodau isod wedi'u haddasu o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Mae’r amcanion cyffredinol fel a ganlyn:
Unigol
- I'ch cynorthwyo i wella eich iechyd a'ch llesiant drwy addysg, gweithgareddau ac anogaeth
Yr Amgylchedd
- Gwella'r amgylchedd gwaith ac felly galluogi gwelliannau i iechyd a llesiant staff
Diwylliant
- Gwella diwylliant y sefydliad gyda golwg ar iechyd a llesiant
Fel rhan o'n hymyriadau wedi'u targedu rydym wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu cynlluniau gweithredu gydag Adrannau, Gwasanaethau ac Ysgolion penodol, sydd wedi'u nodi fel blaenoriaethau ac y cytunwyd arnynt drwy'r Timau Rheoli Adrannol perthnasol. Mae blaenoriaethau yn cael eu pennu drwy ddadansoddi data, arolygon staff ac adborth adrannol a risgiau.
Dogfennau byw yw'r rhain sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd ac maent yn rhoi gwybodaeth am yr ymyriadau arfaethedig, yr amserlen a'r manylion ynghylch sut y caiff y canlyniadau eu monitro. Mae'r pwynt olaf hwn yn allweddol i ni geisio nodi'r hyn sy'n gweithio, a'r hyn nad yw'n gweithio, fel ein bod yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r ymyriadau mwyaf effeithiol.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2024
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2023
- Rhagfyr 2023
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant