Cymorth a Chefnogaeth

Diweddarwyd y dudalen: 28/10/2024

Os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch, siaradwch â'ch rheolwr, eich meddyg teulu neu rywun rydych yn teimlo'n gyffyrddus â nhw. Gall atgyfeiriad at ein Gwasanaeth Cymorth Llesiant fod o fudd i chi. Yn ogystal â'r wybodaeth a'r canllawiau sydd ar gael i chi yn fewnol, mae llawer o asiantaethau a sefydliadau cymorth allanol defnyddiol y byddem yn argymell i chi eu defnyddio pe bai angen cymorth pellach arnoch.  

Gweler isod nifer o ddolenni cyflym a fydd yn mynd â chi'n syth at yr asiantaethau cymorth sydd eu hangen arnoch. Fodd bynnag, rydym bob amser yn pwysleisio, os ydych chi'n teimlo ar unrhyw adeg bod eich iechyd meddwl yn dirywio, cysylltwch â'ch meddyg teulu, y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau arferol, neu ewch i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys mewn argyfwng iechyd meddwl. 

Iechyd a Llesiant