Cadw'r Meddwl Yn Weithgar
Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020
Mae cadw eich meddwl yn weithgar yn hanfodol bwysig er mwyn cynnal iechyd a llesiant da yn gyffredinol. Mae dysgu parhaus drwy fywyd yn gwella hunan-barch ac yn annog rhyngweithio cymdeithasol a bywyd mwy egnïol. Mae'r ymarfer o osod nodau, sy'n gysylltiedig â dysgu oedolion, wedi cael ei chysylltu'n gryf â lefelau llesiant uwch.
Er bod llawer ohonom yn byw bywydau prysur, mae'n bwysig ceisio neilltuo amser i'ch hunan i ganolbwyntio ar gadw eich meddwl yn iach ac yn weithgar. Ceisiwch ddiffodd dyfeisiau electronig bob hyn a hyn ac yna cael hoe o'r teledu neu'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig i chi ymlacio a pheidio â meddwl am unrhyw bryderon neu bwysau yn eich bywyd a chanolbwyntio ar y foment bresennol.
Mae nifer o weithgareddau y gallech eu gwneud i gadw eich meddwl yn weithgar ac i'ch helpu i ymlacio. Beth am roi cynnig ar y canlynol:
- Dysgu/ailddysgu sut i chwarae offeryn. Chwiliwch am ddosbarth neu diwtor lleol neu rhowch gynnig ar gwrs ar-lein os byddai'n well gennych.
- Gwneud jig-so neu liwio. Gwnewch y jig-so rydych wedi bod yn bwriadu ei wneud, ewch ati i gwblhau posau sudoku, rhowch gynnig ar groesair neu prynwch lyfr lliwio i'ch hun.
- Chwarae gemau gyda'ch teulu neu'ch ffrindiau. Mae gwyddbwyll, gemau cardiau, Pictionary, hyd yn oed Monopoly neu Cluedo yn rhoi her feddyliol.
- Rhoi cynnig ar grefft newydd. Er enghraifft gwau, paentio, lluniadu neu DIY.
- Cofrestru ar gyfer cwrs. Mae digon o ddewis gan gynnwys gweminarau, cyrsiau byr, dosbarthiadau dysgu iaith a choginio gyda'r nos a HND ar-lein.
- Dysgu am natur. Tra byddwch allan yn cerdded neu'n loncian, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i fynd heibio i wrychoedd, caeau a choetiroedd neu efallai fod gennych natur yn eich gardd. Mae gan Sir Gaerfyrddin lawer o leoliadau gwych i ddysgu am y planhigion cyffredin, y gloÿnnod byw a'r adar o'n cwmpas.
- Darllen neu wrando ar gylchgrawn neu lyfr. Mae gan lyfrgell Caerfyrddin lawer o ddeunyddiau gan gynnwys cylchgronau a llyfrau, y gall aelodau o'r llyfrgell eu defnyddio am ddim.
- Gwrando ar gerddoriaeth. Ewch ati i ailddarganfod eich hoff albymau neu ddarganfod cerddoriaeth newydd a neilltuwch amser bob dydd i fwynhau hyn mewn llonydd.
Efallai y byddwch hefyd am ddal i fyny ag unrhyw adnoddau e-ddysgu nad ydych chi wedi eu cwblhau eto neu ddysgu sgiliau newydd. Edrychwch ar y tudalennau Dysgu a Datblygu i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael.
Gall cael meddwl iach a gweithgar hefyd helpu pan fyddwn yn delio â sefyllfa neu ddigwyddiad anodd neu heriol yn ein bywydau. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar ein tudalen Cadernid Personol am sut y gallwn ddod yn fwy cydnerth a defnyddio ein meddyliau i'n helpu drwy gyfnodau anodd.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2025
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2024
- Rhagfyr 2024
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant