Asesiad Straen Unigol (ASU)
Diweddarwyd y dudalen: 18/04/2024
Mae'r Asesiad Straen Unigol yn cael ei ddefnyddio i adnabod sbardunau straen a helpu i gefnogi gweithwyr yn y gweithle.
Dyma offeryn rhagweithiol y gellid ei ddefnyddio fel:
- Rhan o oruchwyliaeth
- Rhan o sesiynau arfarnu
- Rhan o gyfarfodydd wyneb yn wyneb
Dyma'r amserau eraill y gellir ei ddefnyddio:
- lle bo mater yn peri pryder (e.e. absenoldeb salwch, neu os oes arwyddion amlwg o straen)
- yn ystod cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith a/neu gyfarfodydd cefnogi gweithwyr
- lle bo newid mawr yn yr adran/maes gwaith/tîm
Mae'r asesiad straen yn ymdrin â 6 maes allweddol yn seiliedig ar Safonau Rheoli yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch straen sy'n gysylltiedig â gwaith y nodir eu bod yn bwysig, a hynny er mwyn creu amgylchedd gwaith da ar gyfer yr holl weithwyr. Amlinellir y chwe maes hyn isod:
- Ydyn ni'n rhoi gofynion digonol a chyraeddadwy i chi mewn perthynas â'r oriau gwaith y cytunwyd arnynt?;
- Ydy eich sgiliau a'ch galluoedd yn cyfateb â gofynion y swydd?;
- Mae swyddi'n cael eu llunio yn unol â'ch galluoedd; a
- Rhoddir sylw i unrhyw bryderon ynghylch eich amgylchedd gwaith.
- Rydym yn darparu gwybodaeth amserol ar gyfer gweithwyr er mwyn eu galluogi i ddeall y rhesymau dros y newidiadau arfaethedig;
- Rydym yn sicrhau yr ymgynghorir digon â chi ynghylch newidiadau ac yn darparu cyfleoedd i chi ddylanwadu ar gynigion;
- Rydych yn ymwybodol o effaith debygol unrhyw newidiadau i'ch swydd. Os oes angen, rydych yn cael hyfforddiant er mwyn cefnogi unrhyw newidiadau yn eich swydd;
- Rydych yn ymwybodol o'r amserlen ar gyfer newidiadau;
- Mae gennych fynediad at gymorth perthnasol yn ystod y newidiadau.
- Rydym yn sicrhau, cyn belled â phosibl, fod y gwahanol ofynion rydym yn eu rhoi arnoch yn addas;
- Rydym yn rhoi gwybodaeth i'ch galluogi i ddeall eich rôl a'ch cyfrifoldebau;
- Rydym yn sicrhau, cyn belled â phosibl, fod y gofynion rydym yn eu rhoi arnoch yn glir a bod systemau ar waith i'ch galluogi i godi pryderon am unrhyw ansicrwydd neu wrthdaro sydd gennych o ran eich rolau a'ch cyfrifoldebau.
- Rydym yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn y gwaith er mwyn osgoi gwrthdaro a sicrhau tegwch;
- Rydych yn rhannu gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch gwaith
- Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i atal ymddygiad annerbyniol neu ei ddatrys;
- Mae systemau ar waith i alluogi ac annog rheolwyr i fynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol
- Mae systemau ar waith i'ch galluogi a'ch annog chi i roi gwybod am ymddygiad annerbyniol.
- Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau i roi cymorth priodol ichi;
- Mae systemau ar waith i alluogi ac annog rheolwyr i gefnogi eu staff;
- Mae systemau ar waith i alluogi ac annog gweithwyr i gefnogi eu cydweithwyr;
- Rydych yn gwybod pa gymorth sydd ar gael a sut a phryd i gael gafael arno;
- Rydych yn gwybod sut i ddefnyddio'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni eich swydd; ac
- Rydych yn cael adborth rheolaidd ac adeiladol.
- Lle bo'n bosibl, oes gennych reolaeth dros gyflymder eich gwaith?;
- Ydych chi'n cael eich annog i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch hunangymhelliant i wneud eich gwaith?;
- Lle bo'n bosibl, ydych chi'n cael eich annog i ddatblygu sgiliau newydd i'ch helpu i gyflawni darnau newydd a heriol o waith?;
- Rydym yn eich annog i ddatblygu eich sgiliau;
- Gallwch ddewis pryd rydych yn cael egwylion; ac
- Ymgynghorir â chi ynghylch eich patrymau gwaith.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2024
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2023
- Rhagfyr 2023
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant