Her Camau 2024
Diweddarwyd y dudalen: 05/06/2024
I dathlu mis cerdded rydym wedi penderfynnu gwneud her camau.
Bydd yr her yn cael ei chynnal eleni rhwng dydd Llun 13 Mai am 12:00am a dydd Llun 26 Mai am 23:59.
Gallwch gymryd rhan fel unigolyn neu fel grŵp. Ni ddylai grwpiau gynnwys mwy na 10 o bobl.
Bob wythnos bydd y daenlen Excel yn cyfrif cyfartaledd eich camau (gwneir hyn ar gyfer unigolion a grwpiau). Gallwch lawrlwytho'r daflen yma.
Ar ddiwedd y bythefnos, mae yna opsiwn o gyflwyno'ch camau ar gyfartaledd ar Microsoft Forms. Os hoffech gyflwyno eich camau, gallwn weld pa unigolyn neu dîm wnaeth y camau mwyaf a bydd enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin. Mae'r ffurflen ar gael yma. Bydd gennych bythefnos ar ôl i'r her orffen i gyflwyno eich camau.
Fodd bynnag, nid yw cyflwyno eich camau yn orfodol ac os hoffech chi lawrlwytho'r ffurflenni Excel a chadw golwg ar eich camau eich hun at eich defnydd personol, mae hynny hefyd yn opsiwn.
Ni fydd y sianel arferol ar Teams yn cael ei defnyddio. Os nad yw'r Cwestiynau Cyffredin yn ateb eich cwestiynau, gallwch anfon e-bost atom iechydallesiant@sirgar.gov.uk.
Cwestiynau Cyffredin
Yn syml, rydych chi'n lawrlwytho'r daenlen Excel. Os ydych chi'n cymryd rhan fel grŵp, gallai fod yn ddefnyddiol dewis un person i lenwi'r ddogfen a chasglu camau pawb. Nodwch y camau a bydd y ddogfen Excel yn cyfrif y sgôr gyfartalog.
1. Os ydych yn cofrestru fel grŵp, dylai eich grŵp o unigolion fod yn barod cyn 15 Mai. Cofiwch greu sgwrs grŵp er mwyn i chi allu cadw mewn cysylltiad â phobl a chreu enw grŵp hwyl! Gallwch hefyd gymryd rhan fel unigolyn.
2. Lawrlwythwch y dogfennau perthnasol o'r fewnrwyd a'u cadw.
3. Dewiswch un person o'ch grŵp i lenwi'r ddogfen Excel bob wythnos neu os ydych yn unigolyn, llenwch y ffurflen eich hun.
4. Dechreuwch yr her!
5. Ar ddiwedd yr her, os hoffech gyflwyno eich canlyniadau i'r tîm Iechyd a Llesiant a gweld pa mor dda wnaethoch chi, gallwch lenwi'r ffurflen fer hon. Ar ddiwedd mis Mai, bydd y rhai a gyflwynodd eu canlyniadau yn gweld a wnaethon nhw'r nifer uchaf o gamau mewn pythefnos.
6. Nid yw cyflwyno eich canlyniadau yn orfodol a gallwch hefyd ddefnyddio'r ddogfen Excel ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
Gallwch gofrestru fel unigolyn. Mae'r broses yr un fath.
10 yw'r nifer fwyaf o bobl sy'n gallu cofrestru fel grŵp.
Iechyd a Llesiant
Cwrdd â'r Tîm
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant
- Gwybodaeth i Ymgeiswyr
- Gwybodaeth i Reolwyr
- Cwestiynau Cyffredin
- Eich Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw
Cyngor Ariannol
Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
- Straen
- Asesiad Straen Unigol (ASU)
- Iechyd Meddwl
- Osgoi Gorflinder
- Cadernid Personol
- Delio a Thrawma a Phrofedigaeth
- Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu
- Adnoddau a Chymorth
Poen Cefn a Phoen yn y Cymalau
Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol
Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu
Calendr Hunanofal
- Ionawr 2025
- Chwefror 2024
- Mawrth 2024
- Ebrill 2024
- Mai 2024
- Mehefin 2024
- Gorffennaf 2023
- Awst 2024
- Medi 2024
- Hydref 2023
- Tachwedd 2024
- Rhagfyr 2024
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Cymorth a Chefnogaeth
- Iechyd Meddwl
- GIG
- Cam-drin Domestig
- Treisio ac ymosodiad rhywiol
- Cam-drin Sylweddau
- Canser
- Profedigaeth
- Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hunangymorth
Niwroamrywiaeth
- Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio
- Dyspracsia
- Awtistiaeth
- Dyslecsia
- Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth
LHDTRCA+
Mwy ynghylch Iechyd a Llesiant