Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Diweddarwyd y dudalen: 16/07/2024
Bydd yr adran hon rhoi atebion cyflym i chi i'r rhan fwyaf o ymholiadau ynghylch y polisi Absenoldeb Salwch. Rydym yn argymell eich bod hefyd yn darllen y canllawiau Absenoldeb Salwch sy'n esbonio'r polisi yn llawn. Rydym hefyd wedi creu adran Cwestiynau Cyffredin yn benodol ar gyfer rheolwyr.
Mae'r polisi yn berthnasol i bob gweithiwr ac eithrio staff ysgolion a reolir yn lleol, yn eu hachos hwy bydd y polisi y mae eu hysgolion priodol wedi'i fabwysiadu yn berthnasol.
Dylai gweithwyr gysylltu â'u rheolwr llinell dros y ffôn yn bersonol ar y diwrnod cyntaf o absenoldeb, fel arfer ychydig cyn y diwrnod gwaith arferol neu ar ei ddechrau. Mae angen rhoi gwybod cyn gynted â phosibl gan ddarparu manylion y rheswm dros absenoldeb a'r hyd tebygol.
Dylid defnyddio negeseuon testun a ffurfiau eraill o gyfathrebu mewn achosion brys yn unig ac mae'n rhaid eu dilyn â galwad ffôn cyn gynted â phosibl.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod yn gyson i'r rheolwr am eich iechyd a'ch absenoldeb salwch er mwyn sicrhau y darperir y cymorth priodol i hwyluso a chynllunio eich dychwelyd i'r gwaith. Hefyd efallai y bydd angen rhoi trefniadau ar waith i rywun arall gyflawni’ch gwaith. Byddwch chi a'ch rheolwr yn cytuno ar ddull a rheoleidd-dra cyfathrebu yn y dyfodol yn ystod y sgyrsiau ffôn cychwynnol a dilynol.
Mae angen i weithwyr ddarparu copi o'r ‘Nodyn Ffitrwydd’ (Datganiad Ffitrwydd i Weithio) oddi wrth eu Meddyg Teulu neu Ysbyty o'r 8fed diwrnod calendr o'u habsenoldeb ac mae'n rhaid sicrhau bod eu nodiadau'n cael eu darparu yn amserol ac yn rheolaidd.
Nac ydych, mae angen i weithiwr ddarparu copi yn unig o'r dystysgrif ffitrwydd oherwydd efallai y bydd angen y gwreiddiol i wneud hawliadau am daliadau budd-dal.
YGallwch fynd yn ôl i'r gwaith ar unrhyw adeg, gan gynnwys cyn diwedd y nodyn ffitrwydd, heb fynd yn ôl i weld eich doctor – hyd yn oed os yw'r doctor wedi dynodi bod angen iddo eich asesu eto. Trafodwch â'ch rheolwr, efallai y bydd angen cynnal asesiad risg addas.
Nac oes, nid oes angen i chi gael eich llofnodi'n ôl i'r gwaith. Nid oes unrhyw opsiwn ar y 'nodyn ffitrwydd' i ganiatáu i'ch meddyg teulu wneud hyn.
Bydd eich rheolwr llinell yn cynnal Cyfweliad Dychwelyd i'r Gwaith ar ôl i chi ddychwelyd o'ch absenoldeb salwch. Dyma gyfle i gael trafodaethau, mewn perthynas â'ch iechyd a lles, rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau ynglŷn â'r gwaith ac unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd a gwneud yn siŵr eich bod yn ddigon da i ddychwelyd.
Mae'r polisi absenoldeb salwch yn ei wneud yn ofynnol i bawb fynychu cyfweliad dychwelyd i'r gwaith. Os yw'r rheswm dros eich absenoldeb salwch yn un meddygol personol, ac mae rhyw eich rheolwr llinell yn wahanol i'ch rhyw chi, efallai y bydd yn bosibl i chi gael y cyfweliad â rhywun o'r un rhyw yn eich adran.
Trafodaeth anffurfiol yw'r cyfarfod i sicrhau eich bod yn ffit i ddychwelyd i'r gwaith a phennu a oes angen gwneud unrhyw addasiadau dros dro, neu fwy parhaol, i'ch "swydd". Mae cael rhywun gyda chi yn y cyfarfod yn awgrymu eich bod eisiau i'r drafodaeth fod yn fwy ffurfiol ac nid hynny mo bwriad y drafodaeth.
Mae unrhyw absenoldeb o ddiwrnod neu fwy angen cyfarfod dychwelyd i'r gwaith.
Bydd gofyn i chi fynychu ‘Cyfarfod Cefnogi Gweithiwr' os ydych wedi cael:
- 3 achlysur o absenoldeb mewn cyfnod 12 mis treigl.
- Absenoldeb 10 diwrnod neu gyfwerth â phythefnos (4 diwrnod i rywun sy'n gweithio wythnos 2 ddiwrnod)
- Os yw cofnod absenoldeb yn dechrau ffurfio patrwm annerbyniol e.e. absenoldebau sy'n ffinio gwyliau
- mae'r absenoldeb salwch yn symud tuag at drothwy ffurfiol pellach
Bydd gofyn i chi fynychu ‘Cyfarfod Cefnogi Gweithiwr' i drafod eich presenoldeb. Bwriad y cyfarfod yw rhoi cefnogaeth ychwanegol i weithwyr yn gynnar a darparu cyfle i reolwyr a gweithwyr drafod ac archwilio eu pryderon.
Os bydd gweithiwr yn cael mwy o absenoldebau salwch ac yn cyrraedd trothwy ffurfiol byddant yn cael gwahoddiad i fynychu'r ‘Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 1af.’ Y trothwyon ffurfiol yw:
- 4 achlysur o absenoldeb salwch mewn cyfnod 12 mis treigl;
- Yr hyn sy'n cyfateb i absenoldeb 3 wythnos waith arferol, yn barhaus neu fel arall, mewn cyfnod 12 mis treigl;
- Neu unrhyw batrwm annerbyniol arall o absenoldeb e.e. achlysuron aml o absenoldeb sy'n ffinio gwyliau blynyddol neu wyliau banc.
Unwaith y cyrhaeddir y trothwy ffurfiol cynhelir y Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 1af a bydd absenoldeb y gweithiwr yn cael ei adolygu fel proses barhaus. Ar ôl cyfnod adolygu, os bydd absenoldeb salwch y gweithiwr yn methu â gwella yna bydd y gweithiwr yn cael gwahoddiad i fynychu Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 2il Gam. Yn dilyn y cyfarfod hwn a chyfnod adolygu y cytunwyd arno, os bydd absenoldeb salwch y gweithiwr yn methu â gwella cynhelir y 3ydd Cyfarfod Rheoli Absenoldeb. Yn y 3ydd Cyfarfod Rheoli Absenoldeb, efallai yr ystyrir diswyddo ar gymhwysedd iechyd.
Os gofynnir i chi fynychu Cyfarfod Rheoli Absenoldeb, mae gennych yr hawl i gael cynrychiolydd undeb llafur gyda chi neu gydweithiwr.
Dyluniwyd dychwelyd yn raddol i hwyluso dychwelyd i'r gwaith ac fel arfer mae wedi'i seilio ar gyngor meddygol. Fel arfer bydd dychwelyd yn raddol yn digwydd dros gyfnod un i bedair wythnos ac fel arfer ni fydd yn effeithio ar eich cyflog.
Bydd y Polisi Absenoldeb oherwydd Salwch a'r broses yn cael eu dilyn. Os ydych yn absennol am gyfnod o waith ac nid oes unrhyw brognosis o ddychwelyd i'r gwaith yna mae'n bosibl ni fyddwch yn gallu cyflawni eich rôl oherwydd iechyd gwael ac efallai y cewch eich diswyddo oherwydd cymhwysedd iechyd gwael.
Os yw'ch cofnod absenoldeb yn golygu eich bod yn cyrraedd y pwyntiau trothwy yn y polisi yn barhaus, gallech gael eich diswyddo o ganlyniad i broses deg yn unol â phroses y Polisi Absenoldeb oherwydd Salwch.
Os rhowch wybod i'ch rheolwr eich bod yn sâl ac yn darparu 'nodyn ffitrwydd' oddi wrth eich meddyg teulu sy'n cadarnhau eich salwch yn ystod cyfnod o wyliau, efallai y bydd eich gwyliau blynyddol yn cael ei ad-dalu.
Mae gweithwyr yn parhau i gronni gwyliau fel arfer yn ystod cyfnodau o absenoldeb salwch â chyflog. Fodd bynnag, ar ôl cyfnod o 4 wythnos o absenoldeb parhaus, mae gwyliau'n cael eu cronni ar gyfradd 28 diwrnod y flwyddyn gan gynnwys gwyliau banc.
Bydd, mae'r polisi yn darparu ar gyfer y cam gweithredu hwn cyn belled ag y dilynir y weithdrefn y manylwyd arni yn y polisi. Efallai y bydd Tâl Salwch Galwedigaethol a Thâl Salwch Statudol yn cael eu stopio os na ddilynir y gweithdrefnau.
Pan na fydd yn ymarferol i chi gyfarfod â'ch rheolwr oherwydd anawsterau â lleoliad, efallai y gellir cael sgwrs dros y ffôn yn lle, yn ddelfrydol ar y diwrnod cyntaf ar ôl dychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag, efallai y bydd achlysuron lle nad yw'n bosibl cael trafodaeth ar y diwrnod cyntaf ar ôl dychwelyd.
Yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch bydd eich buddion LGPS yn parhau i gronni fel petaech yn gweithio'n arferol ac yn derbyn cyflog llawn. Byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau LGPS sylfaenol ar unrhyw gyflog y byddwch yn ei dderbyn pan fyddwch i ffwrdd oherwydd salwch. Os ydych ar absenoldeb salwch heb gyflog, ni fyddwch yn talu unrhyw gyfraniadau.
Mae absenoldeb salwch yn bensiynadwy, cyn belled â bod yr aelod yn derbyn hanner cyflog o leiaf. Pan fydd aelod yn derbyn llai na hanner cyflog (e.e. dim cyflog) yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch, ni fydd yn talu cyfraniadau na'n cronni buddion pensiwn. Mae'r cyfnod salwch heb gyflog yn cael ei gofnodi fel dyddiau 'wedi'u heithrio' at ddibenion pensiwn athrawon.
Nid yw straen sy'n gysylltiedig â gwaith a salwch sy'n gysylltiedig â straen yn adroddadwy o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995 (RIDDOR). Mae gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn esbonio:
Mae hyn oherwydd bod achosion iechyd gwael sy'n gysylltiedig â straen fel arfer yn gymhleth iawn a byddai'n anodd iawn cysylltu cyflyrau â mathau penodol o weithgarwch gwaith. Nid yw hyn yn golygu na ellir codi straen â'r awdurdodau gorfodi nac yn golygu na ellir gwneud cwyn a allai arwain at ymchwiliad. Er nad yw straen sy'n gysylltiedig â'r gwaith yn adroddadwy, mae gan gyflogwyr ddyletswyddau i asesu a rheoli risg iechyd gwael sy'n gysylltiedig â straen sy'n deillio o weithgareddau gwaith.
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Cyfieithiad o 'Stress –Frequently Asked Questions'.(Cyrchwyd 12 Mehefin 2015).
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol