Tâl Salwch Galwedigaethol
Diweddarwyd y dudalen: 01/06/2023
Y ddau fath o dâl salwch sy'n berthnasol i staff yw Tâl Salwch Galwedigaethol a Thâl Salwch Statudol. Cyfrifir yr hawl i amser i ffwrdd a thâl salwch ar sail pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Efallai y bydd methiant i ddilyn gweithdrefnau hysbysu ac ardystio yn arwain at derfynu Tâl Salwch Galwedigaethol a Thâl Salwch Statudol.
Staff Nad Ydynt yn Addysgu - OSP
Caiff y taliad hwn ei wneud o dan delerau eich contract a'ch amodau gwasanaeth. Mae OSP yn ystyried nifer y dyddiau o absenoldeb salwch a gymerwyd yn ystod y cyfnod 12 mis blaenorol ac yn cael ei bennu gan hyd gwasanaeth ar ddiwrnod cyntaf cyfnod o absenoldeb salwch. Felly mae'r hawl yn ystod absenoldeb penodol yn cael ei bennu trwy dynnu pob absenoldeb salwch sydd wedi digwydd yn y 12 mis blaenorol o'r hawl lawn, e.e., os bydd salwch yn dechrau ar 6ed Gorffennaf yna edrychwch yn ôl i'r 7fed Gorffennaf blaenorol
Hyd Gwasanaeth Graddfa Lwfans
Yn ystod blwyddyn 1af o wasanaeth 1 mis o gyflog llawn ac (ar ôl 4 mis calendr o wasanaeth) 2 fis o hanner cyflog
Yn ystod 2il flwyddyn o wasanaeth 2 fis o gyflog llawn a 2 fis o hanner cyflog
Yn ystod 3edd blwyddyn o wasanaeth 4 mis o gyflog llawn a 4 mis o hanner cyflog
Yn ystod 4edd a 5ed blwyddyn o wasanaeth 5 mis o gyflog llawn a 5 mis o hanner cyflog
Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth 6 mis o gyflog llawn a 6 mis o hanner cyflog
Staff addysgu – OSP
Manylir ar hawl athro i gyflog ar absenoldeb salwch yn y Llyfr Bwrgwyn.
Mae hawl i dâl salwch yn dibynnu ar wasanaeth parhaus ag un neu fwy o Awdurdodau Addysg Lleol. Mae'r flwyddyn hawl yn rhedeg o 1af Ebrill i 31ain Mawrth a bydd hawl newydd yn dechrau bob blwyddyn ar 1af Ebrill. Pan mae athro ar absenoldeb salwch ar 31ain Mawrth mewn unrhyw flwyddyn, ni fydd unrhyw hawliau newydd yn dechrau nes i'r athro ailafael yn ei ddyletswydd ac ystyrir y cyfnod o 1af Ebrill hyd nes y dychwelyd i ddyletswydd fel rhan o hawl y flwyddyn flaenorol. Defnyddir dyddiau gwaith yn unig at ddibenion cyfrifo.
Pan fydd athro yn symud i gyflogwr arall, bydd unrhyw dâl salwch a dalwyd yn ystod y flwyddyn gyfredol gan y cyflogwr blaenorol yn cael ei ystyried wrth gyfrifo'r swm a hyd o dâl salwch sy'n daladwy gan y cyflogwr newydd.
Hyd Gwasanaeth Graddfa lwfans
Yn ystod blwyddyn 1af gwasanaeth Cyflog llawn am 25 diwrnod gwaith ac ar ôl cwblhau pedwar mis calendr o wasanaeth, hanner cyflog am 50 diwrnod gwaith.
Yn ystod 2il flwyddyn o wasanaeth Cyflog llawn am 50 diwrnod gwaith ac yna hanner cyflog am 50 diwrnod gwaith
Yn ystod 3edd blwyddyn o wasanaeth Cyflog llawn am 75 diwrnod gwaith ac yna hanner cyflog am 75 diwrnod gwaith
Yn ystod y 4edd blwyddyn a blynyddoedd dilynol Cyflog llawn am 100 diwrnod gwaith ac yna hanner cyflog am 100 diwrnod gwaith
Mae SSP yn daladwy os ydych yn absennol oherwydd salwch am bedwar diwrnod neu fwy cyn belled â'ch bod yn gymwys a heb eich eithrio ac unrhyw un o'r rhesymau a nodwyd. Mae'n daladwy ar gyfradd o £116.75 (2023/24) yr wythnos ac am uchafswm o 28 wythnos. Pan mae gweithiwr yn derbyn cyflog llawn, bydd SSP yn rhan o'r tâl salwch hwnnw ac yn cael ei wrthbwyso yn erbyn yr OSP – ni fydd unrhyw un yn derbyn mwy na'u cyflog arferol.
Pan fydd gweithwyr yn symud ymlaen i hanner cyflog, telir SSP ar ben yr hanner cyflog nes bydd y cyfnod o absenoldeb salwch yn cyrraedd 28 wythnos. Eto, mae'r taliad hwn yn cael ei wrthbwyso i sicrhau na fydd unrhyw un yn derbyn mwy na'u cyflog llawn arferol.
Bydd y gyflogres yn anfon ffurflen Datganiad Gadadwyr Tâl Salwch Statudol (SSP1) i chi os:
- Rydych wedi'ch eithrio o hawl i SSP
- Rydych wedi derbyn y taliad 28 diwrnod llawn
Ar ôl derbyn yr SSP1 bydd angen i weithwyr gysylltu â Chanolfan Byd Gwaith i bennu unrhyw hawl i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Dâl Salwch Statudol ar gov.uk.
Ceir achosion a allai arwain at yr Awdurdod yn atal tâl salwch galwedigaethol – gwelwch bwynt 8 y Polisi Absenoldeb Salwch. Mae atal Tâl Salwch Galwedigaethol a/neu Dâl Salwch Statudol yn berthnasol i bob aelod o staff.
Bydd y Rheolwr Llinell yn rhoi gwybod i'r gweithiwr yn ysgrifenedig am benderfyniad i atal talu Tâl Salwch Galwedigaethol a/neu Dâl Salwch Statudol. Bydd y llythyr hwn ar wahân i lythyrau'r Cyfarfod Rheoli Absenoldeb ac mae'n rhaid iddo gynnwys yr hawl i ofyn am adolygu'r penderfyniad i atal tâl salwch galwedigaethol.
Er enghraifft, mae'r Polisi Absenoldeb Salwch, adran 8, yn nodi:
‘Ni fydd tâl salwch galwedigaethol yn cael ei wneud os bydd gweithwyr meddygol proffesiynol iechyd galwedigaethol yn cynghori dychwelyd i'r gwaith o fewn amserlen benodol ac nid yw'r gweithiwr yn dychwelyd i'r gwaith heb RESWM DA’.
Staff Corfforaethol
Mae gan y gweithiwr yr hawl i ofyn bod y penderfyniad i atal tâl salwch galwedigaethol/statudol yn cael ei adolygu gan y Cyfarwyddwr neu gynrychiolydd a enwebwyd â chyngor oddi wrth y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu gynrychiolydd a enwebwyd.
Mae'n rhaid i'r cais i adolygu penderfyniad gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) cyn pen 7 diwrnod calendr o ddyddiad derbyn y penderfyniad mewn perthynas ag atal tâl salwch galwedigaethol/statudol, ac mae'n rhaid manylu ar y rhesymau dros y cais am adolygiad. Bydd y Cyfarwyddwr neu gynrychiolydd a enwebwyd â chyngor oddi wrth y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu gynrychiolydd a enwebwyd yn adolygu'r penderfyniad, ac yn cadarnhau'r canlyniad i'r gweithiwr heb ormod o oedi.
Staff a Gyflogir yn Uniongyrchol gan Ysgolion (e.e. Athrawon, Cynorthwywyr Addysgu, Staff Gweinyddol ac ati)
Mae gan y gweithiwr yr hawl i ofyn bod y penderfyniad i atal tâl salwch galwedigaethol/statudol yn cael ei adolygu gan Banel Apelio'r Corff Llywodraethu. Mae'n rhaid i'r cais i adolygu penderfyniad gael ei wneud yn ysgrifenedig i Glerc y Corff Llywodraethu cyn pen 7 diwrnod calendr o ddyddiad derbyn y penderfyniad mewn perthynas ag atal Tâl Salwch Galwedigaethol/Statudol, ac mae'n rhaid manylu ar y rhesymau dros y cais am adolygiad.
Byddwn yn ceisio sicrhau nad yw gordaliadau'n digwydd o ganlyniad i orffen talu Tâl Salwch Galwedigaethol a Thâl Salwch Statudol. Fodd bynnag, os bud gordaliad yn digwydd mae gan yr Adran Gyflogres yr awdurdod i ddidynnu o leiaf 10% o gyflog misol gros y gweithiwr i adennill y gordaliad a bydd hyn yn parhau nes bod y swm llawn wedi'i adennill.
Gall gweithwyr, trwy gysylltu â'r Gyflogres, gytuno i dalu symiau mwy neu setlo'r swm yn llawn.
Bydd y Tîm Absenoldeb yn ysgrifennu at weithwyr o leiaf 28 diwrnod calendr cyn i dâl gael ei leihau i hanner/disbyddedig oherwydd absenoldeb salwch pan fydd hynny'n bosibl.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Rheoli holl heintiau anadlol gan gynnwys Covid
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol