Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon

Diweddarwyd y dudalen: 08/08/2022

Er mwyn gwneud penderfyniad ynglŷn â hawl i bensiwn iechyd gwael mae angen cael tystysgrif oddi wrth Ymarferwr Meddygol Cofrestredig Annibynnol (IRMP) sy'n gymwys mewn Meddygaeth Iechyd Galwedigaethol.

Gall gweithwyr sy'n cael eu diswyddo oherwydd iechyd gwael gael eu cyfeirio i'r (IRMP), i ystyried a ellir dyfarnu eu buddion pensiwn ar unwaith ai peidio.

I fod yn gymwys, mae'n rhaid i weithwyr feddu ar o leiaf 2 flynedd o aelodaeth lawn, neu fod wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS).

Bydd AD yn rhoi gwybod i weithiwr am y broses hon os bydd ei gyflogaeth yn cael ei therfynu oherwydd iechyd gwael. Bydd gofyn iddo roi cysyniad i Iechyd Galwedigaethol ddarparu ei fanylion meddygol i'r IRMP ac, os bydd angen, enw ei feddyg teulu ac Ymgynghorwyr er mwyn casglu tystiolaeth feddygol bellach.

Byddwn yn gwneud y penderfyniad ar ddyfarnu buddion iechyd gwael ar sail y dystysgrif feddygol y mae'r IRMP wedi'i chwblhau. Fodd bynnag, os nad yw'r gweithiwr yn fodlon â'r canlyniad, bydd yn cael gwybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gan ddefnyddio'r Weithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol (IDRP) o dan y rheoliadau LGPS.

Mae canllawiau a gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Cynllun Pensiwn Dyfed.

Adnoddau Dynol