Absenoldeb Tosturiol

Diweddarwyd y dudalen: 06/01/2025

Absenoldeb Tosturiol

Pan fydd bywyd yn cyflwyno heriau annisgwyl, mae absenoldeb tosturiol yn rhoi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar weithwyr i reoli anawsterau personol fel profedigaeth, salwch critigol, neu argyfyngau domestig.

Absenoldeb Profedigaeth

• Mae hyd at 5 diwrnod o absenoldeb (pro rata i weithwyr rhan-amser) ar gael os bydd perthynas achos ichi'n marw, neu'n cael anaf neu salwch critigol.

• Yn achos marwolaeth plentyn, rhiant neu bartner, gellir ymestyn hyn i 10 diwrnod. Mewn amgylchiadau eithriadol mae angen awdurdodiad gan Bennaeth y Gwasanaeth.

Mae perthynas agos yn cynnwys eich priod, partner sifil, partner, rhiant, plentyn, brawd/chwaer, mam-gu/dad-cu.

Ar gyfer marwolaeth perthynas agos arall (e.e., modryb neu ewythr), gellir caniatáu absenoldeb tosturiol i fynd i'r angladd.

Salwch Critigol neu Anaf

Mae absenoldeb tosturiol ar gael i gefnogi aelod agos o'r teulu sy'n wynebu salwch critigol neu anaf. Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn seiliedig ar:

• Natur y digwyddiad.

• Eich cyfrifoldebau gofal a'ch perthynas gyda'r aelod o'r teulu.

• Gofynion teithio.

Anogir rheolwyr i fod yn hyblyg ac i gydymdeimlo â sefyllfaoedd unigol.

Sefyllfaoedd Domestig sy'n Argyfwng

Gellir caniatáu hyd at 1 diwrnod o absenoldeb â thâl i ddelio ag argyfyngau domestig brys, fel:

• Llifogydd

• Tân

• Bwrgleriaeth

Nid yw Hyn yn Cynnwys

Nid yw absenoldeb tosturiol yn berthnasol i ddigwyddiadau domestig a gynlluniwyd fel:

• Gwaith atgyweirio, adnewyddu, neu osodiadau.

• Dosbarthu eitemau i'r cartref.

Os oes angen absenoldeb pellach y tu hwnt i'r 1 diwrnod cymeradwy, gallwch ofyn am wyliau blynyddol drwy'r broses arferol.

Cefnogi Eich Llesiant

Mae absenoldeb tosturiol yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i lesiant gweithwyr. Anogir rheolwyr i ddelio â'r ceisiadau hyn gyda gofal ac empathi, gan sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn ystod cyfnodau anodd.

Ystyriaethau Allweddol i Reolwyr

• Cyfathrebwch mewn lleoliad preifat.

• Cydnabyddwch sefyllfa'r gweithiwr a gwrando'n weithgar.

• Byddwch yn hyblyg drwy wneud addasiadau dros dro i ddyletswyddau neu gynnig i'r gweithiwr ddychwelyd i'r gwaith yn raddol.

Cymorth wrth Ddychwelyd i'r Gwaith

• Cynlluniwch drafodaethau dychwelyd i'r gwaith sensitif.

• Byddwch yn ymwybodol o ddyddiadau arwyddocaol a allai effeithio ar lesiant (e.e., pen-blwyddi).

Sut Mae Gwneud Cais am Absenoldeb Tosturiol

Cysylltwch â'ch rheolwr llinell cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i ofyn am absenoldeb tosturiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod unrhyw gefnogaeth neu hyblygrwydd ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch.

Bydd eich rheolwr yn ystyried eich amgylchiadau gyda chydymdeimlad, gan gynnwys ffactorau fel:

• Eich perthynas â'r aelod agos o'r teulu.

• Gofynion teithio a chyfrifoldebau domestig.

I gael rhagor o fanylion, gweler y polisïau canlynol: polisi-rheoli-straen-ac-iechyd-meddwl-yn-y-gweithle.pdf, polisi-amser-or-gwaith-gorffennaf-2022.pdf

Os oes gennych gwestiynau pellach, cysylltwch â'ch rheolwr llinell neu ewch i'r dudalen Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol ar y Fewnrwyd.

Adnoddau Dynol