Gwyliau blynyddol
Diweddarwyd y dudalen: 20/02/2024
Gwyliau Blynyddol
Mae eich blwyddyn wyliau yn dechrau ar eich pen-blwydd. Mae'r hawl i wyliau blynyddol ar gyfer gweithwyr amser llawn NJC, fel a ganlyn:
Blynyddoedd o Wasanaeth | Gwyliau Blynyddol | Gwyliau Banc | Cyfanswm |
---|---|---|---|
0 - < 5 o flynyddoedd | 27 | 8 | 35 |
5 - < 10 o flynyddoedd | 32 | 8 | 40 |
10+ o flynyddoedd | 35 | 8 | 43 |
Bydd yr hawl i wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) ar sail pro rata os ydych yn gweithio'n rhan amser. Bydd yr hawl i wyliau ychwanegol yn sgil gwasanaeth hir, ar ôl 5 mlynedd a 10 mlynedd o wasanaeth, yn cael ei rhoi ar sail pro rata o ddyddiad cwblhau 5 neu 10 mlynedd o wasanaeth di-dor.
Rhaid cymryd yr holl wyliau yn ystod y flwyddyn wyliau pan maent yn cronni. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir trosglwyddo uchafswm o bum diwrnod o un flwyddyn wyliau i'r flwyddyn nesaf ond rhaid cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Gyfarwyddwr eich adran neu gynrychiolydd enwebedig. Yn yr achos hwn, rhaid i unrhyw wyliau a drosglwyddwyd gael eu cymryd erbyn 3 mis wedi'r dyddiad trosglwyddo.
Rhaid i ddyddiadau'r holl wyliau gael eu cymeradwyo ymlaen llaw gan eich rheolwr llinell, yn unol â gweithdrefnau'r adran ynghylch hysbysu am wyliau. Rhaid rhoi cymaint o rybudd ag y gallwch ynghylch dyddiadau gwyliau arfaethedig er mwyn sicrhau bod digon o staff ar gael i gyflenwi bob amser. Dylai'r cyfnod rhybudd fod o leiaf ddwywaith nifer y diwrnodau o wyliau yr ydych yn dymuno eu cymryd fel gwyliau blynyddol, fodd bynnag, gall gweithdrefnau lleol ofyn eich bod yn rhoi mwy o rybudd er mwyn sicrhau bod modd gwneud trefniadau cyflenwi digonol a pharatoi rotâu.
Tâl yn lle Gwyliau
Ni fydd tâl yn lle unrhyw wyliau nas cymerwyd (ac eithrio pan derfynir cyflogaeth).
Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc
Rydym yn cydnabod wyth gŵyl gyhoeddus/gŵyl banc y flwyddyn, ac mae'r dyddiadau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn (gweler isod).
- Dydd Calan
- Dydd Gwener y Groglith
- Dydd Llun y Pasg
- Gŵyl Banc Calan Mai
- Gŵyl Banc y Gwanwyn
- Gŵyl Banc Awst
- Dydd Nadolig
- Gŵyl San Steffan
Caniateir yr holl wyliau cyhoeddus a gwyliau banc cydnabyddedig fel gwyliau â thâl yn ychwanegol at y gwyliau blynyddol a nodwyd uchod (pro rata os ydych yn gweithio'n rhan amser). Gan ddibynnu ar ble rydych yn gweithio, gall fod yn ofynnol ichi weithio ar wyliau cyhoeddus a gwyliau banc cydnabyddedig. Bydd y tâl am weithio ar y fath ddyddiau a/neu'r trefniadau ar gyfer amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd yn unol â'ch telerau ac amodau cyflogaeth penodol.
Yr Hawl i Wyliau yn ystod y Flwyddyn Cychwyn Cyflogaeth
Os byddwch yn ymuno â ni ran o'r ffordd drwy flwyddyn wyliau, bydd gennych hawl i gyfran o'ch gwyliau yn seiliedig ar gyfnod eich cyflogaeth yn y flwyddyn wyliau honno.
Tâl Gwyliau pan Derfynir Cyflogaeth
Os byddwch yn ein gadael ran o'r ffordd drwy flwyddyn wyliau, bydd gennych hawl i dderbyn tâl am unrhyw wyliau blynyddol a gronnwyd yn y flwyddyn wyliau honno nad ydynt wedi'u cymryd erbyn dyddiad terfynu eich cyflogaeth.
Ar ddyddiad terfynu eich cyflogaeth, os ydych wedi cymryd mwy o wyliau â thâl na'r hawl a gafwyd, bydd angen ichi wneud ad-daliad (drwy ddidyniad o'ch cyflog os oes angen) mewn perthynas â'r fath wyliau.
Ni wneir taliad ichi yn lle gwyliau contractiol a gronnwyd (a lle bo'n briodol gwneir didyniad o'ch cyflog) os terfynir eich contract oherwydd camymddwyn difrifol, neu os na fyddwch yn rhoi digon o rybudd ynghylch terfynu'r contract neu os byddwch yn gadael cyn bod y cyfnod rhybudd contractiol wedi dod i ben. Ystyr gwyliau contractiol at y dibenion hyn yw pob ac unrhyw hawl i wyliau y darperir ar ei chyfer yng nghontract y gweithiwr sy'n ychwanegol at isafswm y cyfnod gwyliau statudol y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Amser Gweithio 1998 (h.y. 5.6 wythnos neu uchafswm o 28 diwrnod).
Salwch a Gwyliau
Os byddwch yn mynd yn dost neu'n cael anaf tra byddwch ar wyliau, byddwn yn caniatáu ichi drosglwyddo i absenoldeb salwch a chymryd gwyliau yn lle hynny yn ddiweddarach. Mae'r polisi hwn yn amodol ar yr amodau llym canlynol:
- Rhaid i holl gyfnod yr analluedd gael ei ardystio'n llawn gan ymarferydd meddygol cymwys.
- Rhaid ichi gysylltu â'ch rheolwr llinell dros y ffôn ar ddiwrnod cyntaf unrhyw gyfnod hysbys o analluedd yn ystod gwyliau.
- Rhaid ichi gyflwyno cais ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell, heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod calendr ar ôl dychwelyd i'r gwaith, gan nodi faint o gyfnod y gwyliau a effeithiwyd gan salwch a faint o wyliau yr ydych yn dymuno eu cymryd rywbryd arall.
- Os byddwch dramor pan fyddwch yn mynd yn dost neu'n cael anaf, rhaid dangos tystiolaeth eich bod yn dost naill ai drwy dystysgrif feddygol neu brawf o hawliad ar bolisi yswiriant am driniaeth feddygol a dderbyniwyd dramor.
- Rhaid i chi dalu holl gostau'r ardystiad meddygol.
Os byddwch yn bodloni'r holl amodau uchod, byddwn yn rhoi'r un nifer o ddyddiau o wyliau ichi yn y flwyddyn wyliau gyfredol â'r nifer a gollwyd oherwydd salwch neu anaf. Rhaid i'r gwyliau yn lle'r gwyliau a gollwyd gael eu cymryd ym mlwyddyn wyliau gyfredol y gweithiwr lle bynnag y bo hynny'n ymarferol. Lle bo angen trosglwyddo gwyliau oherwydd bod gwyliau wedi'u rhoi yn lle gwyliau a gollwyd, dim ond elfen statudol unrhyw wyliau nas cymerwyd y gellir ei throsglwyddo (a thybir mai gwyliau blynyddol statudol a gymerwyd gyntaf mewn unrhyw flwyddyn wyliau).
Os ydych yn sâl neu wedi ei anafu cyn dechrau cyfnod o wyliau a gynlluniwyd, bydd y Cyngor yn cytuno y gallwch ohirio'r dyddiadau'r gwyliau tan amser arall y cytunir arno o'r ddeutu (yn y flwyddyn wyliau honno lle bynnag y bo'n bosibl). Yna caiff unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch ei drin yn unol â'r Polisi Rheoli Absenoldeb Salwch. Rhaid ichi gyflwyno cais ysgrifenedig i ohirio'r gwyliau a gynlluniwyd i'ch rheolwr llinell, ynghyd â llythyr gan eich meddyg yn cadarnhau nad ydych yn ddigon iach, neu'n debygol o fod yn ddigon iach, i gymryd y gwyliau.
Rhaid ichi wneud cais i gymryd gwyliau yn lle gwyliau a gollwyd yn unol â'r polisi hwn, a dylech ymdrechu i gymryd y gwyliau yn y flwyddyn wyliau pan maent yn cronni. Fodd bynnag, os yw eich rheolwr llinell yn derbyn bod gennych reswm da dros fethu â gwneud hynny, byddwn yn caniatáu ichi drosglwyddo elfen statudol unrhyw wyliau nas cymerwyd i'r flwyddyn wyliau nesaf. Gallwn ofyn eich bod yn cymryd y cyfan neu ran o'ch gwyliau yn lle gwyliau a gollwyd ar ddiwrnodau penodol, fel y pennir gan eich rheolwr llinell a gofynion y gwasanaeth. Rhoddir o leiaf y cyfnod lleiaf o rybudd dan y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith yn y fath achosion (h.y. dwywaith nifer y diwrnodau o rybudd â'r cyfnod o wyliau).
Cyfrifir eich hawl i wyliau yn seiliedig ar hyd eich gwasanaeth di-dor, fel y nodir isod:
Blynyddoedd o Wasanaeth | Gwyliau Blynyddol | Gwyliau Banc | Cyfanswm |
---|---|---|---|
0 - < 5 o flynyddoedd | 26 | 8 | 34 |
5 - < 10 o flynyddoedd | 31 | 8 | 39 |
10+ o flynyddoedd | 34 | 8 | 42 |
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol