Ymateb
Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023
Os ydych yn gwybod bod rhywun mewn perygl dybryd, dylech ffonio’r gwasanaeth brys priodol ar 999.
Fel arall, cofiwch nad eich cyfrifoldeb chi fel rheolwr yw atal y cam-drin neu helpu gweithiwr i ddianc o berthynas gamdriniol. Y ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi gweithiwr yw eu cyfeirio at yr asiantaethau priodol yn Sir Gaerfyrddin sydd â'r arbenigedd i gynorthwyo a darparu cymorth arbenigol parhaus. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth.
Fel rheolwr a gweithiwr, mae gennych ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor i sicrhau, eich iechyd, eich diogelwch a’ch lles eich hun a gweithwyr eraill yn y gwaith, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol. Mae hefyd angen i chi asesu'r risg o drais i weithwyr a gwneud trefniadau ar gyfer eu hiechyd a'u diogelwch.
Pan fyddwch yn cael gwybod am gam-drin domestig, trais domestig neu rywiol, dylech annog y gweithiwr i gysylltu ag asiantaeth arbenigol a fydd yn gallu cynnal asesiad risg cam-drin domestig penodol yn ogystal â darparu cymorth ymarferol ac emosiynol.
Mae'n rhaid i chi hefyd drafod diogelwch y gweithiwr yn y gwaith gydag ef a sicrhau bod cyn lleied â phosibl o risg i’r gweithiwr a'r cydweithwyr. Os oes risg bosibl i weithwyr eraill, dylech geisio cyngor wrth gynnal asesiad risg a chymryd camau i leihau’r risgiau yn y gweithle. (Gweler y mesurau a awgrymir isod.)
Os bydd digwyddiad yn codi yn y gwaith, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei gofnodi a bod camau dilynol yn cael eu cymryd o dan Gofrestr a Phecyn Cymorth Diogelwch Personol y Cyngor.
Er y bydd y canllawiau hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd o drais yn y gweithle, efallai y bydd yn rhaid i reolwyr ystyried ffactorau ychwanegol os yw’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â cham-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol. Gall y digwyddiadau hyn gynnwys partneriaid treisgar, cyn-bartneriaid neu berthnasau yn ymweld â'r gweithle, galwadau ffôn sarhaus, brawychu neu aflonyddu ar staff gan yr un sy'n cyflawni'r cam-drin.
Gellir mynd i’r afael â’r materion hyn gan ddefnyddio’r mesurau canlynol fel y bo’n briodol:
- gwella mesurau diogelwch megis newid rhifau bysellbad neu sicrhau bod mynediad i adeiladau ar gael i staff awdurdodedig yn unig;
- atgoffa staff y dderbynfa/switsfwrdd i beidio â datgelu gwybodaeth am staff, yn enwedig manylion personol megis cyfeiriadau, rhifau ffôn neu batrymau sifft;
- newid rhif ffôn gwaith y gweithiwr a thynnu eu henw a’u rhif o’r llyfr ffôn fel na all gweithwyr roi rhif ffôn y gweithiwr yn anfwriadol;
- pennu person cyswllt brys gyda’r gweithiwr rhag ofn na allwch gysylltu ag ef;
- bwrw golwg ar wybodaeth perthynas agosaf y gweithiwr gydag ef i sicrhau bod cyfle i’r gweithiwr enwebu perthynas agosaf arall os yw’r cyflawnwr wedi’i nodi;
- gosod wal dân i rwystro neu ddargyfeirio e-byst oddi wrth y cyflawnwr i ffolder ar wahân. Sicrhau bod e-byst yn cael eu cadw i'w defnyddio fel tystiolaeth os oes angen;
- cynnig newidiadau dros dro neu barhaol yn y gweithle, amseroedd gwaith a phatrymau yn unol â Pholisi Gweithio Hyblyg y Cyngor, gan helpu i sicrhau bod y gweithiwr yn llai agored i risg yn y gwaith, ac ar eu teithiau i'r gwaith ac oddi yno. Gallai hyn gynnwys newidiadau i gynllun y swyddfa, i sicrhau nad oes modd gweld y gweithiwr o'r dderbynfa neu, o ffenestri'r llawr gwaelod;
- cynnig newidiadau mewn dyletswyddau penodol, megis ateb y ffôn neu weithio yn y dderbynfa neu mewn amgylchiadau eithriadol, adleoli dros dro neu barhaol i swydd arall yn unol â Pholisi Adleoli y Cyngor;
- cytuno gyda’r unigolyn beth i’w ddweud wrth staff, a sut y dylent ymateb os bydd y camdriniwr yn ffonio neu’n galw yn y gweithle. Rhoi llun o’r camdriniwr i gydweithwyr, a manylion perthnasol eraill megis rhif cofrestru car, a allai helpu i gynnal diogelwch yn y gweithle;
- sicrhau bod y systemau ar gyfer cofnodi lleoliad staff yn ystod y dydd yn ddigonol. Os oes angen cynnal ymweliadau y tu allan i’r swyddfa fel rhan o'r gwaith, dylid ystyried sut y gellir lleihau risgiau, e.e., newid dyletswyddau neu ganiatáu i gydweithiwr arall fynd gyda nhw ar deithiau penodol;
- cofnodi unrhyw achosion o drais yn y gweithle gan y cyflawnwr, gan gynnwys galwadau ffôn cyson, e-byst neu ymweliadau ag aelod o staff gan eu partner/cyn-bartner neu berthynas. Dylid cofnodi manylion unrhyw dystion hefyd. Gellid defnyddio'r cofnodion hyn os yw staff yn dymuno dwyn cyhuddiadau neu wneud cais am waharddeb yn erbyn y cyflawnwr honedig. Gallai'r Cyngor hefyd wneud cais am waharddeb os yw ymddygiad y cyflawnwr honedig yn amharu ar iechyd a diogelwch aelodau eraill o staff;
- efallai y bydd yn rhaid i reolwyr ystyried a yw'r mesurau y manylir arnynt uchod yn weithredol ymarferol, gan gofio mai sicrhau diogelwch y staff ddylai fod y prif ystyriaeth drwy gydol y broses.
Yn bwysicach, cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â'r gweithiwr.
Gall staff sy’n dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol fod yn fwy agored i straen yn y gwaith a dylid cyfeirio at Bolisi a phecyn cymorth Rheoli Straen y Cyngor.
Pan fydd aelod o staff wedi dweud wrthoch chi, eu rheolwr, yn gyfrinachol eu bod yn dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, dylech roi sicrwydd iddynt y bydd y wybodaeth hon yn aros yn gyfrinachol oni bai eu bod yn rhoi caniatâd penodol i chi drafod y mater gyda pherson arall. Gallai torri cyfrinachedd gael effaith ddifrifol ar y person sy’n dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol. Dengys ystadegau fod risg o ymosodiad mwy difrifol, anaf parhaol, a hyd yn oed llofruddiaeth yn digwydd pan fydd y dioddefwr yn penderfynu gadael y cartref, neu'n syth ar ôl hynny. Mae'n bwysig iawn peidio â diystyru'r perygl na thybio bod ofn trais yn cael ei orliwio.
Gyda chaniatâd penodol yr unigolyn dan sylw, h.y., cytuno ar ba wybodaeth y gallwch ei rhannu gyda chydweithwyr, mae'n rhaid i chi sicrhau bod y gweithwyr eraill hyn yn llwyr ymwybodol o unrhyw risgiau. Dylid atgoffa gweithwyr sy’n cael gwybodaeth o’r fath fod y wybodaeth yn gyfrinachol, a gallai datgelu'r wybodaeth heb ganiatâd arwain at roi Gweithdrefnau Disgyblu’r Cyngor ar waith.
Ni ddylid rhannu gwybodaeth am gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol ag ymarferwyr eraill oni bai bod hyn yn angenrheidiol a bod y gweithiwr wedi rhoi caniatâd i wneud hynny. Yr unig eithriadau i hyn yw:
- Pan fydd materion amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed yn codi, er enghraifft, os yw gweithiwr yn rhoi gwybodaeth sy’n awgrymu bod eu plentyn neu blentyn arall neu oedolyn agored i niwed mewn perygl o ‘niwed sylweddol’ (boed yn gorfforol, yn emosiynol, yn rhywiol neu o ran esgeulustod). Yn yr amgylchiadau hyn, dylech roi gwybod i’r gweithiwr fod angen ichi ofyn am gyngor pellach gan yr asiantaeth briodol, e.e., Timau Diogelu Oedolion a/neu Amddiffyn Plant y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac efallai y bydd yn rhaid trosglwyddo gwybodaeth berthnasol.
- lle gallai eraill, megis defnyddwyr gwasanaeth, cwsmeriaid neu gydweithwyr gael eu rhoi mewn perygl, mae angen rhoi gwybod i'r gweithiwr y gallai gwybodaeth gael ei rhannu ag eraill.
Dylid cymryd camau priodol i sicrhau nad yw ffeiliau sy'n cynnwys gwybodaeth am y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol yn cynnwys manylion am gyfeiriadau presennol. Efallai y bydd angen cadw cyfeiriadau ar wahân i sicrhau nad oes gan y camdriniwr unrhyw ffordd o gael gafael arnynt.
Dylech fod yn ymwybodol y gall fod gweithwyr sy’n cyflawni cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, a bod cyfrinachedd o’r pwys mwyaf gan y gallai’r dioddefwr a’r cyflawnwr fod yn gweithio i’r Cyngor.
Dylech roi gwybod i gydweithwyr ar sail ‘angen gwybod’ a chyda chaniatâd y gweithiwr a chytuno ar ymateb os yw’r cyflawnwr yn cysylltu â’r gweithle.
Gyda chaniatâd y gweithiwr, rhannwch lun o’r cyflawnwr a'i fanylion car gyda chydweithwyr a staff y dderbynfa fel y gallant wybod pwy ydyw.
Atgoffwch yr holl staff i beidio byth â datgelu gwybodaeth bersonol am weithwyr i’r rhai sy’n galw (e.e., patrymau sifft, cyfeiriadau, rhifau ffôn ac ati). Peidiwch byth â dweud wrth y galwr ble mae'r gweithiwr a faint o'r gloch y bydd yn ôl na dweud eu bod ar wyliau.
Mae’r Cyngor yn caniatáu i staff sydd wedi datgelu eu bod yn dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol gael hyd at 10 diwrnod o ‘Absenoldeb Diogel’ â thâl i’w galluogi i roi sylw i’w hanghenion. Dylai rheolwyr ystyried yr opsiwn hwn ac opsiynau eraill o ran amser o'r gwaith, megis amser o’r gwaith ar gyfer dibynyddion, gyda'r gweithiwr ac ystyried yn gydymdeimladol yr holl geisiadau am amser o'r gwaith â thâl neu'n ddi-dâl yn unol â Pholisi Amser o'r Gwaith y Cyngor. Dylid ystyried absenoldeb di-dâl ar ôl ystyried yr holl opsiynau eraill o ran absenoldeb â thâl.
Gallai ceisiadau am absenoldeb diogel neu amser o'r gwaith gynnwys:
- apwyntiadau gyda gwasanaethau/asiantaethau cymorth, gweithwyr cymdeithasol neu gwnselwyr
- trefnu symud tŷ
- cyfarfodydd gyda chyfreithwyr neu'r heddlu
- gwneud trefniadau eraill o ran gofal plant, gan gynnwys cyfarfodydd ag ysgolion
- achosion llys yn ymwneud ag achosion o drais domestig neu rywiol.
Dylech ddweud wrth y gweithiwr am wneud cais am absenoldeb diogel yn ymwneud â cham-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol fel ‘absenoldeb arbennig’ gyda thâl, gan ddefnyddio’r cyfleuster hunanwasanaeth ar Resource Link. Gallwch awdurdodi'r math hwn o absenoldeb ar-lein yn gyfrinachol gan ddefnyddio'r caniatâd diogelwch priodol.
Os yw cyflawnwr yn gwrthod rhoi mynediad i’w harian i weithiwr, dylech ystyried newidiadau yn nhrefniadau cyflog y gweithiwr. Gallai hyn fod yn bwysig iawn os yw'r gweithiwr yn bwriadu gadael y cyflawnwr.
Ymhlith yr opsiynau sydd ar gael y mae:
- Atal cyflog rhag mynd i'r cyfrif banc enwebedig hyd at 48 awr cyn diwrnod cyflog. Gellir oedi cyflog nes bod cyfrif newydd wedi'i enwebu;
- Trefnu bod y gweithiwr yn cael eu talu â siec nes bod cyfrif newydd wedi’i enwebu.
Dylid trefnu unrhyw newidiadau i daliadau cyflog yn gyfrinachol gyda'r gyflogres a dylech sicrhau y gellir gwneud taliad ar y dyddiad priodol cyn cadarnhau hynny gyda'r gweithiwr.
Efallai y bydd Undebau Llafur yn gallu cynnig benthyciadau i'w haelodau; mae'n werth trafod hyn gyda'r gweithiwr a'i gynrychiolydd undeb.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Rheoli holl heintiau anadlol gan gynnwys Covid
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol