Cefnogaeth Gweithwyr

Diweddarwyd y dudalen: 07/06/2024

Bydd ein gweithwyr yn mynd trwy ystod o brofiadau gwahanol ar wahanol adegau yn ystod eu gyrfaoedd gyda Sir Gaerfyrddin. Gallai hyn fod mewn perthynas â newidiadau yn y gweithle, neu amgylchiadau personol, sy'n cael effaith ar eu bywyd gwaith.

Os yw rheolwr yn bryderus am iechyd a llesiant gweithiwr ar unrhyw adeg, mae'n bwysig ei fod yn siarad â'r gweithiwr. Ceisiwch greu'r amgylchedd cywir, gan gynnig pob cyfle i'r gweithiwr rannu ei bryderon, neu unrhyw anawsterau y mae'n eu hwynebu yn y gwaith, yn y cartref, neu gyda'i iechyd a'i lesiant, sy'n effeithio arno.

Mae'r canlynol yn ystod o ddulliau ac awgrymiadau i weithwyr a rheolwyr mewn amgylchiadau o'r fath, ond os nad ydych yn siŵr sut i weithredu o ran y mater hwn, efallai y byddai'n briodol gofyn am gyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol, neu Iechyd Galwedigaethol.

Cymorth Iechyd a Llesiant

Er mwyn darparu cymorth ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau, gellir dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar adran Canllawiau i Reolwyr ar y tudalennau Iechyd a Llesiant.

Gall eich Canolfan Iechyd Galwedigaethol roi cyngor meddygol fel sy'n ofynnol gan Feddygon, Nyrsys, ac mae Gwasanaeth Cymorth Llesianth hefyd ar gael sydd ag ymarferwyr cofrestredig a all ddarparu cymorth seicolegol 1:1 a chymorth grŵp i holl staff CSC.

Dysgu a Datblygu

Mae’r uned Datblygu a Dysgu Corfforaethol yn cynnal cyrsiau cyn ymddeol i weithwyr sy’n paratoi at ymddeoliad neu sy’n ystyried ymgeisio am derfynu cyflogaeth yn gynnar dan y cynllun terfynu cyflogaeth.

Cyfleoedd am Waith a Chyngor ar Fudd-daliadau

  • Mae Gyrfa Cymruyn wasanaeth Cymru gyfan sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim i bobl o bob oed.
  • Gwybodaeth am ddiswyddiadau i weithwyr.
  • Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn un o asiantaethau’r llywodraeth sy’n cynorthwyo pobl sydd mewn oed gweithio i symud o fudd-dal i waith, gan helpu cyflogwyr i lenwi eu swyddi gwag.
  • • Mae Un Sir Gâr wedi cael ei sefydlu gan bartneriaeth o asiantaethau yn y sir i’w gwneud yn haws i unigolion o bob oedran, pob lefel o alluoedd, sgiliau a diddordebau gael mynediad i’r llwybr yn ôl i waith a’r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael. Y partneriaid allweddol yw’r Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Coleg Sir Gâr, Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol a Chyngor Sir Caerfyrddin; rhyngddynt mae ganddynt gyfoeth o brofiad a chysylltiadau gyda chyflogwyr ar draws y sir. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.unsirgar.co.uk neu ffoniwch 0800 9173 408 yn rhad ac am ddim.

Sgiliau Cyfweliad a CV

Mae’n bosibl na fuoch mewn cyfweliad am swydd ers tro. Mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth am:

Swyddi gwag diweddaraf gyda’r Cyngor

Ewch i’r adran swyddi a gyrfaoedd ar ein gwefan i weld manylion y swyddi gwag diweddaraf a’r cyfleoedd i adleoli yn y Cyngor.

Os ydych yn wynebu colli eich swydd, sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r polisi adleoli a’r camau y mae angen ichi eu cymryd i gael y siawns gorau o ddod o hyd i waith arall addas.​​

Cyngor Ariannol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu pobl i wneud y gorau o’u harian. Maent yn rhoi cyngor ariannol diduedd, rhad ac am ddim, ar-lein, ar we-sgwrs, dros y ffôn, mewn canllawiau printiedig ac wyneb yn wyneb.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol neu e-bostiwch: moneyadviser@citizensadvice.org.uk neu ffoniwch 0300 500 5000.

I gael cyngor diduedd, rhad ac am ddim i weithwyr sy’n dymuno ceisio cyngor ar sut i ddelio â dyledion, cysylltwch ag arweiniad a chyngor ar ddyledion Payplan. Gyda chefnogaeth gan sefydliadau fel y ganolfan cyngor ar bopeth, y llinell ddyledion genedlaethol a’r sefydliad cynghorwyr ariannol. Gallwch gysylltu â Payplan drwy ffonio: 0800 280 2816 Llun-Gwener 8am-9pm a Sad 9-3.

Shelter Cymru – ‘Gallwn ni ei Datrys’

Gall unrhyw un fod yn bryderus ynglŷn â’i dŷ a’i arian, waeth beth fo’r amgylchiadau. Os ydych chi’n cael problemau, neu os hoffech wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael i chi, gall Shelter Cymru helpu. Gwasanaeth cynghori gan Shelter Cymru ydy Gallwn ni ei Datrys ac fe’i bwriedir ar gyfer pobl sydd mewn gwaith. Mae’r cyngor am ddim, yn annibynnol ac yn gwbl gyfrinachol. Ewch i wefan Shelter Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Gwybodaeth am Bensiynau

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r pensiwn llywodraeth leol ewch i wefan cronfa bensiwn Dyfed.

Os ydych chi’n poeni neu os oes gennych gwestiynau am gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau. Mae’n sefydliad annibynnol, nid er elw sy’n darparu gwybodaeth ac arweiniad am ddim. Gall y gwasanaeth hwn helpu hefyd os oes gennych broblem gyda’ch darparwr pensiwn galwedigaethol neu breifat. Ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau i gael rhagor o wybodaeth.​

Cymorth i Ddechrau Busnes

Os ydych yn wynebu colli eich swydd ac yn ystyried dechrau eich busnes eich hun mae yna nifer o wefannau sy’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth.

Adnoddau Dynol