Crefydd a chred

Diweddarwyd y dudalen: 16/04/2021

Daeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2013 i rym ar 2 Rhagfyr 2003. Mae’r Rheoliadau’n atal gwahaniaethu mewn cyflogaeth ar sail crefydd neu gred. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn disodli’r rheoliadau hyn. Mae rhwymedigaethau’r Cyngor fel cyflogwr yn dal i fod yr un fath i raddau helaeth. Nod y canllawiau hyn yw helpu Rheolwyr i ddeall sut i gydymffurfio â deddfwriaeth wrth gydnabod a rheoli mynegiant o grefydd neu gred yn y gweithle. 

Gellir diffinio crefydd neu gred fel a ganlyn:

Unrhyw gred grefyddol, ar yr amod bod gan y grefydd strwythur neu system ddaliadau eglur. Gall enwadau neu sectau o fewn crefydd gael eu hystyried yn grefydd neu gred grefyddol a warchodir.

Mae’r un mor anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun am beidio ag arddel crefydd neu gred athronyddol benodol (neu unrhyw grefydd neu gred athronyddol) ag ydyw gwahaniaethu yn erbyn rhywun am arddel cred grefyddol neu athronyddol.

Gall gwahaniaethu ddigwydd hyd yn oed lle mae’r sawl sy’n gwahaniaethu a’r sawl y gwahaniaethir yn ei erbyn yn arddel yr un gred grefyddol neu athronyddol.

Wedi’u rhestru isod mae rhai o’r crefyddau a chredoau a arferir fynychaf ym Mhrydain. Fodd bynnag, mae llawer mwy ac ni ddylid ystyried bod y rhestr hon yn gynhwysfawr.

  • Anffyddiaeth
  • Baha’i
  • Bwdhaeth
  • Cristnogaeth
  • Hindŵaeth
  • Islam (Mwslimiaid)
  • Jainiaeth
  • Iddewiaeth
  • Rastaffariaeth
  • Siciaeth
  • Zoroastriaeth (parsi)

Rydym yn ymegnïo i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae gennym rwymedigaeth dan y rheoliadau i sicrhau nad oes gwahaniaethu’n digwydd yn y gweithle ar sail unrhyw hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiadau ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd, oedran, rhyw, statws ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu briodasol, a beichiogrwydd neu famolaeth. Dylid cyfeirio hefyd at y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sydd i’w weld dan y Polisïau a Chanllawiau Adnoddau Dynol ar y fewnrwyd.

Er nad yw’r rheoliadau’n rhoi unrhyw hawl gyfreithiol i gael amser o’r gwaith, boed â thâl neu heb dâl am resymau crefyddol, gellir ystyried gwyliau blynyddol, oriau gwaith hyblyg neu absenoldeb heb dâl gan ddibynnu ar yr amgylchiadau a lle mae hawl i absenoldeb wedi cael ei defnyddio i gyd. Cyfeirier at y Polisi Amser o’r Gwaith ar y fewnrwyd.

Wrth ystyried cais sy’n ymwneud â chrefydd neu gred gan gyflogai, dylech asesu a yw’r grefydd neu’r gred yn un wirioneddol a hefyd a fydd derbyn neu wrthod y cais yn gyfreithlon dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol.

Canllawiau
Crefydd a Chred (.pdf)

Adnoddau Dynol