Cam 1 - Man Cychwyn
Diweddarwyd y dudalen: 02/02/2024
Cam 1 – Beth yw eich man cychwyn?
Elfen gyntaf eich cynllun gweithlu yw cadarnhau eich man cychwyn. Mae'r cam hwn yn ymwneud â chydnabod y pwysau allanol ar y farchnad lafur, dyfodol y gwaith, eich blaenoriaethau presennol a dadansoddiad o dalent fewnol eich is-adran neu'ch adran.
Pam y mae hyn yn bwysig?
Mae deall eich man cychwyn yn bwysig gan fod hynny'n eich helpu i bwyso a mesur ffactorau allanol a mewnol sy'n effeithio ar eich is-adran a'ch adran.
Beth allwch chi ei wneud?
Dyma rai offer a awgrymir a all eich helpu i ddeall eich man cychwyn.
Dadansoddiad PESTLE
Gall dadansoddiad PESTLE eich helpu i nodi eich pwysau allanol. Dyma un o'r fframweithiau mwyaf effeithiol ar gyfer adnabod cyd-destun y 'darlun mawr' y mae eich is-adran a'ch adran yn gweithredu ynddo. Dylai edrych tua'r dyfodol fod yn flaenoriaeth i ddeall y sbardunau a allai ddylanwadu ar gyfeiriad eich is-adran a'ch adran.
Mae'n ystyried chwe ffactor allweddol - ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasegol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol. Mae monitro ac asesu pob un o'r ffactorau allanol hyn a'r effaith y gallant ei chael yn eich galluogi i lunio dull o feddwl a chynllunio busnes. Gweler taflen ffeithiau'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ar sut i gynnal dadansoddiad PESTLE
Dadansoddiad SWOT
Bydd cynnal dadansoddiad SWOT syml, ochr yn ochr â dadansoddiad PESTLE, yn eich helpu i nodi elfennau mewnol ar gyfer y cam hwn – meysydd cryfderau a lle gall fod cyfleoedd neu fygythiadau i'ch is-adran a'ch adran.
Bydd ffactorau allanol, fel y rhai a ystyrir mewn dadansoddiad PESTLE, yn rhyngweithio â ffactorau mewnol a all effeithio ar strategaethau adrannol a chorfforaethol. Bydd cynnal y dadansoddiadau hyn yn eich cynorthwyo i nodi rolau critigol, ymhlith eraill, yn eich is-adran a'ch adran. Bydd gwybod am rolau critigol yn eich helpu i flaenoriaethu eich camau gweithredu pellach. Cewch fwy o wybodaeth am rolau critigol ar y dudalen hon.
Dylech gynnwys eich timau yn yr ymarferion hyn, gan fod hynny'n rhoi mewnwelediad defnyddiol i'r heriau ac, yn bwysicach, atebion posibl.
Casglu Data a Gwybodaeth
- Ble mae’r data?
- Beth yw ei ansawdd/pa mor ddibynadwy ydyw?
- Pa mor aml y mae’n newid?
- Beth yw’r bylchau?
Ble mae eich ffynonellau data?
Mae'r wybodaeth a fydd yn eich helpu i ddeall eich llinell sylfaen yn cynnwys y canlynol:
- Proffil gweithlu/data risg – mae'r ffynonellau data canlynol ar gael i Benaethiaid Gwasanaeth, Rheolwyr Pobl a thimau Uned Cymorth Busnes (fel y bo'n briodol, yn amodol ar ganiatâd mynediad):
- Dangosfwrdd PowerBI ar Gynllunio ar gyfer Olyniaeth (Penaethiaid Gwasanaeth/Arweinwyr Gwasanaeth/Arweinwyr Perfformiad Uned Cymorth Busnes ar gais drwy Dîm Resourcelink)
- Dangosfwrdd PowerBI ar Nifer y Staff (Penaethiaid Gwasanaeth/Arweinwyr Gwasanaeth/Arweinwyr Perfformiad Uned Cymorth Busnes ar gais drwy Dîm Resourcelink)
- Gwasanaethau Adrodd Resourcelink adroddiadau safonol ar y gweithlu drwy Manager's View. Gellir cael cyngor gan dîm Resourcelink ynghylch y defnyddwyr craidd adrannol a all eich cynorthwyo.
- Adroddiadau Perfformiad Chwarterol/Diwedd Blwyddyn ar Absenoldeb Salwch
- Cyngor gan y Tîm Dysgu a Datblygu ar sut i greu eich cynlluniau dysgu a datblygu eich hun. Cysylltwch â'r blwch post Dysgu a Datblygu.
- Gwybodaeth gyllidebol neu gynlluniau arbedion effeithlonrwydd (Cyllidebu ar sail Blaenoriaethau) ar gyfer eich uned fusnes - siaradwch â'ch Cyfrifydd Grŵp.
- Eich cynllun cyflawni busnes presennol, gan gynnwys blaenoriaethau allweddol o ran cyflawni; a
- Gwybodaeth / tueddiadau demograffig – siaradwch â'r tîm Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth i gael cyngor.
Unwaith y byddwch yn deall eich is-adran a'ch gweithlu yn well, gallwch ddadansoddi eich data ar y gweithlu fel y gallwch ganolbwyntio ar y rolau sydd bwysicaf ac a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar eich perfformiad is-adrannol ac adrannol.
Dadansoddi eich data
Gallwch ddadansoddi eich data ar y gweithlu fel a ganlyn:
- Demograffeg, e.e. oedran, rhyw, ac ati.
- Strwythurau, lefelau hierarchaeth, swyddi, cymwyseddau, mathau o gontractau, ac ati.
Bydd hyn yn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'ch gweithlu presennol fel y gallwch nodi unrhyw fylchau neu broblemau.
Mae cyngor, arweiniad a chymorth ynghylch maint a dyfnder eich dadansoddiad data ar gael gan eich Tîm Cymorth Busnes adrannol a'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol.
Datblygwyd y daenlen dadansoddi rolau critigol ar gyfer cynllunio'r gweithlu gan ddefnyddio oedran a rhyw yn elfennau demograffig allweddol. Gallwch ddewis ychwanegu setiau data eraill ynghylch y gweithlu fel y bo'n briodol i lefel a maint y dadansoddiad yr hoffech ei wneud.
Cymerwch bob cam ar y tro gan ddilyn y canllawiau.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol