Anghydfodau torfol
Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023
Rydym am sicrhau bod ein polisïau a'n gweithdrefnau yn trin ein holl weithwyr yn deg. Fodd bynnag, mewn unrhyw sefydliad mor fawr ac mor gymhleth â ni, gall anghydfodau torfol barhau i ddigwydd. Datblygwyd y polisi hwn a'r weithdrefn hon yn dilyn trafodaethau ag undebau llafur cydnabyddedig i ddarparu ffordd o ddatrys anghydfodau a allai godi gan grwpiau o weithwyr.
Diffiniad
Y diffiniad o "anghydfod torfol" yw anghydfod y ceir hysbysiad yn ei gylch gan undeb llafur cydnabyddedig, yn unol â'r weithdrefn anghydfodau torfol, ar ran grŵp o'n gweithwyr
Os nad ydych yn gallu datrys eich pryderon yn anffurfiol, bydd eich cynrychiolydd undeb llafur sy'n gweithredu ar eich rhan yn codi achwyniad torfol ar gyfer eich grŵp gyda'r rheolwr llinell perthnasol drwy gwblhau'r Ffurflen Gweithdrefn Anghydfodau Torfol (Atodiad 1). Dylid anfon copi hefyd at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er gwybodaeth. Bydd eich rheolwr yn cydnabod ei fod wedi cael yr anghydfod torfol cyn pen 7 diwrnod calendr.
Bydd eich rheolwr yn ystyried a yw eich pryderon yn effeithio ar dimau eraill yn eich Adran ac yn cael cyngor gan y Tîm AD.
Os yw'r mater yn effeithio ar eich grŵp yn unig, bydd eich rheolwr yn trefnu cyfarfod gyda'ch undeb llafur. Fel arfer dylai hwn gael ei gynnal cyn pen 21 diwrnod calendr ar ôl i anghydfod ffurfiol ddod i law er mwyn ceisio cael hyd i ateb. Bydd eich cynrychiolydd undeb llafur yn derbyn ymateb ysgrifenedig yn cadarnhau'r canlyniad a'r rhesymau am y penderfyniad cyn pen 14 diwrnod calendr arall wedi'r cyfarfod. Dylid anfon copi hefyd at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er gwybodaeth.
Os yw'r mater yn effeithio ar fwy nag un adain yn yr un adran, bydd eich rheolwr yn trafod y mater gyda'r rheolwyr adain perthnasol cyn trefnu cyfarfod. Lle bo hynny'n briodol, gall rheolwyr adain perthnasol hefyd fynychu'r cyfarfod gyda'ch cynrychiolydd undeb llafur. Bydd eich cynrychiolydd undeb llafur yn derbyn ymateb ysgrifenedig yn cadarnhau'r canlyniad a'r rhesymau dros y penderfyniad cyn pen 14 diwrnod calendr arall wedi'r cyfarfod. Dylid anfon copi hefyd at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er gwybodaeth.
Os yw'r mater yn effeithio ar adrannau eraill, bydd y Tîm AD yn trefnu cyfarfod gyda rheolwyr perthnasol yr adrannau o dan sylw a'ch cynrychiolydd undeb llafur er mwyn ceisio cael hyd i ateb. Bydd eich cynrychiolydd undeb llafur yn derbyn ymateb ysgrifenedig yn cadarnhau'r canlyniad a'r rhesymau am y penderfyniad cyn pen 14 diwrnod calendr arall wedi'r cyfarfod. Dylid hefyd anfon copi at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er gwybodaeth. Fel arall, gellir cyfeirio'r mater at Fforwm Corfforaethol Cysylltiadau â'r Gweithwyr i'w ystyried/ddatrys.
Os nad ydych yn fodlon ar y canlyniad, gallwch godi'r anghydfod torfol yn y cam nesaf trwy eich cynrychiolydd undeb llafur. Dylid gwneud hyn yn ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) cyn pen 14 diwrnod calendr ar ôl derbyn penderfyniad eich rheolwr.
Os na dderbynnir ymateb ysgrifenedig gan gynrychiolydd/gynrychiolwyr yr undeb llafur o fewn yr amser a bennwyd, gellir cyfeirio'r mater hefyd at ail gam y weithdrefn.
Gall eich cynrychiolydd/cynrychiolwyr undeb llafur godi'r anghydfod torfol yn ysgrifenedig gyda'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl). Dylid gwneud hyn trwy lenwi'r Ffurflen Gweithdrefn Anghydfodau Torfol (Atodiad 1). Dylid amgáu copïau o unrhyw ohebiaeth flaenorol gyda'r llythyr.
Mewn sefyllfaoedd penodol h.y. lle mae'r ddau barti yn cytuno nad yw trafodaeth Cam 1 o'r Weithdrefn Anghydfodau Torfol yn briodol ac y dylid cofrestru'r anghydfod yn uniongyrchol yn ystod yr ail gam, cynghorir eich cynrychiolydd undeb llafur i ysgrifennu ac i esbonio'r rhesymau dros hynny i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) a fydd yn cydnabod bod eich anghydfod torfol wedi dod i law cyn pen 7 diwrnod calendr.
Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) yn trefnu Cyfarfod Cam 2 er mwyn ystyried yr anghydfod torfol gyda'ch cynrychiolydd undeb llafur i geisio cael hyd i ateb. Bydd Panel Cam 2 yn cynnwys dau Gyfarwyddwr (neu'r Pennaeth Gwasanaeth a enwebwyd ganddynt) ac aelod o'r Bwrdd Gweithredol. Dylid cynnal Cyfarfod Cam 2 mewn lle ac ar adeg resymol a hynny cyn gynted â phosibl.
Bydd y Panel yn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd gennych chi a'ch rheolwr, eich barn unigol ac, os yw'n briodol, mae'n bosibl y gwneir cais am ddatganiadau ysgrifenedig a'u cyflwyno cyn y cyfarfod.
Bydd penderfyniad Panel Cam 2 yn derfynol a bydd manylion unrhyw gytundeb y deuir iddo, neu grynodeb o'r sefyllfa i chi a'ch rheolwr, ynghyd â'r penderfyniad a'r argymhellion a wnaed gan y Panel Cam 2, yn cael eu cofnodi'n ffurfiol a'u hanfon atoch chi eich dau cyn pen 7 diwrnod calendr ar ôl y cyfarfod.
Gellir amrywio'r cyfnodau amser i reolwyr drefnu cyfarfodydd ac i roi gwybod ichi am y penderfyniad drwy gytundeb ar y cyd.
Os ydych chi a'ch rheolwr yn methu â chytuno yn ystod Cam 2 mae'n bosibl y gall y naill neu'r llall awgrymu bod y mater sy'n peri pryder yn cael ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu – ACAS ar gyfer cymodi. Mae'n rhaid cytuno ar y cylch gwaith ar y cyd cyn yr atgyfeiriad.
Bydd eich rheolwr a'ch cynrychiolydd undeb llafur yn sicrhau bod telerau unrhyw ddatrysiad y cytunir arno yn unrhyw un o'r camau uchod yn cael eu cadw a'u gweithredu.
Mae'n ofynnol i bob parti beidio â siarad â'r cyfryngau ynghylch unrhyw agweddau ar y trafodaethau sydd yn gysylltiedig â'r anghydfod torfol tan i bob parti gytuno bod y weithdrefn gyfan wedi'i dilyn.
Yn ystod cyfarfod achwyniad torfol, dylid caniatáu i'ch cynrychiolydd undeb llafur esbonio pryderon eich grŵp a rhoi ei farn ynghylch sut dylid ei datrys. Os bydd angen, gall yr unigolyn sy'n cadeirio'r cyfarfod achwyniad torfol ddymuno gohirio'r cyfarfod fel bod modd iddo/iddi gasglu rhagor o wybodaeth neu dderbyn cyngor. Cytunir ar ddyddiad ailgynnull y cyfarfod bryd hynny os bydd modd.
Wedi'r cyfarfod, dylid anfon ymateb ysgrifenedig at eich cynrychiolydd undeb llafur cyn pen 14 diwrnod calendr.
Lle bynnag y bo modd, dylid delio gydag achwyniad torfol yn unol â'r weithdrefn hon cyn ichi adael eich cyflogaeth. Fodd bynnag, os byddwch yn gadael eich cyflogaeth gyda ni ran o'r ffordd drwy'r weithdrefn Anghydfod Torfol, ni fyddwn o dan rwymedigaeth i wrando ar yr achwyniad.
O dan yr amgylchiadau hynny, dylid ceisio cyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol.
Bydd cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw ar hyd y broses achwyniad torfol, gan gynnwys:
- Copi o'r achwyniad ysgrifenedig ac apeliadau dilynol lle bo hynny'n berthnasol
- Copïau o nodiadau cyfarfodydd
- Copi o'r ymateb(ion) ysgrifenedig a roddwyd i'r gweithiwr
- Manylion y camau gweithredu a gymerwyd
Bydd cofnodion yn cael eu cadw ar gyfer pob gweithiwr sy'n ymwneud â'r achwyniad torfol yn eich ffeil bersonol.
Dylid trin y cofnodion fel dogfennau cyfrinachol a'u cadw'n unol â Deddfwriaeth Deddf Diogelu.
Anfonir copïau o hysbysiadau'r cyfarfodydd achwyniad torfol, nodiadau'r cyfarfodydd, y llythyr ymateb ac ati at y swyddog Undeb Llafur sy'n cynrychioli'r achwyniad torfol ar ran eich grŵp o weithwyr dan sylw, oni bai eich bod yn nodi fel arall yn ysgrifenedig.
Bydd yr holl Swyddogion a'r Cynghorwyr sy'n rhan o'r broses anghydfodau torfol yn cael y cymorth a hyfforddiant priodol. Ewch i'n hadran Dysgu a Datblygu i gael rhagor o wybodaeth.
Rhaid bod yn gyson wrth weithredu'r polisi hwn wrth ymdrin â phob gweithiwr, heb ystyried hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol (gan gynnwys dinasyddiaeth), iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu briodasol/partneriaeth sifil, beichiogrwydd na mamolaeth.
Os bydd gennych unrhyw bryderon cydraddoldeb ac amrywiaeth yng nghyswllt cymhwyso’r polisi hwn a’r weithdrefn hon, gofynnir i chi gysylltu ag aelod o’r Tîm AD a fydd, os bydd angen, yn sicrhau bod y polisi/weithdrefn yn cael eu hadolygu’n briodol.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol